14/02/2012

Baner ac Amserau Glan Conwy

O gofnodion y Cyngor dyddiedig 13.12.2011

"7. 2011/12-7:10.3 Polyn Fflag - yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i archebu dau bolyn a dwy fflag, y Ddraig a’r Undeb. Gobeithir y byddent yn eu lle erbyn Gŵyl Dewi.
Mewn nifer o gyfarfodydd diweddar mae'r Cyngor Cymuned wedi nodi ei fod yn "anwleidyddol".

Pan fo ddyfodol yr Undeb yn achos o gontrofersi gwleidyddol ddwys, gyda'r posibilrwydd y daw i ben cyn pen ddwy flynedd os yw'r Alban yn pleidleisio am annibyniaeth, onid gosodiad hynod wleidyddol byddai chwifio Jac yr Undeb yn ein pentref?

Nid oes gan Gymru presenoldeb ar Jac yr Undeb, mae baner yr Undeb yn pwysleisio mae rhan o Deyrnas Lloegr yw Cymru, ac mae hynny'n sarhad ar bob Cymro Gwladgar, ac yn osodiad hynod bleidiol gwleidyddol.

Fel Cymro gwladgarol nid ydwyf yn dymuno gweld Baner yr Undeb yn cael ei chwifio dros y pentref Cymreig yr ydwyf yn byw ynddi, os yw hynny'n golygu na fydd y Ddraig yn chwifio yn ein pentref chwaith - iawn.

Dydy Cyngor ein cymuned heb ei hethol. Yn sicr nid ydyw wedi ei greu ar sail wleidyddol rhwng gwahaniaeth barn unoliaethwyr a chenedlaetholwyr, a oes gan y cyngor, gan hynny, yr hawl moesol i hoelio ei faner ar fast yr Undeb heb unrhyw ymgynghoriad?

Os am gwyno e-bost Clerc y Cyngor yn ol gwefan y Cyngor yw:

jd.gc@talktalk.net

1 comment:

  1. Fel Cymro gwladgarol nid ydwyf yn dymuno gweld Baner yr Undeb yn cael ei chwifio dros y pentref Cymreig yr ydwyf yn byw ynddi, os yw hynny'n golygu na fydd y Ddraig yn chwifio yn ein pentref chwaith - iawn.

    Dyna fyddai fy nymuniad innau hefyd.

    Yn sicr, mae eisiau amlygu'r peth yn lleol - cyn iddyn wario arian ar y peth a codi'r polion (drwy bapur bro a phapurau lleol) yn ogystal ag yma, achos dw i'n siwr na gymerant sylw o ebyst gan bobl o'r tu allan.

    ReplyDelete