24/01/2012

O Na Fyddai Duw yn Sais!

Gen 11:3
Dywedasant, Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear. Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, a dywedodd, Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.

Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas. Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.

Pe bai Duw yn Sais mi fyddai wedi bloeddio ar adeiladwyr Tŵr Babl "Why can't you speak English you ignorant scum" a byddai heddwch wedi bod yn y byd o'r dydd hwnnw ac wedi para am oes oesoedd. Amen!

4 comments:

  1. Anonymous10:08 am

    A thasai Duw yn Gymro, mi fasai fo wedi dweud "Efallai mai Saesneg ydy iaith y ddaear, ond yn y nefoedd caniateir Cymraeg yn unig"

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:17 am

    Bygyr y nefoedd. Does dim nefoedd.

    ReplyDelete
  3. Anonymous2:39 pm

    Yn wir, does gynnoch chi dim cerdd ynoch?

    ReplyDelete
  4. Meddai Dienw Ion 24, 2012 02:17 AM
    Bygyr y nefoedd. Does dim nefoedd.

    Mae'n cymryd uffar o lot o ymdrech i ddychmygu bod Duw yn Sais; wedi imi wario'r fath ymdrech, mi fyddai 'mond yn barchus i ti ddefnyddio ychydig bach o ymdrech i ddychmygu bod yna nefoedd!

    ReplyDelete