25/01/2012

Dêt, Rhamant, Leanne a'r Gymraeg

Heddiw yw dydd y Santes Dwynwen, a gan fy mod yn rhamantydd o Gymro, heddiw hefyd yw pen-blwydd fy mhriodas! Aw!

Dechreuodd fy nghwrs cariadol trwy ddweud wrth yr hon sydd bellach yn wraig imi fy mod am ymweld â Phorth y Rhondda ar gyfer rali Plaid Cymru tua deunaw mlynedd yn ôl. Doedd y Mrs 'cw erioed 'di bod i'r Sowth a'i gofyn am gael rhannu'r anturiaeth o fynd i'r deheubarth oedd ein dêt cyntaf.

Fel mae'n digwydd yr ymweliad yna a Phorth y Rhondda oedd y tro cyntaf imi ddod ar ddraws hogan ifanc o'r enw Leanne Wood hefyd, prin bu ein sgwrs ond yr oedd yn sgwrs uniaith Cymraeg. Rwyf wedi cyfarfod a Leanne rhyw bedwar neu pum gwaith yn y cyfamser a'r Gymraeg bu iaith ein cyfathrach ar bob un o'r achlysuron hynny!

Mae 'na ryw syniad sy’n cael ei awgrymu bod rheswm dros / yn erbyn cael Leanne yn arweinydd y Blaid yw'r ffaith nad ydyw hi'n Gymraes Gymraeg. Mae'r fath honiad yn dwt lol botas, mae Leanne (boed yn fanteisiol neu'n anfanteisiol) yn siaradwraig Cymraeg coeth. Mae hi'n anhyderus ei Chymraeg, hwyrach, ond er hynny yn eithaf rhugl.

Mae yna ryw dwpdra gwleidyddol sy'n cael ei choleddu ar y we bod diffyg Cymraeg Leanne yn mynd i gyfrif o'i phlaid mewn etholiad cyffredinol fel rhyw fath o "brawf" mae nid Plaid y Gymraeg mo Plaid Cymru! Mae'r un twpdra yn awgrymu na chaiff ei hethol yn arweinydd gan fod mwyafrif yr etholwyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid yn Gymry Cymraeg. Mae'r ddau gysyniad yn anghywir,

Yr wyf wedi nodi hyd at syrffed mae ffolineb yw gwadu'r ffaith bod Plaid Cymru yn cefnogi annibyniaeth. Y cysyniad sydd gan bobl am y Blaid yw ei fod YN cefnogi annibyniaeth ac mae gwadu annibyniaeth yn wneud i'r Blaid edrych yn ddauwynebog ac yn dwyllodrus. Mae'r un yn wir am yr iaith! Mae PAWB yn gwybod bod Plaid Cymru yn gefnogol i'n hiaith, byddai ceisio gwadu hynny yn ffolineb twyllodrus, mi fyddai'n troi cefn ar sylfaen creiddiol heb ennill unrhyw hygrededd.

Rwyf yn gwbl hyderus bod Leanne Wood yn hollol gefnogol i'r iaith, does dim rhaid i gefnogwyr yr iaith poeni am ei hymrwymiad i'n hiaith. O gael ei hethol yn arweinydd bydd y Gymraeg cyn bwysiced os nad yn bwysicach i Blaid Cymru o dan ei gwarchodaeth.

4 comments:

  1. Anonymous10:20 am

    Da iawn Hen Rech.

    Ti'n berffaith iawn ar annibyniaeth ac ar yr iaith ac ar Leanne.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Anonymous11:43 am

      Dw i'n nabod Leanne Wood yn dda, a dan ni'n siarad Cymraeg bob amser. Mae hi'n cefnogi'r iaith yn hollol. Does neb sy'n gweithio yn galed fel hyn i ddysgu'r iaith heb ymrwymiad cryf iddi. Dyna ddyfodol Cymru ddwyieithog.

      Delete
  2. Anonymous2:25 pm

    Roeddwn i yn y coleg gyda Leanne ym Mhontypridd. Gorffen tua 2003 os wi'n cofio'n iawn. Roedd hi'n gallu siarad tipyn o Gymraeg pryd 'ny. Cofiaf hi'n gweithio yn y Fforest, Trefforest y tu ol i'r bar. Roeddwn i'n ei hoffi bryd hynny. Rwy'n dod o Sir Benfro a rhaid i mi ddweud fy mod yn lled gefnogol iddi. Ond rwy'n hoff iawn o Elin hefyd.

    ReplyDelete
  3. Rwyt ti'n llygad dy le fan hyn HRF. Dw i'n credu efallai bod rhai o'i chefnogwyr yn fwriadol yn ceisio creu'r argraff ei bod hi'n llai rhugl ei Chymraeg na'r gwirionedd er mwyn apelio at fwy o Gymry di-Gymraeg.

    Wrth gwrs mae Leanne yn gadarnach ei chefnogaeth i'r iaith na fwy neu lai unrhyw aelod arall o'r Cynulliad cyfan. Dyna un rheswm dw i am bleidleisio drosti ac annog Pleidwyr eraill i wneud yr un peth (sylwer bod llawer o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith ymysg ei chefnogwyr mwyaf brwdfrydig). Ond mae'r dryswch ynghylch ei gallu yn y Gymraeg yn od.

    ReplyDelete