30/03/2011

Rhywbeth yn drewi yn y Gyffordd

Ers fy mhost diwedd yr wythnos diwethaf parthed arwyddion uniaith Saesneg yn cael eu gosod yng Nghyffordd Llandudno, mae Cyngor Conwy wedi gosod un arwydd dwyieithog yn y pentref – chware teg iddynt!

Yn anffodus, mae'n anghywir!


Hyd y gwyddwn Brie Fart, yw'r hogla sy'n deillio o fwyta gormod o gaws cryf, yn hytrach na statws cyfreithiol lôn yng Ngogledd Cymru

29/03/2011

Cari On Elecsiwn Cymru

Yn ôl rhaglen digon chwit chwat ar ITV parthed etholiadau'r Cynulliad neithiwr mae yna 5 wythnos i fynd cyn bwrw pleidlais. Ar un wedd mae hynny'n anghywir. Mae nifer cynyddol o bobl yn defnyddio'r bleidlais post bellach, bydd y pleidleisiau post yn mynd allan tua phythefnos cyn i'r blychau agor yn y gorsafoedd pleidleisio. Sy'n golygu mae tair wythnos a diwrnod sydd, cyn i'r pleidleisiau cyntaf cael eu bwrw.

Efo dim ond 3 wythnos i fynd cyn i nifer ohonom bleidleisio lle mae'r bwrlwm etholiadol? Ble mae'r taflenni, y posteri, y cnoc ar y drws , yr alwad ffôn? Pa le mae'r blogiau, y trydar y tudalennau Gweplyfr?

Hyd yn hyn yr wyf wedi derbyn un daflen yn fy annog i bleidleisio i'r Democrat Rhyddfrydol (uniaith Saesneg ar wahân i un paragraff byr sy'n addo cefnogi annibyniaeth S4C - addewid a dorrwyd neithiwr gan Arglwyddi'r Lib Dems); ac yr wyf wedi gweld car UKIP yn mynd heibio fy nhy heb gorn siarad (be ddigwyddodd i'r cyrn etholiadol?)

Rwy'n byw mewn etholaeth lle mae gan dair o'r pum brif blaid gobaith i gipio'r sedd, ond yr unig ddwy sy'n ymgyrchu yw'r ddwy heb obaith mul!

Hurt Botas, sefyllfa sydd a mwy o ffars yn perthyn iddi na ffilm Cari On!

28/03/2011

Seisnigrwydd Undeb Credyd y Gogledd

Rwy'n rhannu siom Plaid Wrecsam a Blog Menai am Seisnigrwydd yr Undeb Credyd newydd ar gyfer Gogledd Cymru. Ond yn wahanol i fy nghyfeillion blogawl nid ydwyf am annog pobl i gysylltu â'r Undeb i gwyno.

Mudiadau cydweithredol, cyd-gymorth yw'r Undebau Credyd, maent wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth roi cymorth i rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig i reoli eu cyllidebau trwy gynnig benthyciadau fforddiadwy ac annog cynilo.

Mae llawer o lwyddiant yr Undebau Credyd yn perthyn i'r ffaith eu bod yn cael eu cynnal, ar y cyfan, gan wirfoddolwyr sy'n cynnig amser ac arbenigedd i'r achos.

Os am weld Cymreigio'r Undeb newydd yn y gogledd, gai awgrymu bod cefnogwyr y Gymraeg a'r mudiad Undebau Credyd yn cysylltu ag Undeb Credyd Gogledd Cymru, nid er mwyn cwyno, ond er mwyn cynnig cymorth ieithyddol iddynt!

25/03/2011

Arwyddion Saesneg Cyngor Sir Conwy

Er gwaetha'r hinsawdd economaidd garw mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael hyd i ddigon o arian i gyfnewid pob un arwydd stryd ym mhentref Cyffordd Llandudno, mae'r Gyffordd yn bentref gweddol o faint, gan hynny byddwn yn amcangyfrif bod tua deugain o arwyddion newydd wedi eu gosod yno a phob un ohonynt yn uniaith Saesneg.

Roeddwn yn credu bod yr ymgyrch dros arwyddion dwyieithog yn y gogledd orllewin wedi ei hennill yn ôl yn y saithdegau, mae'n amlwg fy mod i'n anghywir a bod angen twrio yng nghefn y sied i ganfod yr hen bot paent gwyrdd yna eto.

From Hen Rech Flin

Diweddariad.
Mae'r cynllun gosod arwyddion yn rhan o Gynllun Gwella Strydwedd gwerth £400,000 i Ffordd Conwy, fel rhan o waith adfywio parhaus Cyffordd Llandudno.

Gellir dweud eich dweud am y cynllun trwy gysylltu ar:
Ffôn: 01492 576128

E-bost:llandudnojunction@conwy.gov.uk

Llythyr:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Tîm Cadwraeth ac Adfywio, Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn, LL29 8AR

Wêls Wân Tŵ - Dim Diolch!

Ar drothwy ei chynhadledd mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 ei fod yn annhebygol y bydden nhw’n gallu dod i gytundeb â’r Ceidwadwyr neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad.. Rwy'n methu deall pam!

Mater o farn yw pa mor onest oedd y Blaid ar y pryd, ond ar ôl etholiad 2007, roedd yna awgrym cryf bod modd creu clymblaid enfys gwrth-Lafur, yn cael ei harwain gan Blaid Cymru. Be sydd wedi newid ers hynny?

Yr ateb syml, wrth gwrs, yw mai'r Blaid Geidwadol, bellach, yn brif blaid, Llywodraeth San Steffan mewn clymblaid a thrydydd lliw'r enfys, sef y Democratiaid Rhyddfrydol. Byddwn yn tybio bod hynny yn rheswm o blaid ail adfer y posibilrwydd o glymblaid enfys! Wedi'r cwbl un o brif ddadleuon yr achos dros Gymru'n un oedd y byddai modd cael consesiynau o San Steffan, yn ogystal â chytundebau yn y Bae, o gynghreirio a phlaid llywodraeth Llundain.

Mae angen symudiadau o San Steffan o hyd ar Gymru os yw datganoli am esblygu, ac ar hyn o bryd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr yw'r rhai sy'n gallu cynnig y fath consesiynau, ac y maent y debycach o'u cynnig i Lywodraeth Enfys nag i Gymru'n Un #2!

Mae Ieuan yn cyfiawnhau ymwrthod a ddêl gyda'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr trwy ddweud Mae angen fformiwla ariannu deg i Gymru, ac yn sicr nid dyna y mae Fformiwla Barnett yn ei gynnig. Ond pa Gynghrair yn y Cynulliad sydd yn fwyaf tebygol o fynd i'r afael a'r fath achos; cynghrair a'r Blaid Lafur neu gynghrair a phleidiau Llywodraeth San Steffan?

Y gwir yw bod syniad yr Enfys wedi ei drechu yn 2007 gan chwith eithafol y Blaid, nad oeddent byth bythoedd am weld Plaid Cymru yn clymbleidio a Bwystfil Tinflewog y Blaid Ceidwadol o dan unrhyw amgylchiadau, a'r un bobl sydd y tu cefn i ddatganiad Ieuan Wyn nad oes gobaith i'r Blaid cytuno ag Enfys eto.

I mi'r Fwystfil Tinflewog yng Ngwleidyddiaeth Cymru, casawyr pob dim sydd yn dda yn ein traddodiad gwerinol Cymreig a Chymraeg, yw'r Blaid Lafur.

Mae Cymru wedi dioddef o dan ganrif o hegemoni Llafur a'i chasineb tuag at ein hiaith a'n cenedl, mi fyddwn wrth fy modd pe bai ei gafael unbenaethol ar ein gwlad yn cael ei thorri unwaith, os nid am fyth.

Rwy'n casáu’r Blaid Lafur a chas perffaith o herwydd bod y Blaid Lafur wedi dangos cas perffaith tuag at hunaniaeth Gymreig a'r Iaith Gymraeg am dros ganrif, ac y mae'n parhau i'w wneud.

Os mae bwriad Plaid Cymru yw ymladd yr etholiad ar bolisi o Wêls Wân Tŵ - a llyfu tin y fwystfil Llafur - bydd fy mhleidlais i yn y bin yn hytrach nag yn y post.

18/03/2011

Polau a Gwirioneddau

Un o'r pethau nad ydwyf yn hoffi am bolau piniwn, yw'r ffaith eu bod yn gallu dylanwadu ar wleidyddiaeth yn ogystal â mesur y tymheredd gwleidyddol.

Ar hyn o bryd mae'r polau piniwn yn awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cac, yn colli cefnogwyr rhif y gwlith. Pe bawn i'n hanner feddwl bwrw pleidlais i'r Rhyddfrydwyr ym mis Mai, mae'r polau yn dweud wrthyf mae afradu pleidlais byddai hynny, gwell byddid mynd gyda hanner arall fy meddwl a phleidleisio Llafur (dyweder). Yn hynny o beth mae polau yn gallu bod yn broffwydoliaethau sy'n gwireddu eu darogan eu hunnain (self fulfilling prophecies).

Cyn i ITV Cymru dechrau ar ei chyfres o bolau YouGov misol tua dwy flynedd yn ôl, roedd polau piniwn Cymreig yn andros o brin ac yn uffernol o anghywir.

Chware teg i YouGov roedd ei phôl diweddaraf ar ganlyniad y refferendwm yn agos iawn i'r canlyniad o ran canran y bleidlais IE a Na, er yn bell iawn ohoni o ran faint y bleidlais:

YouGov IE 67% Canlyniad 63.5%
YouGov Na 33% Canlyniad 36.5%
YouGov faint y bleidlais 56% Canlyniad 35.2%

Mae hyn yn awgrymu bod polau Cymreig yn gwella, ond eto dim yn berffaith o bell ffordd. Fel y nodais uchod mae polau perffaith yn gallu effeithio yn andwyol ar wleidyddiaeth, mae polau amherffaith yn gallu bod yn fwy andwyol.

Yn y cyd-estyn yna mae post diweddar ar Political Betting yn hynod ddadlennol!

Dydy pôl ddim yn cael ei gynnal trwy ofyn i fil o bobl sut ydynt am bleidleisio ac yna'n cyhoeddi'r canlyniad noeth. Mae'r polwyr yn gofyn cwestiynau amgen er mwyn pwyso'r canlyniadau. Os yw deg y can't o'r boblogaeth yn ennill mwy na hyn a hyn, ond bod ugain y cant o'r ymatebwyr yn ennill mwy na'r swm priodol, bydd gwerth eu pleidlais yn cael eu pwyso fel hanner pleidlais, er enghraifft.

Mae'r ffigyrau heb eu pwyso, a'r rheswm am eu pwyso ar Political Betting yn achos o fraw i Blaid Cymru. Mae'n debyg mae sawl sy'n darllen y Daily Mirror yw un o'r cwestiynau. Ar ôl ffars y Welsh Mirror yn 1999, prin bydd y Pleidwyr bydd yn cefnogi'r rhecsyn.

Un o'r pethau sydd yn cynyddu pwysau'r Blaid yw diffyg panelwyr sy'n gefnogol o'r Blaid.

Nid ydwyf am geisio gwyro YouGov, ond byddwn yn awgrymu bod angen i lawer mwy o gefnogwyr Plaid Cymru i gofrestru a'r safle yn fuan, a'u bod yn nodi wrth ymuno eu bod yn ddarllenwyr brwd o'r Sun a'r Mirror.

Gellir gwneud cais i ymuno a'r panel trwy glecio YMA

17/03/2011

Busnesa yn yng Ngwleidyddiaeth eich cymdogion?

Yn ôl Llais y Sais
Welsh and Scottish MPs could be barred from voting on laws which impact only on England, the Government said today.

Welsh Secretary Cheryl Gillan said a commission examining whether MPs should be stopped from having a say on issues which do not affect their constituents would be set up later this year.
Unrhyw un arall yn gweld doniolwch y ffaith mae AS Chesham ac Amersham sydd wedi gyhoeddi'r fath datblygiad?

15/03/2011

Amser Cychwyn yr Ymgyrch ar Gyfer Mai 5ed?

Dyma ddarllediad gwleidyddol cyntaf yr SNP ar gyfer etholiadau mis Mai.



Difyr iawn, yn gwneud ei bwynt, ond a ydy'r Deus ex Machina ar y diwedd yn awgrymu bod Salmond yn fwy na wleidydd? Ych a fi braidd!

Ond os yw ddarllediad cyntaf yr SNP wedi ei ddarlledu, pam nad oes darllediadau gan bleidiau Cymru wedi eu darlledu eto?

Mae'r ddau etholiad ar yr un dwthwn, wed'r cwbl, a phrin yw'r amser sydd ar ôl i berswadio bobl!

05/03/2011

Derbyn y canlyniad yn raslon

Fel yr unig un i wneud cais am statws ymgyrchydd swyddogol fel arweinydd yr ymgyrch NA yn y Refferendwm, yr oeddwn yn hynod siomedig o glywed Rachel Banner yn gwneud ymateb ar ran yr ymgyrch Na, wedi cyhoeddi'r canlyniad yn y Senedd, tra nad oeddwn i, hyd yn oed, wedi derbyn gwahodd i'r cyfrif!

Pe bawn wedi cael gwahodd i fod yn bresennol ac i ymateb; dyma'r hyn byddwn wedi ei ddweud:

Rwy'n Llongyfarch yr Ymgyrch Ie ar fuddugoliaeth ysgubol.

Wir yr! Yr oedd ambell i gyhoeddiad yn sioc imi! Nid oeddwn yn disgwyl i'r canlyniad Ie i fod mor bendant ac mor glir. Mae canlyniadau yn llefydd megis Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Powys a hyd yn oed yn Sir Fynwy (lle mae 321 o bleidleiswyr a anghofiodd i bleidleisio Ie ddoe yn cicio eu hunain heddiw) yn syfrdanol, ac ymhell tu hwnt i'r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Hoffwn ddiolch i'r chwarter miliwn o bobl a bleidleisiodd o blaid fy ymgyrch Na! Dim Digon da! Yr oeddwn yn gwybod fod llawer yn cydsynio nad oedd cwestiwn y refferendwm yn un gymwys; nad oedd yn cynnig cydraddoldeb gyda Senedd yr Alban na Chynulliad Gogledd Iwerddon, ond nid oeddwn wedi disgwyl cymaint â chwarter miliwn o bobl i gytuno â mi yn y blwch pleidleisio.

Yr wyf yn cydymdeimlo a'r 65% o etholwyr Cymru a ddewisodd beidio â phleidleisio oherwydd bod yr hyn a oedd yn cael ei gynnig mor ansylweddol fel eu bod yn teimlo nad oedd unrhyw werth pleidleisio o'i blaid nac yn ei herbyn. Rwy'n rhoi sicrwydd 100% fod yr ymgyrch yn dechrau nawr i wneud y refferendwm nesaf (yn 2012, os nad yn gynt) yn un bydd yn cynnig opsiwn gwerth mynd allan i bleidleisio Ie drosti!

04/03/2011

a chanlyniad Cymru gyfan

Cymru
IE 517,132 63.5%
Na 297,380 36.5%

Caerdydd o'r diwedd

Caerdydd
Ie 53,427 61%
Na 33,606 39%
35% wedi pleidleisio

Gwynedd efo'r pleidlais Ie uchaf

Gwynedd
Ie 28,200 76%
Na 8,891 24%
43% Wedi Pleidleisio

Mynwy yn dweud Na o 320 pleidlais

Mynwy
Ie 12,381 50%
Na 12,701 50%
38% Wedi pleidleisio
Mwyafrif Na o 320

Cymru yn Dweud IE – canlyniadau Caerfyrddin a'r Rhondda

Caerfyrddin
Ie 42,979 71%
Na 17,712 29%
Wedi Pleidleisio 44%

Rhondda Cynon Taf
Ie 43,051 71%
Na 17,834 29%
Y trothwy o 402,594 wedi ei groesi

Canlyniad Torfaen, Ceredigion, Pen y Bont

Torfaen
Ie 14,655 63%
Na 8,688 37%
34% Wedi Pleidleisio

Ceredigion
Ie 16,505 66%
Na 8,412 34%
44% Wedi pleidleisio

Pen y Bont ar Ogwr
Ie 25,063 68%
Na 11,736 32%
35% wedi Pleidleisio

Bron yna!

Canlyniad Caerffili Bro Morgannwg

Caerffili
Ie 28,431 64%
Na 15,751 35%
35% wedi pleidleisio

Bro Morgannwg
Ie 19,430 53%
Na 17,551 47%
40% wedi pleidleisio

Sioc o'r Fflint

Y son bod Fflint am ddweud Na yn bell ohoni!
Ie 21,119 62%
Na 12,913 38%
Wedi Pleidleisio 29%

Canlyniad Merthyr Catell Nedd

Merthyr Tudful
Ie 9,136 69%
Na 4,132 31%
Wedi pleidleisio 30%

Castell Nedd
Ie 29,957 73%
Na 11,079 27%
Wedi Pleidleisio 38%

Canlyniad Abertawe Powys

Abertawe
Ie 38 496 61%
Na 22,409 37%
33% Wedi pleidleisio

Powys
Ie 21,072 52%
Na 19,730 48%
40% Wedi pleidleisio

Canlyniad –Ynys Môn, Casnewydd, Conwy, Penfro

Canlyniad –Ynys Môn
Ie 14,011 65%
Na 7,620 35%
(ac wyth wedi pl;eidleisio i'r ddwy ochr0
44% wedi pleidleisio

Casnewydd
Ie 15,983 55%
Na 13,204 45%
28% wedi pleidleisio

Conwy
Ie 18,368 60%
Na 12,390 40%
34% Wedi Pleidleisio

Sir Benfro
Ie 19,600 55%
Na 16,050 45%
385 Wedi pleidleisio

Canlyniad –Wrecsam

Canlyniad –Wrecsam
Ie 17,606 64%
Na 9,863 36%
27% wedi pleidleisio

Canlyniad -Sir Ddinbych

Sir Ddinbych
34% wedi bwrw pleidlais
Ie 15, 793 62%
Na 9,742 38%

Canlyniad cyntaf- Blaenau Gwent

Canlyniad cyntaf- Blaenau Gwent
Ie 11,869 69%
Na 5,366 31%

Sïon

75% o blaid Ie yng Ngwynedd a Merthyr Tudful;
51% Ie ym Mynwy;
Caerfyrddin 65%,
Ceredigion 70% Ie;
Aberconwy 60%,
a phleidlais Na o drwch y blewyn yn Sir y Fflint
Ie ym mhell ar y blaen ar Fôn

Diweddariad Y BBC yn awgrymu gallasai Caerfyrddin bod rhwng 70 a 80% Ie
Diweddariad 11:55 Wrecsam 60%

Yr Ymgyrch Na wedi ildio'n barod

Mae Syr Eric Howells ar S4C a Rachel Banner ar BBC Cymru ill dau wedi cydnabod bod yr ymgyrch Na wedi colli!

Cwestiwn am bwerau newydd

Cwestiwn, dylwn i wybod yr ateb iddi hwyrach, fel un sy'n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru; ond os bydd pleidlais Ie heddiw, pryd fydd y Cynulliad yn cael defnyddio eu hawliau newydd? Dydd Llun? Ymhen y mis? Ar ddechrau'r Cynulliad newydd mis Mai? Does gen i ddim cof o glywed unrhyw un yn dweud yn union pa bryd y daw'r hawliau newydd yn "fyw".

Rhagolygon Cynharaf

Yn ôl yr hyn rwy'n clywed bu'r nifer o'r rhai a drafferthodd i bleidleisio yn Aberconwy yn amrywiol iawn; cyn lleied a 20% mewn ambell i ward arfordirol Seisnig a hyd at 50% mewn rhai o'r wardiau gwledig Cymreig. Mae Radio Cymru yn adrodd mae tebyg yw'r sïon yn Sir Fôn, efo canrannau uwch i'w gweld yn pleidleisio yn y pentrefi Cymreiciaf gyda'r ardaloedd llai Cymreig a chanran digon chwit chwat yn pleidleisio. Os yw'r tueddiad yma'n cael ei adlewyrchu trwy Gymru gyfan, mae'n argoeli’n dda ar gyfer y bleidlais Ie!

Bydd y cyfrif yn dechrau ymhen yr awr; cawn weld os ydy'r sïon am y niferoedd yn gywir tua 10:00am