27/01/2011

Dim Sesh £70K!

Yn anffodus mae'r Comisiwn etholiadau wedi gwrthod fy nghais i fod yn arweinydd swyddogol yr Ymgyrch Na yn y refferendwm ar hawliau deddfwriaethol y Cynulliad.

Pe bawn wedi ennill fy mwriad oedd llyncu'r £70K o nawdd gwladol (yn gwbl gyfreithlon) mewn cyfarfodydd meddwol i drefnu'r ymgyrch. Ond oherwydd penderfyniad gwbl afresymol ac ysgeler y Comisiwn bydd dim modd imi drefnu'r fath seshus mwyach. Damnia!

Esgus gwael y Comisiwn dros ymwrthod a fy nghais oedd nad oedd fy nghais yn ddigonol gynrychioli ymgyrchwyr Na. Rwy'n anghytuno'n llwyr!

Rwyf yn hollol ffyddiog y bydd y mwyafrif o'r rhai sydd yn pleidleisio Na a'r mwyafrif o'r sawl sydd yn ymatal eu pleidlais yn gwneud hynny oherwydd iddynt gael eu hysbrydoli gan fy ymgyrch Na! Dim Ddigon da! Wedi'r cwbl, er gwaethaf cael ei wrthod, dyma'r unig ymgyrch digon hyderus ei neges i wneud cais am gydnabyddiaeth swyddogol. A phan fydd y gwrth Gymreig yn cwyno hyd at syrffed am y ddegawd nesaf am faint y mwyafrif a'r niferoedd a bwriodd pleidlais, mi fyddwyf yn manteisio ar bob cyfle i'w hatgoffa o'r ffaith ddiymwad mae Na! Dim digon da oedd yr unig ymgyrch i godi ei ben uwch y pared!

Roeddwn wedi meddwl poeri fy nymi allan o'r pram fel protest at benderfyniad annheg y Comisiwn a chroesi’r llawr at yr ymgyrch Ie. Ond wedi darllen ymateb yr ymgyrch Ie i'r penderfyniad yr wyf yn ystyried newid fy meddwl.

Mae'r ymgyrch Ie am barhau fel ymgyrch swyddogol, sef yr unig ymgyrch sydd yn cyd-gynrychioli’r holl gyrff ac unigolion sydd yn dymuno gweld ymateb cadarnhaol yn y Refferendwm. Penderfyniad call, dilys a digon teg. Ond y rheswm am ail-feddwl a pharhau a'm hymgyrch Na yw awgrym Ie Dros Gymru Cyf ar sut i drin y gwahanol leisiau Na:
Bydd ymgyrchwyr ‘Ie’ yn parhau i weithio gyda’i gilydd trwy Ie dros Gymru i gyflwyno neges gyson ac i weithio gyda’r cyfryngau, ond does dim arweiniad cydnabyddedig gan yr ymgyrch ‘Na’, felly ni ddylid trin yr un grŵp unigol gydag unrhyw fath o flaenoriaeth dros y pleidiau ymylol eraill sy’n ymgyrchu dros bleidlais Na. Mae gan bob grŵp yr hawl i gydraddoldeb, hyd yn oed os nad yw eu gwahanol safbwyntiau yn help i wneud pethau’n eglur.
Hynny yw, cafodd True Wales eu cyfle ar Dragon's Eye yr wythnos diwethaf, tro'r Lwnis yw heno a fy nhro i fydd wythnos i heno!

Syniad gwych, hollol resymol a hollol deg!

Rwy'n amcangyfrif dau ymddangosiad ar Dragon's Eye, Waterfront a Politics Show Wales, o leiaf un ar Question Time, un arall ar Sunday Supplement a chael bod yn un o Bobl Beti (rhaid gwneud gwleidydda'n ysgafn weithiau).

Gan nad oes Cymro Cymraeg rhugl ar gael gan y Lwnis na True Wales rwy'n bagio pob un rhifyn o Hawl i Holi, Dau o'r Bae a Phawb a'i Farn o hyn hyd ddyddiad y refferendwm a thua dwsin o gyfweliadau ar Daro'r Post.

Bydd yr ymddangosiadau yma ddim yn gwneud iawn am y siom o golli'r £70K a'r sesh fawr, ond bydd y ffioedd ymddangos yn caniatáu imi gael meddwad bach personol ar y nosweithiau pan na fyddwyf yn rhy brysur yn gwneud cyfweliadau.

24/01/2011

Ffordd hurt o drefnu pleidlais

Yr wyf newydd dderbyn cerdyn "rhybudd o bôl" gan Cyngor Conwy parthed y refferendwm arfaethedig ar bwerau i'r Cynulliad. Er mae'r 3ydd o Fawrth yw diwrnod swyddogol y bleidlais, bydd y rhai sydd a'r hawl i bleidlais post yn cael pleidleisio ychydig yng nghynt na'r diwrnod pleidleisio. Mae'r cyngor yn fy hysbysu i ddisgwyl i'r bleidlais cyrraedd ar ddydd Mercher Chwefror 16.

Yn ôl llythyr a dderbyniais gan y Comisiwn Etholiadol bydd y Comisiwn yn penderfynu os oes ymgyrchwyr swyddogol i fod ar gyfer y refferendwm ar Chwefror 6ed. Gan hynny os yw'r comisiwn yn penderfynu bod ymgyrch "swyddogol" i fod bydd dim ond ddeng niwrnod o ymgyrch swyddogol cyn i'r pleidleisiau cyntaf cael ei fwrw; prin fod hynny'n ymarferol digonol ar gyfer ymgyrch o unrhyw fath.

Un o'r pethau sydd yn dod yn gynyddol amlwg yw bod y drefniadaeth gyfreithiol bresennol ar gyfer refferenda yng Ngwledydd Prydain yn ffars llwyr.

Rwy'n gweld bod Jessica Morden AS yn galw am i'r refferendwm ar bleidlais amgen i gael ei ohirio. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc boed gefnogol neu'n wrthwynebus i'w chefnogi, er mwyn dysgu gwersi o ffars refferendwm Cymru cyn cynnal refferendwm arall o dan yr un drefn.

21/01/2011

Cwestiwn am di-dieddgarwch y Bîb

O dderbyn bod fy nghais i fod yn arweinydd swyddogol yr Ymgyrch Na am gael ei wrthod gan y Comisiwn Etholiadol (o dderbyn fy mod yn cachu brics y caiff ei gymeradwyo). Y gwir yw mae fy ymgais i yw'r unig Ymgyrch Na sydd o dan ystyriaeth gan y Comisiwn.

Hyd gwneir penderfyniad, fy het i ydy'r unig un yn y cylch. Dyna wirionedd y sefyllfa gyfredol, leicio fo neu beidio!

Pam felly bod Rachel Banner wedi ei wahodd i gynrychioli yr Ymgyrch Na ar Dragon's Eye neithiwr, yn hytrach na fi ?

Mae'r Bîb yn cydnabod bod ei hymgyrch hi wedi jibio allan ac yn gwybod bod fy ymgyrch i yn parhau o dan ystyriaeth. Rwy'n cydnabod nad oes gennyf siawns mul mewn Grand National o gael fy newis fel arweinydd yr ymgyrch, ond hyd groesi'r llinell-derfyn fi yw'r unig ful ar ôl yn y ras Na!

Y Comisiwn Etholiadol, nid y BBC, sydd i bennu llwyddiant fy ymgais, ond mae'n ymddangos i mi bod y Gorfforaeth wedi rhagfarnu penderfyniad cyfreithiol statudol y Comisiwn, cyn i'r Comisiwn cael ennyd i ddyfarnu'n deg!

Ydi'r BBC yn torri ei reol ddiduedd trwy anwybyddu fy ymgais i ac yn parhau i roi sylw i'r sawl sydd wedi tynnu allan cyn y glwyd gyntaf?

Cwestiwn llawer mwy difrifol, a ydy'r Gorfforaeth yn ceisio dylanwadu ar ganlyniad refferendwm trwy danseilio ymgyrch sydd wedi ei dderbyn fel un sydd o dan ddwys dilys ystyriaeth y Comisiwn Etholiadol ar hyn o bryd?

20/01/2011

Y Gefnogaeth

Yn ogystal a'r rhai oedd am gofrestru i arwain yr ymgyrchoedd Ie a Na, roedd rhaid i'r sawl sy'n dymuno cyfranu dros £10K i'r ymgyrchoedd cofrestru erbyn ddoe hefyd. Dyma'r rai sydd wedi cofrestru:

I gefnogi Na Beech Mark William, aelod o'r Monster Raving Loony party o Bontypridd

I gefnogi Ie; Cymru Yfory, Ie dros Gymru Cyfyngedig, Plaid Cymru a UNISON.

Diweddariad
Rwyf newydd glywed Vaughan Roderick yn dweud nad oes dyddiad cau ar gyfer cofrestru fel cyfrannwr arian mawr i'r ymgyrchoedd. Felly os oes yna ddarllenydd sydd a £10K neu ragor i gyfrannu i fy ymgyrch!

19/01/2011

O Na!

Rwyf newydd gael galwad gan y Comisiwn Etholiadol i ddweud mai fy nghais i i fod yn arweinydd yr ochr Na, gan nad yw'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ddigon da, ydy'r unig ymgais na sydd wedi ei dderbyn, hyd yn hyn .

12/01/2011

Cwestiwn dyrys parthed ymgyrch NA

Pe bai dau ymgyrch Na yn codi; y naill am ddweud Na o wrthwynebu hunanlywodraeth i Gymru a’r llall am ddweud Na gan nad yw datganoli yn ddigon da - bod angen annibyniaeth i Gymru - sut mae'r Comisiwn Etholiadol am ddyfarnu pa achos yw'r achos Na go iawn?

A oes gwerth cynnig y Na Cenedlaethol fel yr achos Na swyddogol – er mwyn yr her?

Rwyf am arwain yr Ymgyrch Na swyddogol. A oes Gefnogwyr?

Rwy'n ansicr os yw blogiad diweddaraf Ifan Morgan Jones ar Flog Golwg yn un difrifol neu'n un tafod mewn boch – rwy'n credu ei fod o ddifrif!

Yn ôl Ifan mae True Wales yn bygwth peidio a gwneud cais i fod yn ymgyrch Na swyddogol.

Yn ôl y ddeddf os nad oes ymgyrch Na swyddogol 'does dim modd cael ymgyrch Ie swyddogol chwaith!

Mae'n dacteg ddiddorol.

Os bydd ymgyrchoedd Ie a Na swyddogol bydd y naill ochr a'r llall yn cael £70,000 o goffrau'r Llywodraeth er mwyn eu cefnogi. Os na fydd ymgyrch Na swyddogol, bydd dim hawl i ymgyrch Ie swyddogol bodoli chwaith.

Os nad oes ymgyrchoedd swyddogol bydd dim hawl i Undebau Llafur na Phleidiau Gwleidyddol nac Elusennau na Busnesau nac amryw o gyrff eraill cefnogi ymgyrch Ie nad yw'n bodoli yn swyddogol.

Mae'n dacteg bydd yn ceisio boddi trafodaeth ar y pwnc (a chreu dadl cyn lleied a phleidleisiodd at y dyfodol)! Mae'n dacteg sydd raid ei drechu!

Y mae gennyf trac record am amau dilysrwydd trywydd datganoli gan nad ydyw yn mynd yn ddigon pell. Yr wyf yn Genedlaetholwr yn hytrach nac yn Ddatganolwr. Os nad oes ymgyrch Na go iawn yn cael ei gynnig gan y gwrth Gymreig yr wyf yn fwy na bodlon ffurfio ymgyrch Na ar sail Cenedlaetholdeb, ac yn gwbl sicr caf digon o genedlaetholwyr ynghyd bydd yn fodlon llyncu'r £70K o nawdd mewn cyfarfodydd trefnu'r ymgyrch!

Sut mae mynd ati i wneud cais am fod yn arweinydd ymgyrch Na?

09/01/2011

Mwy am Addysg Gymraeg Gwynedd

Yn dilyn fy mhost diwethaf mae Blog Menai wedi ymateb i fy sylwadau parthed Addysg Gymraeg yng Ngwynedd. Yn anffodus mae ei ymateb yn ymylu ar fod yn annarllenadwy oherwydd ei fod yn llawn o dablau o ystadegau.

Yn ôl y son y tri thwyll a ddefnyddir mwyaf yn y byd gwleidyddol yw celwydd, celwydd mawr ac ystadegau! A thwyll yw ystadegau Blog Menai.

Dadl ystadegol Cai yw bod 26% o blant Gwynedd sydd yn dod o gefndiroedd di-Gymraeg wedi dysgu'r Gymraeg o dan gyfundrefn Gwynedd; ffigwr sy'n well o lawer na'r 6%, dweder, o blant o gefnderoedd di-Gymraeg yng Nghaerdydd sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg. Gwendid y ddadl yw nad ydyw'n cymharu tebyg at debyg.

Yn ôl polisi Gwynedd mae pob ysgol yn y sir yn Ysgol Gymraeg, a gan hynny does dim angen ysgolion Cymraeg penodedig yn y sir. I gymharu llwyddiant agwedd Gwynedd tuag at addysg Gymraeg dylid cymharu canlyniadau Ysgolion "Cymraeg" honedig, Dolgellau neu Dywyn neu Gaernarfon a chanlyniadau Ysgolion Cymraeg yn Llanelwy neu Bontypridd neu Fro Gwaun.

Yn ôl Wikipedia mae 95% o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd sy'n dod o gefndiroedd di-Gymraeg yn dyfod yn rhugl yn y Gymraeg - yn ôl ffigyrau Cai dim ond 26% pitw o'r sawl sy'n mynd i ysgolion "Cymraeg" Gwynedd sydd yn dod yn rhugl - prawf bod polisi Gwynedd yn methu!

Fe mynchodd fy meibion Ysgol Cymraeg Naturiol yr hen Sir Gwynedd yng Ngorllewin Sir Conwy. Nhw oedd yr unig ddau o aelwyd Cymraeg yn yr ysgol. Fe aethant i'r ysgol gynradd yn uniaith Gymraeg a dod allan ohoni, i bob pwrpas, yn uniaith Saesneg.

Gan fod yr ysgol gynradd yn un ffug Gymraeg doedd y dewis i'w danfon i Ysgol Gymraeg go iawn neu ysgol a ffrwd Gymraeg dim ar gael imi - Yr Ysgol Saesneg ymarferol ond Cymraeg ar gyfer ystadegau oedd yr unig ddewis!

Mae'r plant bellach yn mynychu Ysgol y Creuddyn, Ysgol Cymraeg Penodedig yn yr hen Glwyd. Arwahân i wersi Saesneg, y mae pob pwnc yn cael ei ddysgu iddynt trwy'r Gymraeg. Pe byddent wedi mynychu Ysgol Tywyn, Ysgol Ardudwy neu Ysgol y Gader bydda dim modd iddynt ddilyn pob cwrs trwy'r Gymraeg, dydy pob cwrs ddim ar gael trwy'r Gymraeg yn ysgolion De Gwynedd!

Oherwydd polisi iaith Gwynedd mae modd mynd trwy yrfa ysgol yng Ngwynedd heb ddysgu dim trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahân i wersi Cymraeg, mae cogio bod ysgolion sy'n caniatáu hynny yn naturiol Gymraeg yn anfadwaith.

Pa les i'r iaith yw ffug a chelwydd?

Onid gwell byddid i Wynedd (a siroedd eraill) nodi yn glir ac yn groyw lle mae addysg Cymraeg ar gael i rieni plant sydd am i'w plantos derbyn addysg Gymraeg, yn hytrach na'n hamddifadu o addysg Gymraeg i'n plant trwy dwyll ystadegau?

08/01/2011

A Oes Addysg Gymraeg yng Ngwynedd?

Difyr bod Blog Menai wedi gwneud ffys am ddatganiad parthed fy sylw am nifer y bobl yng Ngwynedd sy'n cydnabod eu hunaniaeth Gymreig.

Byrdwn fy sylw oedd effeithlonrwydd polisi addysg Gymraeg Gwynedd, druan na chafodd ymateb!

Ym 1974, pan ffurfiwyd y Sir newydd, penderfynodd Awdurdod Addysg Gwynedd mae'r Gymraeg oedd iaith naturiol ei thiriogaeth, a gan hynny nad oedd rhaid iddi ddilyn trywydd ysgolion Gwent, Morgannwg a Chlwyd o sefydlu ysgolion Cymraeg penodedig.

Ffug benderfyniad wedi ei selio ar ddelfryd o'r cychwyn cyntaf.

Mi ddilynais i gwrs lefel A Hanes yn Ysgol y Gader Dolgellau ychydig ar ôl gychwyn y polisi. Roedd 10 ddisgybl am ddilyn y cwrs drwy'r Gymraeg, fi oedd yr unig un digon ansicr fy Nghymraeg i ddymuno dilyn y cwrs trwy'r Saesneg, ac yn ôl traddodiad y dafarn, os oes un yn y cwmni yn ddi-Gymraeg yr ydym i gyd yn troi at y Saesneg - a dyna a wnaed yn y gwersi hanes! Y peth ffieiddiaf oedd fy mod, nid yn unig wedi troi iaith y dosbarth, ond fy mod wedi methu'r arholiad efo gradd F.

Roedd gan yr athro Ysgrythur agwedd gwahanol! Yr oedd yn gwybod fy mod yn mynychu ysgol Sul Cymraeg ac yn mynnu bod fy ngwybodaeth ysgrythurol yn well yn y Gymraeg nag oedd yn y Fain ac yn gwrthod troi iaith ei wersi ar fy nghyfer. Roedd o'n fodlon marcio traethodau Saesneg gennyf ac yn y Saesneg sefais yr arholiad, ond trwy'r Gymraeg fu 90% o'r gwersi. Yn rhyfedd iawn cefais radd A yn yr Ysgrythur!

Pymtheng mlynedd ar hugain yn ôl penderfyniad athro unigol oedd sicrhau gwireddiad y polisi o "naturioldeb" y Gymraeg mewn addysg, ac roedd angen athro cryf i'w gwireddu. Efo llai a llai o blant cynhenid Gymraeg yn ysgolion Gwynedd mae gwireddu polisi sydd wedi aros yn ei hunfan ers 37 mlynedd yn amlwg am fod yn fethiant. Mae gormod o blant mewnfudwyr wedi troi iaith "naturiol" ysgolion. Mae'n rhaid i Wynedd derbyn bod angen ysgolion penodedig Cymraeg i gadw'r iaith yn fyw yn y dalaith!

Y peth tristaf am addysg Gwynedd yw mai'r ysgolion lleiaf, fel Ysgol y Parc ac Ysgol y Clogau, ysgolion sydd am gau, bu'r fwyaf llwyddiannus o gadw'r ethos Gymraeg yn fyw. Trwy eu huno ag ysgolion mwy bydd naturioldeb y Gymraeg yn ysgolion Gwynedd yn gwanhau - a gwaeth i ysgol 3-16 oed ar gyfer plant canolbarth Meirionnydd cael ei nodi fel Ysgol Penodedig Saesneg - dyna fydd mewn pob dim ond enw!

Mae'n rhaid i Gyngor Sir Gwynedd derbyn bod y lol o bob Ysgol yn Ysgol Gymraeg yn jôc bellach, a dechrau trefnu addysg Gymraeg go iawn.

07/01/2011

Penblwydd Hapus Mebyon Kernow

Newydd ddarllen ar flog arweinydd y blaid, y Cyng. Dick Cole, bod Mebyon Kernow wedi dathlu ei thrigeinfed pen-blwydd ddoe.

Llongyfarchiadau mawr a phen-blwydd hapus.

I'r sawl bydd yng nghyffiniau Cernyw ar y pryd bydd parti i ddathlu ar Ionawr 22in yn y Gamfron a bydd llyfryn yn amlinellu hanes y blaid yn cael ei gyhoeddi cyn pen y mis. Bydd modd archebu copi o'r llyfr (neu docyn i'r parti pen-blwydd) trwy gysylltu â mebyonkernowatbtinternet.com.

05/01/2011

Hel Tai efo'r Arg Roj

Yn fy hosan eleni fe fu Siôn Corn yn ddigon caredig i adael llyfr nad oeddwn yn gwybod ei fod wedi ei gyhoeddi gan na chlywais dim son amdano yn y wasg Gymreig na'r wasg leol sef atgofion y Parchedig Arglwydd Roger Roberts. Hel Tai - O Dŷ Plant i Dŷ'r Arglwyddi

O ran gofiant i bregethwr, rhaid cydnabod nad yw yn cymharu â Chofiant John Jones Talsarn, dydy o ddim ychwaith ymysg yr hunangofiannau gorau gan wleidydd. 'Does yna ddim byd syn hunandybus am Roger, am ŵr cyhoeddus mae o'n eithriadol swil ac yn gyndyn i frolio ei gryfderau ei hun ac i ladd ar wendidau eraill - sef yr union bethau mae dyn yn disgwyl o gofiant gwleidydd.

Sawl blwyddyn yn ôl fe wnaeth Roger gael darlithydd gwnsela o Goleg Llandrillo i roi cyfres o wersi i bregethwyr a blaenoriaid y gylchdaith er mwyn gwella ein sgiliau empathi a'r praidd. Yn un o'r gwersi gofynnodd y darlithydd inni feddwl am rywbeth trychinebus yn digwydd i berson yr oeddem yn ddrwg leicio, a be fydda ein hymateb? Roedd y mwyafrif ohonom yn feddwl am farwolaeth cymydog yr oeddem wedi cael ffrae a fo a'r anhawster o gydymdeimlo a'r teulu wedyn; ymateb Roger oedd mai ei ymateb ef i newyddion drwg am ei arch-elyn bydda paratoi am isetholiad. Does dim o'r cig-noethder yna yn y llyfr - mwya’r piti.

Mae'n llyfr darllenadwy ac yn un gwerth ei brynu (oni bai bod Siôn Corn wedi gadel copi yn yr hosan).

Mae'n ddifyr hefyd oherwydd bod dau o wrthwynebwyr Roger yn sedd Conwy eisoes wedi cyhoeddi hunan gofiannau. Daeth Right From the Start Syr Wyn allan yn 2005 a llyfr Betty Williams, O Ben Bryn i Dŷ'r Cyffredin llynedd, sydd o bosib, yn gwneud Conwy'r etholaeth fwyaf hunangofiantedig yn y bydysawd!

Hel Tai - O Dŷ Plant i Dŷ'r Arglwyddi Roger Roberts Gwasg y Bwthyn £7.95 ISBN: 9781907424120

03/01/2011

Problemau'r IE!

Yn ôl Blog Menai:

Mae lliw gwleidyddol y llywodraeth yng Nghaerdydd mwy at ddant y rhan fwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd nag ydi lliw gwleidyddol y llywodraeth yn San Steffan.

Onid dyma berygl mwyaf yr ymgyrch IE! hefyd?

Yr ydym eisoes wedi gweld dipyn o halibalŵ rhwng Peter Black a Leighton Andrews yn codi o'r ffaith bod rhesymau gwahanol gan aelodau o bleidiau gwahanol am ddweud IE!

Mae'r ymgyrch NA! yn weddol unedig – mae 99% o'u cefnogwyr yn gynhenid wrth Gymreig.

Problem yr ymgyrch IE! yw bod ynddi genedlaetholwyr sy'n gweld datganoli fel cam ar y ffordd i annibyniaeth ac unoliaethwyr sy'n gweld datganoli fel modd i atal cenedlaetholdeb. Mae'r ymgyrch IE! yn cynnwys, sosialwyr sydd am greu amddiffyniad rhag Torïaid Sansteffan a Cheidwadwyr sydd yn gweld datganoli fel cam ar y ffordd i leoliaeth a chyfrifoldeb personol.

Y perygl i'r ymgyrch IE! yw bydd ofn pechu cynghreiriaid yn yr ymgyrch yn arwain at ymgyrch wan; ac yn arwain i ddim un o'r dadleuon IE! yn cael eu gwyntyllu yn glir ac yn effeithiol, a gan hynny'n colli'r bleidlais.

Mi fyddwyf i'n pleidleisio IE! oherwydd fy mod yn credu mewn Annibyniaeth i Gymru. Rwy'n credu bod y lol datganoli 'ma wedi bod yn rhwystr i'r ymgyrch dros annibyniaeth, yr wyf am gael y lol ddiweddaraf drosodd, yn y gobaith bydd cenedlaetholwyr yn rhoi eu trwynau at y maen er mwyn ymgyrchu dros Gymru Rhydd, be bynnag bo ganlyniad y bleidlais.

Canlyniad IE! bydd orau, ond os mae NA! yw'r canlyniad mae'r frwydr yn parhau!

Y peth pwysicaf i mi yw mai Annibyniaeth i Gymru yw'r cam nesaf i genedlaetholwyr - nid datganoli lefel 3!

Yn anffodus bydd dweud fy marn yn glir ac yn groyw yn cael ei weld fel torri consensws resymau wishiwasi yr ymgyrch IE! dros bleidlais IE!

Y gwir plaen yw bod Leighton, Peter, Cai, Nick Bourne a fi am bleidleisio IE! am resymau cwbl, cwbl wahanol. Bydd creu ymgyrch sydd yn ein huno yn anoddach ar y diawl na chreu ymgyrch unedig i'r ddadl NA! Ac o hynny o beth bydd yn haws i'r ochr Na! ennill y dydd!