27/12/2011

Cwestiwn Dyrys am e-lyfrau.

Trwy garedigrwydd Siôn Corn cefais ddarllenydd e-lyfrau yn fy hosan eleni!

Gwych, rwy’n falch o'i gael, ond rwy'n ansicr o'i werth!

Er chwilio a chwalu rwy'n methu cael hyd i e-lyfrau Cymraeg - Am siom!

Lle mae cyfraniad y Cyngor Llyfrau i Lyfrgell e-lyfrau Cymraeg a Chymreig?

Hwyrach bod e-lyfrau Clasurol Cymraeg ar gael! Ond hyd y gwelaf nid ydynt ar gael ar gyfer fy mheiriant bach i!

Er mwyn i'r iaith barhau mae angen y Gymraeg ar y Kindel a'r Kobo ac mae angen i geidwaid cyhoeddiadau yn y Gymraeg sicrhau eu bod ar gael ar gyfer eu darllen yn y ffurf diweddaraf hefyd!!

5 comments:

  1. Anonymous8:00 am

    Alwyn, deallaf fod lobio wedi ei wneud gan y Cyngor a chyhoeddwyr, yn enwedig y Lolfa.

    Fel un o arweinwyr cais i gael parth .cymru dyma oedd un dadl fach bwysig arall buom yn ceisio ei chodi gyda Edwina Hart, ei gweision sifil a Bwrdd yr Iaith. Os yw Amazon yn gweld nad yw Llywodraeth Cymru o ddifri am roi statws weledol i'r Gymraeg ac ond am ddefnyddio .wales, yna, mae'n tanseilio gwaith ein cyhoeddwyr, sydd, maes o law yn tanseilio gwaith ac iaith Cymru.

    Awgrymaf dy fod yn cysylltu â phobl ar Fwrdd 'Gymreig' Nominet, y cwmni sydd am redeg y parth i Gymru, pobl fel Aled Eurig (BBC gynt), Lisa Francis (cyn AC Ceidwadol), Ieuan Evans (rygbi) a dy Aelod Cynulliad. senedd lleol, i alw arnynt i sicrhau fod Nominet yn rhoi cais fewn am .cymru a bod cadarnhad fod hwnnw yn cael ei farchnata a'i hyrwyddo yn iawn.

    Mae cyfrifoldeb dros yr economi ddigidol dal i orwedd ffo Llundain nid Edwina Hart gan nad oedd Llafur am ei ddatganoli, felly, bydd rhaid i gais gan Gymru gael cefnogaeth, neu o leiaf dim gwrthwynebiad, gan Lywodraeth San Steffan. Ed Vazey MP yw y Gweinidog sy'n gyfrifol fan hyn a'i fos, Jeremy Hunt MP. Byddai yn ddiddorol gweld a fydd y Toriaid yn mynnu fod statws i'r Gymraeg ac i .cymru yn benodol yn greiddiol i'r cais lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn wrthwynebus neu ar y gorau yn ddiddiddordeb tuag at rol y we fel rhywbeth gall fod o fudd ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol hefyd.

    Mae angen gwneud hyn cyn 6 Ionawr gan mai dyna ddyddiad cau cyflwyno ceisiadau i'r Llywodraeth i redeg y parth Cymru ar y we. Penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd y byddai enw Cymru yn cael ei benderfynnu gan y farchnad ac nid gan ewyllus neu budd ehangach ddiwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol a chymunedol Cymru.

    Sion

    ReplyDelete
  2. Mae llyfrau Cymraeg ar gael ar y Kindle erbyn hyn - http://www.amazon.co.uk/s/ref=nb_sb_noss?url=search-alias%3Ddigital-text&field-keywords=lolfa&x=0&y=0

    Pob lwc!

    Ifan

    ReplyDelete
  3. Anonymous3:35 pm

    Helo, mae rhestr e-lyfrau am ddim yn y Gymraeg yma http://librarywales.org/cy/adnoddau-cyfeiriol/free-e-books/ (linc i Llyfrau o'r Gorffenol). Dw i'n gwybod mae Lolfa yn gwerthu rhai e-lyfrau yn y Gymraeg, ac mae gwasg Honno a Parthian yn gwerthu rhai e-lyfrau Saesneg hefyd.
    Dw i'n gwybod mae Cyngor Llyfrau wedi cyhoeddi adroddiad am e-lyfrau hefyd - http://www.cllc.org.uk/ni-us/cyhoeddiadau-publications/ymchwil-research?diablo.lang=cym ond dw i ddim wedi ei ddarllen eto.

    Un peth bach i ddweud ynglygn am Kindle - 'propriatory' brand yw e, felly dwyt ti ddim yn gallu defnyddio rhai pethau fel y gwasanaeth newydd peilot mewn 14 awdurdodau yng Nghymru trwy'r llyfrgell cyhoeddus. Maent cynnig e-llyfrau am ddim i losgi (for loan) ond dyw gwasanaeth ddim yn gweithio gyda Kindle - bai Kindle/Amazon, nid llyfrgelloedd. Mwy gwybodaeth yma http://librarywales.org/reference-resources/subscribed-e-books/ neu linc https://wales.libraryebooks.co.uk/site/EB/ebooks/user_login_main.asp.

    Dw i'n gweithio i'r Llywodraeth yn yr adran Llyfrgelloedd a dyn ni rhoi arian i'r peilot felly mae diddordeb 'da fi yn y mae e-lyfrau a cynnwys Cymraeg a Chymreig. (Sori am sillafu/grammar, dysgwraig ydw i.)

    ReplyDelete
  4. rhai e-lyfrau cymraeg ar gael ar - www.cromen.co.uk

    ReplyDelete
    Replies
    1. Petroc ap Seisyllt5:22 pm

      Robin Llywelyn
      croeso i wefan llywelyn.com sy'n cynnwys rhyddiaith Robin Llywelyn. Mae'r safle yma'n cynnwys fersiynau gwreiddiol heb eu golygu o nofelau a storďau Robin ...
      www.llywelyn.com/

      Delete