09/12/2011

Brwydr Bandiau Ysgolion Cymru

Gan fy mod yn rhiant yr wyf wedi edrych ar y bandio ysgolion ac wedi cymharu ysgol fy mhlant ag ysgolion eraill, ond wedi gwneud dwi ddim mymryn yng nghallach.

Mae fy mhlant yn mynychu Ysgol y Creuddyn yn Sir Conwy -ysgol band 2 yn ôl y Cynulliad. Dyma sut mae'n cymharu ag ysgolion eraill y Sir:

YsgolBand % Sy'n Cyrraedd TGAU 5 A*-C
Ysgol Uwchradd EiriasBand 166
Ysgol AberconwyBand 240
Ysgol Bryn ElianBand 256
Ysgol Dyffryn ConwyBand 246
Ysgol y CreuddynBand 266
Ysgol Emrys ap Iwan Band 344
Ysgol John BrightBand 450
Er bod sgôr arholiadau Ysgol y Creuddyn yn cyfateb i sgôr Ysgol Eirias mae Eirias yn well ysgol na'r Creuddyn. Ysgol Aberconwy yw'r ysgol waethaf yn y Sir o ran canlyniadau ond eto mae'n rhannu band efo'r Creuddyn. Ysgol John Bright yw'r ysgol waethaf yn y sir o ran bandio - ond eto mae ei chanlyniadau yn well na thair o ysgolion eraill y sir. Sut mae modd i riant gwneud sens allan o'r fath ffigyrau?

O edrych trwy ffigyrau Cymru gyfan:

Mae Ysgol St Mary the Immaculate yng Nghaerdydd ym mand 1 efo llwyddiant arholiadau o ddim ond 24% pitw, ond mae Ysgol Treforys ym mand 5 gyda llwyddiant o 58% dechau.

Rwy'n derbyn bod yna fwy i addysg na dim ond cyrhaeddiad - ond cyrhaeddiad rwy'n ymofyn i fy mhlantos ta waeth.

Ym mha ysgol y maent yn fwyaf tebygol o gyrraedd eu llawn potensial? Yn Ysgol y Santes Fair, Caerdydd neu yn Ysgol Treforys, Abertawe? Pe bawn yn danfon yr hogs i Ysgol Gorau Cymru, (Sef ysgol Castell Alun, Band 1 a 76%) pa sicrwydd sydd gennyf na fyddant ym mysg y 24% o'r trueiniaid sydd yn methu yno? Yr ateb ydy dwi ddim yn gwybod! Ac os nad ydwyf, fel rhiant, yn gwybod yr ateb i'r fath gwestiynau wedi edrych ar dabl y Cynulliad mae cwestiwn arall yn codi:

Be ddiawl di pwrpas cyhoeddi'r fath lol botas o dabl diwerth?!

2 comments:

  1. Cytuno bod yr holl beth yn ffars. ond...

    BANDIAU YSGOLION UWCHRADD CYMRAEG

    I'r rhai sydd gyda diddordeb dwi wedi rhoi'r ysgolion Uwchradd Cymraeg yn ôl bandiau'r llywodraeth isod. Noder mai dim ond ysgolion Gymraeg lle mae 100% o'r pynciau heblaw am Saesneg, neu o leiaf 80% o'r pynciau heblaw am Cymraeg/Saesneg (2A) yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i BOB disgybl dwi wedi cynnwys, sef 37 ysgol Uwchradd yng Nghymru. Mae hyd at 55 ysgol uwchradd yn cynnig rhai pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg i'r disgyblion, ond yn yr 18 ysgol uwchradd ychwanegol yma, mae canran helaeth o'r disgyblion yn derbyn eu haddysg yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg (ysgolion categori 2B/2C/2CH) ac felly nid ydynt wedi eu cynnwys.

    BAND 1
    Gwynedd, Ysgol Brynrefail
    Gwynedd, Ysgol Tryfan
    Sir Benfro, Ysgol y Preseli
    Abertawe, Ysgol Gyfun Gwyr
    Castell-Nedd Port Talbot, Ysgol Gyfun Ystalyfera
    Bro Morgannwg, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
    Caerffili, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

    BAND 2
    Gwynedd, Ysgol Dyffryn Ogwen Bethesda
    Gwynedd, Ysgol Botwnnog
    Gwynedd, Ysgol Y Gader
    Gwynedd, Ysgol Y Moelwyn
    Gwynedd, Ysgol Glan y Mor
    Conwy, Ysgol y Creuddyn
    Sir Fflint, Maes Garmon
    Wrecsam, Ysgol Morgan Llwyd
    Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
    Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
    Ceredigion, Ysgol Gyfun Penweddig
    Sir Gaerfyrddin, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

    BAND 3
    Gwynedd, Ysgol Dyffryn Nantlle
    Gwynedd, Ysgol Eifionydd
    Gwynedd, Ysgol Uwchradd Tywyn
    Sir Ddinbych, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd
    Abertawe, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
    Torfaen, Ysgol Gyfun Gwynllyw
    Sir Gaerfyrddin, Ysgol Gyfun Y Strade

    BAND 4
    Gwynedd, Ysgol Y Berwyn
    Gwynedd, Ysgol Ardudwy
    Gwynedd, Ysgol Friars
    Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Llanhari
    Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
    Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Rhydywaun
    Ceredigion, Ysgol Dyffryn Teifi
    Sir Gaerfyrddin, Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa

    BAND 5
    Gwynedd, Ysgol Syr Hugh Owen
    Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Garth Olwg

    YSGOL NEWYDD - DIM BAND
    Penybont, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

    ReplyDelete
  2. Dyna fi wedi mynd i un o'r ysgolion 'waethaf' yng Nghymru felly! Ond dydw i ddim yn ctuno efo'r bandiau yma - dydyn nhw'n dweud dim am a mor dda yw'r cyfleusterau na'r athrawon, dim ond am lwyddiant y disgyblion. Fe fuodd my mrodyr i yn Ysgol Tryfan, sydd yn y band uchaf, ac fe fues i yno am gyfnod. Allai'm dweud ei fod yn ysgol gwell, dim ond fod y disgyblion yn dod o gefndir mwy dosbarth canol ac yn cael mwy o gefnogaeth gartref na'r disgyblion oedd yn Ysgol Syr Hugh. Roedd athrawon Syr Hugh yn wych ar y cyfan ac fe gefais i bob cefnogaeth ganddyn nhw, ond doedd rhai o fy nghyd ddisgyblion ddim yn gweld gwerth addysg am nad oedd gan eu rhieni swyddi a doedden nhw ddim yn disgwyl cael swyddi chwaith. Dw i'n cofio bachgen ifanc clyfar yn mynegi mewn geiriau hollol glir i fi nad oedd am drafferthu yn yr ysgol am nad oedd dim pwynt gan nad oedd unrhyw swyddi ar gael a mai byw mewn ty cyngor fel ei fam a'i dad fyddai fo beth bynnag.

    ReplyDelete