12/10/2011

Hen Silff – Cyfrol Newydd

Mae yna silff arbennig iawn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru! Y silff lle mae adroddiadau Comisiynau Cymreig yn cael eu cadw!

Mae'n silff sydd ychydig yn llychlyd, oherwydd does neb byth yn mynd yno er mwyn darllen y cyfrolau. Yr unig amser y mae rhywun yn ymweld â'r silff yw pan fydd hen lyfrgellydd yn ymlwybro yno i roi cyfrol newydd arall ar y silff.

Mae'r silff yn dal Adroddiad Kilbrandon, Adroddiad Richards, Adroddiad Emyr Jones Parry, Adroddiadau dau Gomisiwn Holtham a llawer, llawer o rai eraill.

Y newyddion da yw bydd raid i lwch y silff cael ei chwythu ffwrdd unwaith eto a bydd rhaid gwaredu a'r we pryf cop, er mwyn gwneud lle ar gyfer cyfrol newydd sbon danlli- Adroddiad Silk - Hwre a Haleliwia!

Y newyddion drwg yw y bydd Adroddiad Silk yn dod yn rhan o'r malurion sydd eisoes ar y silff, a bydd yn fuan yn cael sylw'r llwch a'r we pry cop - bydd dim gobaith i'r adroddiad cael sylw go iawn gan wleidyddion y Bae na Sansteffan!

3 comments:

  1. Mae Alwyn yn anghofio bod Adroddiad Jones-Parry wedi'i lunio i un pwrpas ac un pwrpas yn unig, sef i fraenaru'r tir ar gyfer y refferendwm (cyfyngedig) a gynhaliwyd yn llwyddiannus eleni. Job Done. Nawr rydyn ni'n symud ymlaen.

    ReplyDelete
  2. Anonymous3:02 pm

    Dim ond fôt i Blaid Cymru sydd yn newid sefyllfa cyfansoddiadol Cymru.

    Dydy'r Blaid Lafur ddim am newid achos mae nhw eisiau 'arian am ddim' a pheidio cael polisiau caled + beio'r Toriaid cas.

    ReplyDelete
  3. Mae Alwyn yn cofio bod Adroddiad Jones-Parry wedi'i lunio i un pwrpas ac un pwrpas yn unig, sef - i afradu arian ac amser!

    ReplyDelete