01/10/2011

Gwahardd Aeron - cam gwag i ddemocratiaeth!

Mi fyddai'n deg dweud nad ydwyf ym mysg ffans mwyaf y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, naill ai fel Cynghorydd nac fel blogiwr. Beth bynnag bu gwendidau ei gyd bleidiwr Gwilym Euros fel priod a chynhaliwr cyfraith gwlad, roedd blog Gwilym wastad yn lle i gael trafodaeth fywiog a difyr. Mae blog Aeron wedi bod yn lle sbeitlyd, maleisus braidd, lle mae un yn debycach o weld sylwadau sarhaus a phersonol yn hytrach na thrafodaeth gref.

Mae sylwadau maleisus a wnaed gan Aeron ar ei flog wedi ei osod mewn dŵr poeth. Y mae o wedi cael ei ddwrdio gan Ombwdsman Cymru a'i wahardd o'r Cyngor am fis gan Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd am honni bod Dyfed Edwards wedi hedfan i Gaerdydd ar bwrs y sir er mwyn cael sgwrs fach efo Alun Ffred, er gwaetha'r ffaith bod Ffred yn gymydog iddo yng Ngwynedd. Mae'n ymddangos bod sylw Aeron yn un gwbl di sail, yn wir yn gelwydd noeth dan din, gan hynny 'does dim modd cyfiawnhau ymddygiad Aeron.

Ond wedi dweud hyn y mae gennyf OND!

Trwy ddewis bywyd gwleidyddol ddylai dyn derbyn ei fod am dderbyn sen a gwawd gan aelodau o bleidiau eraill, y ffordd gorau i ymateb i daflu baw yw taflu ddwywaith gymaint o faw yn ôl, yn hytrach na rhedeg at "Mam" i gwyno!

Pwrpas yr Ombwdsman yn wreiddiol oedd amddiffyn y cyhoedd rhag cam weinyddu gan gynghorau, nid ymddwyn fel reffari rhwng cynghorwyr o bleidiau gwleidyddol gwahanol. Mae nifer y cwynion gan un cynghorydd yn erbyn cynghorydd arall yn arafu'r broses i aelodau o'r cyhoedd. Os oedd Dyfed yn teimlo ei fod wedi ei enllibio gan Aeron, ei le oedd mynd at dwrnai i gwyno am enllib, nid camddefnyddio'r Ombwdsman ar gyfer ei gwyn wleidyddol.

Mae'r rhan o'r còd ymddygiad y mae Aeron wedi ei "dorri" yn amlwg yn un sydd i fod i amddiffyn etholwyr rhag cael anfantais gan eu cynrychiolydd 7 (a) yn gofyn i gynghorwyr ‘beidio â defnyddio’u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson. Rhan o'r broses wleidyddol yw sicrhau mantais i'ch plaid ac anfantais i bleidiau eich gwrthwynebwyr - cam ddefnydd o'r còd yw ei ddefnyddio i geisio gwahardd gwrthwynebydd gwleidyddol rhag cael mantais wleidyddol!

Mae'r ail sail am y cwyn yn erbyn Aeron yn chwerthinllyd sef peidio* â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – gan na fu dyfarniad yn erbyn Aeron mewn llys troseddol na sifil, nid ydyw wedi cyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – mae ei "gosbi" am dorri'r rhan yma o'r còd, gan hynny yn gwbl anghyfiawn!

Yr hyn sy'n peri mwyaf o ofid imi yw'r cosb sydd wedi ei osod ar y cynghorydd. Beth bynnag ein barn am Aeron fel unigolyn neu fel gwleidydd, yfo ydoedd dewis pobl Llanwnda i'w cynrychioli ar Gyngor Gwynedd. Trwy ei wahardd ef am fis nid yr unigolyn yn unig sy'n cael ei wahardd, mae pobl Llanwnda yn cael eu cosbi trwy eu hamddifadu rhag cael cynrychiolydd ar y cyngor hefyd – mae hynny'n hynod annheg i bobl Llanwnda!

A chyn i selogion y Blaid fy slagio am amddiffyn Aeron, rwy’n credu bod pob un o'r sylwadau uchod yr un mor berthnasol parthed cwynion Llafur yn erbyn Cynghorwyr y Blaid yng Nghaerffili! hefyd!



*(Dyma eiriad y drosedd yn ôl Golwg360. Byddwn yn teimlo bod "peidio â chyflawni tramgwydd troseddol" yn rhinwedd - rhywbeth i Jac Codi Baw Golwg ei hystyried o bosib!)

9 comments:

  1. Anonymous12:11 pm

    "y ffordd gorau i ymateb i daflu baw yw taflu ddwywaith gymaint o faw yn ôl, yn hytrach na rhedeg at "Mam" i gwyno"

    Eich dadl ydi y dylai Dyfed Edwards fod wedi dweud celwydd gwaeth am Aeron Jones.

    Fedra i ddim dychmygu Mr Edwards yn dweud celwydd am neb rhywsut. Felly rydych yn dadlau na ddylai cynghorwyr egwyddorol sydd yn anfodlon cropian o gwmpas y gwter fod yn hollol ddi amddiffyn yn erbyn celwyddgwn.

    ReplyDelete
  2. Eich dadl ydi y dylai Dyfed Edwards fod wedi dweud celwydd gwaeth am Aeron Jones.
    Dim o gwbl. Fy nadl i yw y dylai Mr Edwards gwneud yr union hyn yr ydych chi wedi gwneud uchod, sef condemnio celwydd Aeron a chlodfori ymddygiad egwyddorol Dyfed.

    ReplyDelete
  3. Anonymous5:51 pm

    Mae'n wir y dylai gwleidydd fod yn fodlon amddiffyn ei record - ond pam goblyn y dylai dreulio ei amser i gyd yn croes ddweud celwydd sy'n cael ei ddweud amdano.

    Oni ddylai bod trefn i stopio pobl fel Mr Jones ddweud celwydd am wleidyddion eraill? Oni ddylai dadlau gwleidyddol fod wedi ei seilio ar ffeithiau sy'n wir yn hytrach nag ar ffrwyth dychymyg pobl?

    ReplyDelete
  4. Anonymous6:50 pm

    A mae'r blog yma wedi cyrraedd rhestr fer Blogiau Cymru ffs. Pwy ffwc ydy'r beirniaid?

    ReplyDelete
  5. Mae 'na rywbeth hyfryd o ddoniol o gael fy rhegi yn ddienw gan un sy'n honni amddiffyn ymddygiad gwleidyddol egwyddorol a gonest.

    ReplyDelete
  6. Anonymous7:32 pm

    Nid fi ydi fo - os ydach chi'n dallt be dwi'n feddwl.

    ReplyDelete
  7. Anonymous9:47 pm

    Ti'n disgwyl cael dy gamdrin gan flogwyr Plaid Cymru ac felly o'n i ddim am dy siomi.

    ReplyDelete
  8. Mae'n anodd anghytuno â HRF fan hyn. Aeron ydi'r cynghorydd sir gwaethaf yn hanes y sir, ond mae gwaharddiadau fel hyn yn gwneud i mi deimlo braidd yn anghyfforddus. Yn enwedig o ystyried pa mor amwys ydi'r cymalau o'r côd ymddygiad a gyfeirir atynt.

    ReplyDelete
  9. Anonymous7:20 pm

    Mae'r safbwynt yma yn ymddangos yn rhesymol ond a dyma OND arall, mae rhaid cofio'r cyd-destun i hyn oll. Bu Llais Gwynedd yn lldedu celwyddau am bolisiau ac unigolion Plaid Cymru cyn yr etholiad diwethaf yn 2008. Fe barhaodd y patrwm wedi'r etholiad gyda datganiadau celwyddog a lledu straeon celwyddog am unigolion, gan gynnwys am Dyfed Edwards. Yn ol y son fe alwyd Aeron M Jones gerbron swyddog montitro'r cyngor bedair gwaith oherwydd ei ymddygiad. Yn ol yr adroddiad i'r Ombwdsmon fe roddod Dyfed Edwards gyfel i Aeron Jones ymddiheurio gan dynnu'r sylwadau yn ol ond fe wrthododd wneud hynny. Er yn ddigwyddiad unigol, mae'r hanes yma yn fater llawer ehangach sy'n ymwneud ac ymddygiad a 'diwylliant' o fewn Cyngor Gwynedd. Nid mater o daflu baw yn ol, fel rydych yn awgrymu ond gwneud safiad ar fater o berson yn creu stori gelwyddog er mwyn pardduo enw person a phlaid arall.

    ReplyDelete