03/09/2011

Rwy'n casáu gogledd Cymru

Peth rhyfedd i Gog i'w dweud, hwyrach, ond rwy'n casáu Gogledd Cymru.

Rwy'n eithaf hoff o bob rhan o ogledd ein gwlad, ond rwy'n casáu'r cysyniad gwleidyddol o Ogledd Cymru.

Dydy Gogledd Cymru ddim yn rhanbarth gwleidyddol naturiol Gymreig unedig cyfoes. Mae ffug undod y gogledd yn cael ei coleddu, nid er mwyn undod, ond yn unswydd er mwyn creu rhaniadau yng Nghymru; mae'n rhan o gêm y gwrth Gymreig i greu polisi o divide and rule sy'n milwriaethu yn erbyn undod cenedlaethol.

Bron pob tro y bydd y geiriau North Wales yn cael eu yngan, bydd y cyd-destun yn un o gwynion am y Sowth yn cael rhywbeth gwell na ni, neu bod y Sowth yn rhy bell i ffwrdd a bod pobl y Sowth mor ddiarth inni fel bod gennym mwy yn gyffredin a dynion bach gwyrdd Gogledd y blaned Mawrth na chyd Cymro sy'n byw mor bell i ffwrdd a Thresaith diarth!

Dros chwarter canrif yn ôl fe nododd Dennis Balsom bod yna dair rhanbarth gwleidyddol Cymreig:

Y Fro Gymraeg, y Cymru Gymreig a'r Cymru Prydeinig.

Hwyrach nad yw'r labeli yna yn addas bellach, ond mae'r rhaniadau yn aros yn gyffelyb – dyma raniadau naturiol Cymru, ac os oes angen, fel mae Carl Saregent yn mynnu, i gynghorau cyd weithio rhaniadau Balsam yw'r rhai callaf er mwyn cydweithrediad!

Mae gan Aberdaron a Thregaron llawer mwy sy'n gyffredin na sydd gan y naill na'r llall a Brymbo neu Llanandras. Mae Caernarfon, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn debycach i'w gilydd nag ydynt yn debyg i Wrecsam.

Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod problemau Caergybi ac Abergwaun bron yn efeillio.

Os oes angen uno cynghorau neu uno gwasanaethau cynghorau, mae uno ar hyd y gorllewin a'r dwyrain yn amlwg yn llawer mwy synhwyrol nag yw uno ar hyd y gogledd o ran lles trefniadaeth. Ond tafellu Cymru, yn annaturiol, o ran gogledd, canolbarth, gorllewin a de sydd orau o ran y Blaid Lafur, er mwyn creu dicter rhanbarthol sy'n wrthyn i'r syniad o genedl Gymreig unedig!

3 comments:

  1. Dwi pob amser wedi ystyried y syniad o Gymru Gymraeg, Cymru Gymreig a chymru Seisnig yn broblematig - yn rhannol oherwydd ei bod yn anodd gwybod beth i'w wneud efo'r dinasoedd,

    Os mae'r maes glo ydi'r Gymru Gymreig, a'r ardaloedd ar hyd y ffin a De Penfro ydi'r Gymru Seisnig yn lle'r ydym yn rhoi'r dinasoedd. Mae'n rhaid bod Abertawe yn perthyn i'r Gymru Gymreig - ond mae dylanwad y Cymoedd yn gryf iawn ar Gaerdydd hefyd - a'r Gymru Gymraeg erbyn heddiw. Mae'n rhaid bod Casnewydd yn fwy tebyg i Dorfaen nag yw i Fynwy, ac mae ardaloedd Wrecsam a Fflint yn dra gwahanol hefyd.

    ReplyDelete
  2. "North Wales" efo "N" fawr sy'n fy nghorddi i. Fel rwyt ti'n dweud, mae hynny'n awgrymu bod y gogledd yn uned wleidyddol a dydi hynny ddim yn wir o gwbl. Mae'n gwneud i ni swnio fel y ddwy blydi Corea.

    ReplyDelete
  3. Anonymous10:20 am

    Wi wedi gweld graffiti yng Ngwynedd sy'n dweud "get off our mountains". Sai'n gwybod pwy yw'r "our" oedd yn cael ei fwriadu yn y cyd-destun 'na (pobol Gwynedd? pobol Gogledd Cymru? pobol Cymru? pobol y DU?) ond os mae pobol ishe creu rhaniadau dyn nhw ddim yn gallu cwyno os taw rhaniadau yw'r canlyniad.

    ReplyDelete