16/09/2011

Neges gan Hywel Williams AS parthed S4C

Annwyl Gyfaill

Erbyn hyn byddwch wedi clywed bod y Llywodraeth wedi gwrthod tynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Cafwyd dadl fanwl ar y mater gyda chyfraniadau sylweddol gan Marc Williams Rhydfydwr, Susan Ellen Jones Llafur a minnau, a hefyd areithiau cefnogol gan John Tricket, sydd yn arwain ar ran y Blaid Lafur ar y Mesur, a Charley Elphick Aelod Ceidwadol Dover.

Er hyn oll roedd y Gweinidog David Heath yn bendant na fyddent yn tynnu S4C allan. Roeddem hefyd wedi rhoi nifer o welliannau i lawr yn ceisio sicrwydd gan y Llywodraeth o ran annibyniaeth golygyddol a threfniadol S4C ac hefyd i geisio diffinio yn gliriach y ffordd y bydd S4C yn cael ei ariannu at y dyfodol. Cawsom ymateb gan David Heath oedd yn y bon yn ail adrodd yr hyn mae’r Llywodaeth wedi ei ddwued eisoes.

Fy ngobaith ddoe oedd y byddai ein dadleuon yn peru’r Llywodraeth i ail ystyried rhwng rwan a’r “report stage”, sef y drafodaeth sylweddol olaf ar y mesur. Byddwch wedi gweld efallai yn y wasg heddiw y stori am y cytundeb ariannu S4C rhwng y Llywodraeth a’r BBC. Roeddwn yn synnu o glywed y stori yma fy hyn yn hwyr neithiwr. Mae’n ymddangos felly, tra roedd David Heath yn ein sicrhau bod annibyniaeth ariannol S4C wedi ei ddiogelu, roedd ei lywodraeth yn cytuno i drosglwyddo’r awennau ariannol dros S4C i’r BBC.

Mae hwn yn un o’r materion pwysig iawn y byddwn yn ymgyrchu arno dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Cefais drafodaeth bore ‘ma efo Alun Ffred Jones AC, a oedd gynt wrth gwrs yn Weinidog dros y Celfyddydau. Mae o yn bwriadu gwneud datganiad ar y mater. Yn amlwg byddai’n dda iawn pe byddai cynifer o bobl ac sy’n bosib yn parhau â’r ymgyrch gyhoeddus drwy’r wasg ac ati, ac rwy’n apelio atoch i gyfrannu i hyn.

Mae croeso i chi gysylltu a mi eto ar y mater yma ac rwy’n eich sicrhau y bydd y frwydyr yn parhau.

Yn gywir iawn

Hywel

Hywel Williams AS

No comments:

Post a Comment