10/09/2011

Ieuan Carasmataidd?

Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar araith Ieuan Wyn i Gynhadledd y Blaid, roeddwn yn cytuno ag ambell i beth yr oedd o'n dweud ac yn anghytuno ag ambell i bwynt. Prin fod dim byd newydd nac yn annisgwyl yn sylwedd yr araith. Yr hyn oedd yn annisgwyl imi oedd arddull yr araith. Prin byddai selogion mwyaf cibddall y Blaid yn honni bod Ieuan wedi bod ym mysg areithwyr gwleidyddol gorau ein gwlad - dydy o ddim yn Lloyd George nac yn Nye Bevan nac hyd yn oed yn Adam Price - ond 'yw, roedd fflachiadau o areithiwr tanbaid, angerddol, twymgalon yn dod drosodd yn araith ddoe. Byddai neb yn defnyddio'r geiriau Carismataidd a Ieuan Wyn yn yr un frawddeg fel arfer, ond roedd yna egin o garisma yn ei draddodi ddoe.

Mae hyn yn codi cwestiwn neu ddau : lle mae'r arweinydd a welwyd ddoe wedi bod yn cuddio am y 11 mlynedd diwethaf? Lle bu'r gwleidydd a oedd yn dod a'i yrfa at ei derfyn ddoe wedi bod trwy weddill ei yrfa? Awgrymodd y gohebydd John Stevenson bod Ieuan wedi gwneud cystal gan ei fod wedi ei rhyddhau o bwysau ei gyfrifoldebau a hualau ei swydd. Os yw John yn gywir rhaid gofyn pam diawl bod Plaid Cymru (neu unrhyw blaid, os ddaw i hynny) yn gosod y fath gaethiwed a hualau ar arweinydd?

No comments:

Post a Comment