23/09/2011

Cyfiawnder – Rygbi – Yr Alban a'r Wasg Gymreig!

Rwyf wedi fy synnu braidd at ddiffyg cyfeiriad yn y wasg Gymreig at y controfersi mwyaf sydd wedi taro Cwpan Rygbi'r Byd! Sef gwaharddiad yr IRB ar ganu’r pibgodau mewn gemau, sydd wedi ei osod ar ein cefndryd Albanaidd!

Mae'n achos sydd wedi denu sylw byd eang, o'r Amerig, i Ffrainc i Fiji a nifer o wledydd eraill y byd, ond dim son, hyd y gwelwn, ar Golwg360, yn Llais y Sais, BBC Wêls na Dail y Post!

Cyfiawnder i'r Alban! Ymunwch a'r ymgyrch dros y Bibgod:

Campaign to allow responsible bagpiping in all RWC stadiums in New Zealand


1 comment:

  1. Anonymous10:50 pm

    Dwi yn ffan o'r bagbibau. Hoffwn i weld mwy o'r rhai Cymreig. Rheol dwl sbeitlyd.

    ReplyDelete