23/09/2011

Cosb Ataliol

Mi fu'm yn gwrando ar Question Time neithiwr, a oedd yn cynnwys y cwestiwn disgwyliedig parthed y gosb eithaf yn dilyn dienyddio amheus Troy Davis yn Nhalaith Georgia.

Pob tro bydd y cwestiwn yn cael ei grybwyll bydd cefnogwyr y gosb yn honni bod y gosb eithaf yn gosb ataliol (deterrent punishment). Bydd rhai o wrthwynebwyr y gosb eithaf yn awgrymu bod cyfnod hirfaith o garchar o dan amodau llym yn gosb ataliol lawer mwy effeithiol.

Yn bersonol, rwy’n methu dirnad sut bod cosb ataliol i fod i weithio!

Pwy a ŵyr, hwyrach caf fy erlyn am drosedd yfory, os ydyw'n erlyniad teg mae yna sawl modd imi ddyfod i sefyllfa o gael fy erlyn!

Hwyrach, gwnaf dorri'r gyfraith yn bwrpasol er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol! O ddewis cyflawni'r weithred torcyfraith nid oes elfen o gosb bydd yn fy atal - yn wir, po lymed yw'r gosb po fwyaf fy arwriaeth am dderbyn y gosb a chynyddu bydd cefnogaeth i'r achos!

Hwyrach y byddwyf wedi colli fy nhymer yn llwyr ac yn troseddu yn danllyd o ddiystyr. Ond os ydwyf yn troseddu yn ddiystyr, bydd rhagdybio cosb yn un o'r pethau yr wyf yn anystyriol ohoni. Os nad ydwyf yn ystyriol wrth gyflawni fy nhrosedd ni fydd ystyried y gosb yn rhan o'r hafaliad a all fy atal o'i chyflawni!

Hwyrach fy mod yn rhan o giang sy'n codi ofn ar fy nghymdeithas. Byddwyf, gan hynny, yn hyderus na fydd neb yn beiddio pwyntio bys tuag ataf ar ôl imi gyflawni trosedd difrifol, o wneud bydd eu bywydau hwy mewn mwy o berygl na fy mywyd i. Rwy'n credu fy mod i'n gallu atal y gyfraith! - Does dim cosb ataliol a all atal fy nhor gyfraith i!

Rwyf wedi cael llond bol o'r wraig 'cw! Ond yn ei henw hi mae holl ffortiwn y teulu, pe bawn yn ei hysgaru byddwyf yn colli popeth, ond pe bai hi'n farw byddwyf yn rhydd ac yn gyfoethog! Yr wyf am gynllunio i gael gwared a hi! Trwy gynllunio yn ddwys yr wyf yn bwriadu sicrhau nad oes modd i neb fy nal yn fy ngweithred ysgeler. Gan fod fy nghynllun yn un sy'n sicrhau na chaf byth fy nal, mae'r gosb yn rhan o hafaliad yr wyf wedi ei ymdrin ag ef - mae'r ffactor ataliad wedi ei negyddu yn fy nghynllun cas!

Ond dweder fy mod yn anghywir a bod cosb ataliol yn gweithio, sut gymdeithas yw cymdeithas lle mae ofn canlyniad troseddu yw'r unig beth sydd yn ein cadw rhag trosedd?

Os mae'r unig beth sydd wedi fy nghadw rhag dwgyd gan fy nghyfeillion a'm cymdogion heno yw ofn y canlyniadau - a ydwyf yn un cyfiawn, a ydwyf yn gymydog da, yn ddinesydd da, yn foesol? Nac ydwyf - yr wyf yn gachgi bach anfoesol sy'n ofni'r drefn!

Rwyf am fyw mewn cymdeithas mwy gwar nag un lle mae pobl yn fyw dan ofn ataliol y gyfraith! Cymdeithas lle mae moes ehangach na chyfraith ataliol yn orfodi dinesyddiaeth da!

No comments:

Post a Comment