20/07/2011

Gwendid adroddiad Y Comisiwn Etholiadol

Er gwaethaf addewid y byddwn yn cael copi o'r adroddiad cyn gynted iddo gael ei gyhoeddi, yr wyf yn dal i ddisgwyl am adroddiad y Comisiwn Etholiadol i'w canfyddiadau parthed y gwersi a ddysgwyd ar gynnal refferendwm o brofiad Refferendwm Cynulliad Cymru eleni.

Er gwaethaf nifer o sylwadau a wnaed gennyf parthed fy mhrofiad fel un a ymgeisiodd am hawl i gofrestru fel prif ymgyrchydd, rwy’n teimlo yn siomedig iawn bod pob un o fy sylwadau wedi eu hanwybyddu.

Un o’r sylwadau a wnaed oedd bod safle'r Comisiwn bron yn amhosibl ei lywio yn y Gymraeg, mi lenwais ffurflen gais Saesneg gan nad oedd modd imi gael hyd i fersiwn Cymraeg ohono - er gwaethaf sicrwydd bod y ffurflen ar gael rhywle ym mol y safle yn y Gymraeg. Er gwaethaf addewid o gael copi o adroddiad y Comisiwn, bu'n rhaid imi chwilota amdani ar y wefan, wythnos ar ôl ei gyhoeddi; hyd yn hyn, dim ond y fersiwn Saesneg yr wyf wedi cael hyd iddo. Mae'n debyg bod fersiwn Gymraeg ar gael rhywle yn y crombil, ond dyn a ŵyr sut mae cael hyd iddo.

Y sylw pwysicaf a wnaed gennyf oedd yr un parthed y gallu i gytuno neu wrthwynebu cwestiwn am resymau gwbl wahanol, a'r amhosibilrwydd o uno'r wahanol garfanau o dan un achos, rhywbeth a anwybyddwyd yn llwyr gan y Comisiwn.

Rwy'n fodlon derbyn bod rhywfaint o ogan yn perthyn i fy ymgais i fod yn brif ymgeisydd, ond roedd pwrpas difrifol i'r dychan hefyd. Y mae gan Llywodraeth Cymru hawl i ddeddfu mewn dim ond 20 maes, mae'r llywodraeth bresennol am ddeddfu mewn 10 o'r meysydd hyn o fewn y flwyddyn nesaf! Efo hawl ddeddfu mor gyfyng bydd y temtasiwn i gor ddeddfu yn y meysydd hynny yn fawr.

Fel ceidwadwr c fach rwy'n cefnogi llai o reolaeth wladwriaethol ar bobl, ac mi fyddwn yn hapusach pe bai gan Llywodraeth Cymru'r hawl i ddeddfu ar fil o feysydd na chael ei gyfyngu i or ddeddfu ar ddim ond ugain! Roedd gan fy ymgyrch Na! Dim Digon Da!, pwynt difrifol yn ogystal ag un ddychanol.

Rwy’n hynod siomedig bod y Comisiwn etholiadol wedi llwyr anwybyddu'r pwynt difrifol, a heb ddysgu gwers bwysig o Refferendwm Cymru 2011!

No comments:

Post a Comment