20/07/2011

Gwendid adroddiad Y Comisiwn Etholiadol

Er gwaethaf addewid y byddwn yn cael copi o'r adroddiad cyn gynted iddo gael ei gyhoeddi, yr wyf yn dal i ddisgwyl am adroddiad y Comisiwn Etholiadol i'w canfyddiadau parthed y gwersi a ddysgwyd ar gynnal refferendwm o brofiad Refferendwm Cynulliad Cymru eleni.

Er gwaethaf nifer o sylwadau a wnaed gennyf parthed fy mhrofiad fel un a ymgeisiodd am hawl i gofrestru fel prif ymgyrchydd, rwy’n teimlo yn siomedig iawn bod pob un o fy sylwadau wedi eu hanwybyddu.

Un o’r sylwadau a wnaed oedd bod safle'r Comisiwn bron yn amhosibl ei lywio yn y Gymraeg, mi lenwais ffurflen gais Saesneg gan nad oedd modd imi gael hyd i fersiwn Cymraeg ohono - er gwaethaf sicrwydd bod y ffurflen ar gael rhywle ym mol y safle yn y Gymraeg. Er gwaethaf addewid o gael copi o adroddiad y Comisiwn, bu'n rhaid imi chwilota amdani ar y wefan, wythnos ar ôl ei gyhoeddi; hyd yn hyn, dim ond y fersiwn Saesneg yr wyf wedi cael hyd iddo. Mae'n debyg bod fersiwn Gymraeg ar gael rhywle yn y crombil, ond dyn a ŵyr sut mae cael hyd iddo.

Y sylw pwysicaf a wnaed gennyf oedd yr un parthed y gallu i gytuno neu wrthwynebu cwestiwn am resymau gwbl wahanol, a'r amhosibilrwydd o uno'r wahanol garfanau o dan un achos, rhywbeth a anwybyddwyd yn llwyr gan y Comisiwn.

Rwy'n fodlon derbyn bod rhywfaint o ogan yn perthyn i fy ymgais i fod yn brif ymgeisydd, ond roedd pwrpas difrifol i'r dychan hefyd. Y mae gan Llywodraeth Cymru hawl i ddeddfu mewn dim ond 20 maes, mae'r llywodraeth bresennol am ddeddfu mewn 10 o'r meysydd hyn o fewn y flwyddyn nesaf! Efo hawl ddeddfu mor gyfyng bydd y temtasiwn i gor ddeddfu yn y meysydd hynny yn fawr.

Fel ceidwadwr c fach rwy'n cefnogi llai o reolaeth wladwriaethol ar bobl, ac mi fyddwn yn hapusach pe bai gan Llywodraeth Cymru'r hawl i ddeddfu ar fil o feysydd na chael ei gyfyngu i or ddeddfu ar ddim ond ugain! Roedd gan fy ymgyrch Na! Dim Digon Da!, pwynt difrifol yn ogystal ag un ddychanol.

Rwy’n hynod siomedig bod y Comisiwn etholiadol wedi llwyr anwybyddu'r pwynt difrifol, a heb ddysgu gwers bwysig o Refferendwm Cymru 2011!

17/07/2011

Etholiad Pwysica’r Ganrif!

Rwy'n cyfrif ar eich cefnogaeth ac yn erfyn ar bob darllenydd sydd â pherthnasau a chyfeillion yn ward Bryn Rhys i gysylltu â hwy er mwyn eu herfyn i bleidleisio i'r ymgeisydd gorau, yr ymgeisydd mwyaf clodwiw, yr ymgeisydd harddaf ei wedd, yr ymgeisydd mwyaf rhadlon ac (wrth gwrs) yr ymgeisydd mwyaf moesol.

07/07/2011

Cwestiwn am Achos Aled Roberts

Llongyfarchiadau i Aled Robert ar gael cadarnhad o'i aelodaeth o'r Cynulliad. Yr wyf newydd wrando ar y drafodaeth ar raglen Ddoe yn y Cynulliad S4C

Mewn ymateb i sylw a wnaed gennyf ar flog Aled Wyn parthed achos Mr Roberts, fe ddywedodd Aled Wyn:
I always thought it was common knowledge that you couldn’t be elected to the Assembly if you were in their employ, or part of public body funded by them… that was the first thing made clear to me when I worked for the Welsh Language Board

Pwynt digon teg a rhywbeth nas codwyd yn y ddadl yn y Senedd. Pan ddaeth y gwaharddiad ar aelodau o Dribiwnlys Prisio Cymru rhag aelodaeth o'r Cynulliad i rym ym mis Ionawr eleni, bydda ddyn yn disgwyl i'r Cynulliad rhoi gwybod i'r Tribiwnlys bod ei aelodau bellach yn waharddedig, a bod y Tribiwnlys wedi rhoi'r wybodaeth yna i'w holl aelodau.

Os basiwyd y wybodaeth ymlaen o'r Cynulliad i'r Tribiwnlys ac o swyddogion y Tribiwnlys i'w haelodau mae dadl Mr Roberts parthed diffygion y Comisiwn Etholiadau yn un wan. Os na phasiwyd y wybodaeth o'r Cynulliad i'r Tribiwnlys neu o'r Tribiwnlys i'w haelodau mae angen i'r cyrff yna bogelsyllu hefyd, nid jyst y Comisiwn Etholiadol!