08/05/2011

Is Etholiad Dwyfor Meirion 2013!

Wedi'r siwnami gwleidyddol yn yr Alban, diddorol yw gweld sut mae'r ddwy blaid a gollodd fwyaf wedi ymateb. Mae Tavish Scott, o ran y Democratiaid Rhyddfrydol wedi syrthio ar ei gleddyf yn syth , ac wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad disymwth fel Arweinydd ei blaid.

Mae Iain Gray wedi dweud ei fod am ymddiswyddo o arweinyddiaeth ei blaid ym mhen y rhawg, tua'r hydref, mae'n debyg.

Mr Gray yw'r callaf o'r ddau. Cyn cael dadl fewnol am yr arweinydd nesaf i Lafur yn yr Alban, gwell yw cael dadl fewnol am be aeth o'i le, a dewis arweinydd newydd sydd a'r gallu i wirio rhai o'r camgymeriadau!

Rwyf wedi clywed ambell i gefnogwr Plaid Cymru yn awgrymu bod angen i Ieuan Wyn ystyried ei ddyfodol. Rwy'n cytuno! Mae angen arweinydd amgen ar y Blaid i'w harwain i etholiadau 2016, ond dylid disgwyl i'r llwch tawelu, dwys ystyried y camgymeriadau ac yna ddewis arweinydd newydd, yn hytrach na gwneud penderfyniad byrbwyll.

O sôn am arweinydd nesaf y Blaid, rhaid crybwyll y Tywysog Dros y Dŵr, yn ddi-os Adam yw'r bersonoliaeth debycaf sydd gan y Blaid i bersonoliaeth fawr Mr Salmond.

Yn ddi-os mae Dafydd Êl wedi cyfrannu ei orau i'r Cynulliad ac wedi gwneud ei farc ar Hanes Cymru. Mae Dwyfor Meirion yn eithaf saff i'r Blaid, bydd Dafydd yn cyrraedd oed pensiwn eleni, mae gan Dafydd rhan i chwarae dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Fel etholaeth sydd yn wledig ac yn bost diwydiannol, mae'n etholaeth sy'n uno pob adain o'r Blaid - etholaeth sy'n gallu cyfarwyddo arweinydd i byls Cymru gyfan.

Ieuan Wyn i arwain y Blaid hyd is etholiad Dwyfor Meirion 2013 meddwn i.

3 comments:

  1. Anonymous8:01 am

    Syniad da Hen Rech ... neu Dwyrain Caerfyrddin.

    Mae 'na deimlad fod 'cenhedlaeth 1999' yn 'bed blocio' bellach.

    ReplyDelete
  2. Welshguy11:46 am

    Onid un o'r rhesymau na wnaeth Adam Price sefyll yn yr etholiad yw nad oedd o'n cael sefyll dros Dwyrain Caerfyrddin, a doedd o ddim eisiau sefyll ar y restr (pe bai wedi sefyll ar y restr, byddai wedi cael ei ethol siwr o fod ynlle Simon Thomas)? Os felly sai'n siwr y byddai'n barod i ddychwelyd hyd yn oed dros Dwyfor Meirionydd. Nid 'gog mohonno, cofiwch.

    Un peth da am Ieuan - mae wedi dangos ei bod yn gallu ennill Ynys Môn yn ddigon hawdd bob tro; siwr o fod pe bai o wedi aros yn San Steffan byddai'r sedd yn dal i fod gennym ni. Mae hynny'n fantais mewn sedd mor volatile a Môn!

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:48 pm

    Alwyn-dwyt ti erioed yn awgrymu y dylai AP sefyll yn Nwyfor/Meirionnydd? Un o gryfderau mawr Adam o ran y Blaid ydi ei fod yn Ddeheuwr, ac yn apelio at ddeheuwyr, sef yr union bobl y mae'n rhaid eu hargyhoeddi am ryddid i Gymru. Cytuno bod angen is-etholiad yn 2013 neu hyd yn oed 2012- ond yng Nghaerfyrddin/Dinefwr y mae angen cynnal yr is-etholiad hwnnw!

    ReplyDelete