16/04/2011

Polisi Iaith y Ceidwadwyr

Mae yna addewid diddorol gan y Ceidwadwyr yn eu maniffesto parthed yr Iaith Gymraeg – Gweithio tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2031 a 1.5 miliwn erbyn 2051 mewn gwlad sy'n wirioneddol ddwyieithog.

Ynddo'i hun mae'n polisi digon clodwiw am wn i. Er ei fod yn hynod annhebygol y byddwyf fi dal ar dir y byw yn 2051 i longyfarch / beirniadu'r blaid ar ei lwyddiant / methiant, da o beth, ar y cyfan, yw gweld plaid yn edrych i'r hir dymor yn hytrach na dim ond i'r tymor byr.

Ond mae yna dau beth sydd yn fy mhryderu am ddiffuantrwydd y polisi.

Y peth cyntaf yw bod y ddau darged yn rhy bell i'r dyfodol. Dylid cael targedau byrdymor sydd yn profi bod y targed hirdymor yn gyraeddadwy ac yn fesuradwy. Sawl siaradwr Cymraeg ychwanegol mae'r Blaid Ceidwadol yn disgwyl bydd ym mhen y mis nesaf, ymhen y flwyddyn nesaf, cyn yr etholiad Cynulliad nesaf os yw eu polisi ar drac?

Yr ail beth sy'n fy mhryderu yw fy mod yn gallu ateb fy mhryder cyntaf!

O dderbyn mai tua hanner miliwn o bobl Cymru yn siarad y Gymraeg heddiw, a chreu graff i darged 2031 a tharged 2051 ceir llinell unionsyth, efo 25,000 o siaradwyr newydd pob blwyddyn. Sydd yn nonsens!

Os llwyddir i gael 25 mil o siaradwyr Cymraeg newydd eleni, bydd rhywfaint ohonynt yn magu teuluoedd Cymraeg, neu'n mynd i ddysgu'r Gymraeg i eraill. Bydd eu cymdogion yn mynnu addysg Gymraeg, bydd y Gymraeg yn cynyddu yn ei boblogrwydd ac ati. Gan hynny teg disgwyl i'r cynnydd erbyn 2013 fod yn uwch na 25,000 - 28,000 dweder. Nid llinell syth byddid ar y graff ond llinell herciog, sy'n arwain at filiwn a hanner o siaradwyr ym mhell cyn 2031, heb sôn am 2051.

Pe bawn yn sinig byddwn yn awgrymu bod y Ceidwadwyr wedi tynnu ffigyrau sy'n perthyn i gyfnod ym mhell du hwnt i'r tymor seneddol cyfredol, er mwyn ymddangos yn fwy cefnogol i'r iaith nag ydynt; er mwyn swcro Plaid Cymru i Glymblaid Enfys, hwyrach.

Gan nad ydwyf yn sinig rwy'n gobeithio bod gan y Ceidwadwyr manylion llawn ar gyfer y polisi, bydd yn cael eu cyflwyno, er lles yr iaith, boed mewn clymblaid neu wrthblaid. Rwy'n gobeithio bod eu graff o gynnydd cyson, yn hytrach nag un sy'n dangos llwyddiant yn magu llwyddiant, yn profi'n camgymeriad o'r ochor orau, tra byddwyf yma i'w ddathlu!

No comments:

Post a Comment