02/02/2011

Pleidlais Dan Glo

Yn ôl y BBC bydd Carcharorion yng Nghymru yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn bersonol rwy'n cytuno a'r egwyddor o garcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, oni bai eu bod wedi eu carcharu am wyrdroi etholiadau.

Ond mae'r datganiad bod carcharorion YNG Nghymru yn cael pleidleisio yn peri dryswch imi.

A fydd carcharorion Cymreig o ogledd a chanolbarth Cymru sydd yn y carchar ym Manceinion, yr Amwythig, Lerpwl ac ati yn cael pleidleisio? A fydd carcharorion o Loegr sydd heb unrhyw gysylltiad â Chymru mond bod y gyfundrefn wedi eu danfon i Abertawe, Caerdydd neu Ben-y-Bont yn cael pleidleisio?

Gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru a oes achos Swffragét newydd yn codi yng Nghymru? Dynion o garcharorion yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ond merched o garcharorion yn cael eu hamddifadu o'r bleidlais?

Does geni ddim syniad sut mae trefn rhoi pleidlais i garcharor am weithio, ac er Gwglo nid ydwyf dim callach. Os yw carcharorion unigol am gael pleidlais post yn seiliedig ar eu cyfeiriad cartref cyn eu dedfryd, iawn! Ond mae'r syniad bod carchar cyfan yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn un etholaeth braidd yn wrthyn; a'r syniad bod carcharorion o'r Gogledd yn cael eu hamddifadu o bleidlais oherwydd ein bod yn cael ein hamddifadu o garchar yn y Gogledd yn fwy gwrthun byth

1 comment:

  1. Anonymous3:40 pm

    Dim syniad am yr achosion o etholaethau Cymru a'r Alban, ond credaf yr oedd y sôn gwreiddiol am bleidleisiau carcharionion ddim yn cyfrif o fewn etholaeth y carchar. Hynny yw, fod y pleidlais yn cael ei gyfrif yn etholaeth cartrefol y troseddwr.

    Mae hwn hefyd yn codi'r cwestiwn, ble dylai pleidlais myfyriwr cael ei gofrestru? Etholaeth cartref ynteu tref y brifysgol? Gall hyn fod yn ddipyn o ergyd i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    ReplyDelete