19/02/2011

Pa bryd caf wybod pwy yw fy AC newydd?

Yn ôl y son ymysg sylwadau ar flog Gohebydd Gwleidyddol BBC'r Alban bydd y cyd daro rhwng pleidlais refferendwm y Bleidlais Amgen a Phleidlais i Senedd yr Alban yn golygu gohirio cyhoeddi pwy sydd wedi eu hethol i Pàrlamaid na h-Alba hyd y Sadwrn wedi'r pôl.

Mae'n debyg bod pleidlais y refferendwm am gael ei gyfrif yn ystod y dydd ar Ddydd Gwener Mai'r 6ed.

Gan fod cwestiwn y refferendwm yn un Prydeinig mae'n goruchafu unrhyw bleidlais ranbarthol yng Nghymru a'r Alban neu bleidlais gymunedol yn Lloegr, a bydd dim hawl cyfri'r pleidleisiau rhanbarthol / lleol cyn cyfri'r bleidlais refferendwm ar ddydd Gwener, a gan hynny bydd y bleidlais ar gyfer Senedd yr Alban, Cynulliad Cymru a rhai cynghorau yn Lloegr yn cael eu gohirio i'r Sadwrn!

Rwy'n gobeithio nad yw hyn yn wir. Llai na flwyddyn yn ôl, y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr oedd mwyaf uchel eu cloch yn erbyn y syniad o ohirio cyfrif pleidlais San Steffan y bore wedyn fel Sarhad ar Ddemocratiaeth!

Rwy'n cydnabod mae mwynhad y sioe sydd yn gwneud i fi ffafrio’r syniad o gyfrif dros nos. Does dim byd sy'n gynhenid ddrwg mewn cyfri'r bore nesaf, ond mae cyfrif deuddydd ar ôl y bleidlais yn perthyn i'r cyfundrefnau mwyaf llwgr ffug democrataidd yn y byd.

Nid ydwyf am awgrymu, pe bai cyfrif y Cynulliad yn cael ei ohirio tan y Sadwrn, y byddai'n arwain at ffug na thwyll - rwy'n ddigon ffyddiog yn y drefn i gredu na fyddai! Ond mae'n rhaid i wlad wir ddemocrataidd profi ei ddemocratiaeth trwy beidio a gochel y cyfle am dwyll. Gohirio cyfrif yw brif arf ffugio democratiaeth yn rhai o wledydd mwyaf orthrymol y byd!

Dydy pleidleisio Dydd Iau a chyfrif dydd Sadwrn dim yn creu argraff o ddemocratiaeth ddidwyll – mae'n rhad gochel rhagddi!

No comments:

Post a Comment