14/02/2011

Ie Dros Rygbi

Er gwaethaf ymdrechion gorau Ie Dros Gymru ac Untrue Lies nid yw'n ymddangos bod llawer o frwdfrydedd wedi ei chodi dros drafod y manteision a'r anfanteision o symud i ran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006).

Ond mae yna un cwestiwn gellir ei gwarantu i godi pwysau gwaed pobl Cymru a'u rhannu i ddwy garfan brwd ac angerddol eu barn pob amser; sef: Beth yw Gêm Genedlaethol Cymru - Rygbi neu Pêl-droed?

Trwy gael ei arwain gan Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru a thrwy ei defnydd gormodol o ddelweddau rygbi, ydy Ie Dros Gymru mewn perygl o sgorio yn eu rhwyd eu hunain trwy ddieithrio'r rhai a fyddai'n pleidleisio pêl-droed mewn pleidlais ar y cwestiwn wir dyngedfennol?



4 comments:

  1. Heb fynd i'r ddadl pêl-droed yn erbyn rygbi, mi dybiwn i fod lot o hogia'r tîm rygbi yn fwy cefnogol o ddatganoli na hogia'r tîm pêl-droed, gwaetha'r modd, a dyma sail y fideo!

    ReplyDelete
  2. Mae'n anodd gen i gredu nad oes yna un neu ddau o gefnogwyr i'r ymgyrch Ie ymysg sêr y gêm pêl-droed cyfredol neu'r gorffennol; y rheswm am yr or bwyslais ar sêr rygbi yw mai dyma'r bobl mae Roger Lewis a'i griw yn eu hadnabod. Y rheswm pam bod y chwaraewyr rygbi yn ymddangos yn fwy cefnogol na'r chwaraewyr pêl droed yw bod neb wedi gofyn barn y peldroedwyr. Ond beth bynnag yw'r rheswm mae'n bwysig bod yr ymgyrch yn ceisio creu rhywfaint o gydbwysedd hyd yn oed os oes angen crafu gwaelod y gasgen i gael ymateb o ochr y bel crwn.

    Ar wahân i'r broblem rhwng y wahanol garfanau chwaraeon mae'r ymgyrch rygbi yn cadarnhau'r ddelwedd negyddol mae rhywbeth i'r Sowth yw datganoli sydd yn anwybyddu anghenion pobl y Gogledd.

    ReplyDelete
  3. Carwyn2:21 am

    Dwi cofio Gary Speed hollol yn erbyn 1997! Dim pwint gofyn i hwna heblaw ei fod wedi newid ei meddwl ers iddo cael yr job rheolwr Cymru. Dwi cytuno efo Hogyn o Rachub. Heblaw John Hartson a Dai Davies pwy arall "high profile" fydda cefnogi y referendwm yma!!!

    ReplyDelete
  4. Anonymous8:39 am

    Aron Ramsay? Joe Allen?

    ReplyDelete