27/02/2011

Cwestiwn dyrys am ferched posh

Wrth chwilota trwy Wicipedia (Cymraeg) cefais hyd i erthygl ar Gapel Celyn. Yn yr erthygl gwelais fod cyfrannydd o'r enw Pwyll, wrth son am yr ymgyrch i gadw'r cwm rhag y dŵr wedi cyfeirio at ferch DLlG fel yr Arglwyddes Megan Lloyd George, mae hyn yn anghywir, rhaid oedd ei gywiro Y Fonesig Megan Lloyd George sy'n gywir!

Ond wrth ei gywiro, roedd gwneud y fath gywiriad yn fy nharo fi fel peth od ar y diawl i'w wneud!

Ar y cyfan dydy'r Cymry ddim yn rhoi fawr o bwys ar radd gymdeithasol!

Yn ôl stori apocraffal yr wyf wedi ei glywed (rhywbeth wnaeth Wil, frawd y cyn Brif Weinidog, dweud wrth fy nhaid, yn ôl y son), fel Lloyd yr oedd DLlG yn cael ei adnabod yn blentyn, yn hytrach na David. Roedd gweision sifil Llundain yn ffieiddio at y ffaith bod pobl Cymru mor hy ag i gyfarch y gweinidog fel Mr Lloyd (enw cyntaf) a George (cyfenw) yn yr un modd a byddent yn cyfarch Robart Jones fel Mr Robart Jones; fel eu bod wedi troi Lloyd-George yn enw dwbl! Gwir neu beidio mae bodolaeth y stori yn dangos cred cyffredinol am agwedd y Cymry tuag at statws.

A dyma'r dryswch, o dderbyn pa mor ddi-hid ydym tuag at statws, pam fod y Gymraeg yn gwahaniaethu wrth gyfieithu'r gair Lady i wanhaol raddau?

Lady - Aelod benywaidd o Dy'r Arglwyddi, neu wraig i aelod o Dy'r Arglwyddi yw'r Arglwyddes.

Lady - Teitl cwrtais i ferch Ardalydd neu Iarll yw Y Fonesig.

Lady, gwraig i Farchog "Syr" – Y Ledi.

Pam bod rhaid i ni fod mor barticiwlar, pan nad oes ots gan y Saeson, sydd yn cyfrif statws yn beth llawer pwysicach, gwahaniaethu o gwbl rhwng y wahanol raddau o Ladys?

19/02/2011

Pa bryd caf wybod pwy yw fy AC newydd?

Yn ôl y son ymysg sylwadau ar flog Gohebydd Gwleidyddol BBC'r Alban bydd y cyd daro rhwng pleidlais refferendwm y Bleidlais Amgen a Phleidlais i Senedd yr Alban yn golygu gohirio cyhoeddi pwy sydd wedi eu hethol i Pàrlamaid na h-Alba hyd y Sadwrn wedi'r pôl.

Mae'n debyg bod pleidlais y refferendwm am gael ei gyfrif yn ystod y dydd ar Ddydd Gwener Mai'r 6ed.

Gan fod cwestiwn y refferendwm yn un Prydeinig mae'n goruchafu unrhyw bleidlais ranbarthol yng Nghymru a'r Alban neu bleidlais gymunedol yn Lloegr, a bydd dim hawl cyfri'r pleidleisiau rhanbarthol / lleol cyn cyfri'r bleidlais refferendwm ar ddydd Gwener, a gan hynny bydd y bleidlais ar gyfer Senedd yr Alban, Cynulliad Cymru a rhai cynghorau yn Lloegr yn cael eu gohirio i'r Sadwrn!

Rwy'n gobeithio nad yw hyn yn wir. Llai na flwyddyn yn ôl, y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr oedd mwyaf uchel eu cloch yn erbyn y syniad o ohirio cyfrif pleidlais San Steffan y bore wedyn fel Sarhad ar Ddemocratiaeth!

Rwy'n cydnabod mae mwynhad y sioe sydd yn gwneud i fi ffafrio’r syniad o gyfrif dros nos. Does dim byd sy'n gynhenid ddrwg mewn cyfri'r bore nesaf, ond mae cyfrif deuddydd ar ôl y bleidlais yn perthyn i'r cyfundrefnau mwyaf llwgr ffug democrataidd yn y byd.

Nid ydwyf am awgrymu, pe bai cyfrif y Cynulliad yn cael ei ohirio tan y Sadwrn, y byddai'n arwain at ffug na thwyll - rwy'n ddigon ffyddiog yn y drefn i gredu na fyddai! Ond mae'n rhaid i wlad wir ddemocrataidd profi ei ddemocratiaeth trwy beidio a gochel y cyfle am dwyll. Gohirio cyfrif yw brif arf ffugio democratiaeth yn rhai o wledydd mwyaf orthrymol y byd!

Dydy pleidleisio Dydd Iau a chyfrif dydd Sadwrn dim yn creu argraff o ddemocratiaeth ddidwyll – mae'n rhad gochel rhagddi!

14/02/2011

Ie Dros Rygbi

Er gwaethaf ymdrechion gorau Ie Dros Gymru ac Untrue Lies nid yw'n ymddangos bod llawer o frwdfrydedd wedi ei chodi dros drafod y manteision a'r anfanteision o symud i ran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006).

Ond mae yna un cwestiwn gellir ei gwarantu i godi pwysau gwaed pobl Cymru a'u rhannu i ddwy garfan brwd ac angerddol eu barn pob amser; sef: Beth yw Gêm Genedlaethol Cymru - Rygbi neu Pêl-droed?

Trwy gael ei arwain gan Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru a thrwy ei defnydd gormodol o ddelweddau rygbi, ydy Ie Dros Gymru mewn perygl o sgorio yn eu rhwyd eu hunain trwy ddieithrio'r rhai a fyddai'n pleidleisio pêl-droed mewn pleidlais ar y cwestiwn wir dyngedfennol?



02/02/2011

Pleidlais Dan Glo

Yn ôl y BBC bydd Carcharorion yng Nghymru yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn bersonol rwy'n cytuno a'r egwyddor o garcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, oni bai eu bod wedi eu carcharu am wyrdroi etholiadau.

Ond mae'r datganiad bod carcharorion YNG Nghymru yn cael pleidleisio yn peri dryswch imi.

A fydd carcharorion Cymreig o ogledd a chanolbarth Cymru sydd yn y carchar ym Manceinion, yr Amwythig, Lerpwl ac ati yn cael pleidleisio? A fydd carcharorion o Loegr sydd heb unrhyw gysylltiad â Chymru mond bod y gyfundrefn wedi eu danfon i Abertawe, Caerdydd neu Ben-y-Bont yn cael pleidleisio?

Gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru a oes achos Swffragét newydd yn codi yng Nghymru? Dynion o garcharorion yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ond merched o garcharorion yn cael eu hamddifadu o'r bleidlais?

Does geni ddim syniad sut mae trefn rhoi pleidlais i garcharor am weithio, ac er Gwglo nid ydwyf dim callach. Os yw carcharorion unigol am gael pleidlais post yn seiliedig ar eu cyfeiriad cartref cyn eu dedfryd, iawn! Ond mae'r syniad bod carchar cyfan yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn un etholaeth braidd yn wrthyn; a'r syniad bod carcharorion o'r Gogledd yn cael eu hamddifadu o bleidlais oherwydd ein bod yn cael ein hamddifadu o garchar yn y Gogledd yn fwy gwrthun byth