20/01/2011

Y Gefnogaeth

Yn ogystal a'r rhai oedd am gofrestru i arwain yr ymgyrchoedd Ie a Na, roedd rhaid i'r sawl sy'n dymuno cyfranu dros £10K i'r ymgyrchoedd cofrestru erbyn ddoe hefyd. Dyma'r rai sydd wedi cofrestru:

I gefnogi Na Beech Mark William, aelod o'r Monster Raving Loony party o Bontypridd

I gefnogi Ie; Cymru Yfory, Ie dros Gymru Cyfyngedig, Plaid Cymru a UNISON.

Diweddariad
Rwyf newydd glywed Vaughan Roderick yn dweud nad oes dyddiad cau ar gyfer cofrestru fel cyfrannwr arian mawr i'r ymgyrchoedd. Felly os oes yna ddarllenydd sydd a £10K neu ragor i gyfrannu i fy ymgyrch!

2 comments:

  1. O ystyried bod etholiad ar y gorwel, chwara teg i Blaid Cymru am gyfrannu'r fath swm at yr achos. Piti na fyddai'r pleidiau eraill wedi bod mor ymrwymedig ond doedda ni fyth am ddisgwyl hynny!

    ReplyDelete
  2. Click on Wales yn dy alw yn "the eccentric David Alwyn ap Huw Humphreys"

    http://www.clickonwales.org/2011/01/true-wales-opts-out-of-taking-a-lead-role/

    Digwilydd!

    ReplyDelete