03/01/2011

Problemau'r IE!

Yn ôl Blog Menai:

Mae lliw gwleidyddol y llywodraeth yng Nghaerdydd mwy at ddant y rhan fwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd nag ydi lliw gwleidyddol y llywodraeth yn San Steffan.

Onid dyma berygl mwyaf yr ymgyrch IE! hefyd?

Yr ydym eisoes wedi gweld dipyn o halibalŵ rhwng Peter Black a Leighton Andrews yn codi o'r ffaith bod rhesymau gwahanol gan aelodau o bleidiau gwahanol am ddweud IE!

Mae'r ymgyrch NA! yn weddol unedig – mae 99% o'u cefnogwyr yn gynhenid wrth Gymreig.

Problem yr ymgyrch IE! yw bod ynddi genedlaetholwyr sy'n gweld datganoli fel cam ar y ffordd i annibyniaeth ac unoliaethwyr sy'n gweld datganoli fel modd i atal cenedlaetholdeb. Mae'r ymgyrch IE! yn cynnwys, sosialwyr sydd am greu amddiffyniad rhag Torïaid Sansteffan a Cheidwadwyr sydd yn gweld datganoli fel cam ar y ffordd i leoliaeth a chyfrifoldeb personol.

Y perygl i'r ymgyrch IE! yw bydd ofn pechu cynghreiriaid yn yr ymgyrch yn arwain at ymgyrch wan; ac yn arwain i ddim un o'r dadleuon IE! yn cael eu gwyntyllu yn glir ac yn effeithiol, a gan hynny'n colli'r bleidlais.

Mi fyddwyf i'n pleidleisio IE! oherwydd fy mod yn credu mewn Annibyniaeth i Gymru. Rwy'n credu bod y lol datganoli 'ma wedi bod yn rhwystr i'r ymgyrch dros annibyniaeth, yr wyf am gael y lol ddiweddaraf drosodd, yn y gobaith bydd cenedlaetholwyr yn rhoi eu trwynau at y maen er mwyn ymgyrchu dros Gymru Rhydd, be bynnag bo ganlyniad y bleidlais.

Canlyniad IE! bydd orau, ond os mae NA! yw'r canlyniad mae'r frwydr yn parhau!

Y peth pwysicaf i mi yw mai Annibyniaeth i Gymru yw'r cam nesaf i genedlaetholwyr - nid datganoli lefel 3!

Yn anffodus bydd dweud fy marn yn glir ac yn groyw yn cael ei weld fel torri consensws resymau wishiwasi yr ymgyrch IE! dros bleidlais IE!

Y gwir plaen yw bod Leighton, Peter, Cai, Nick Bourne a fi am bleidleisio IE! am resymau cwbl, cwbl wahanol. Bydd creu ymgyrch sydd yn ein huno yn anoddach ar y diawl na chreu ymgyrch unedig i'r ddadl NA! Ac o hynny o beth bydd yn haws i'r ochr Na! ennill y dydd!

3 comments:

  1. Y broblem sylfaenol ydi y byddai ymgyrch ar ran Llafur o wneud y Cynulliad yn wrthbwynt i San Steffan, ac felly yn ffordd o roi cic o dan benolau y Toriaid a'r Lib Dems yn troi cefnogwyr potensial o'r ddwy blaid honno yn erbyn y sefydliad.

    Tra nad oes yna ddigon o gefnogwyr y cyfryw bleidiau i atal pleidlais Ia, mae'n gwneud y broses o adeiladu consensws cefnogol o gwmpas y Cynulliad yn anos, a gallai hyn yn ei dro ei gwneud yn anos i ddatblygu pwerau'r cynulliad yn y dyfodol.

    ReplyDelete
  2. Aled G J1:29 pm

    Dwi'n cytuno a ti bod perig mawr gweld ymgyrch IE di-ddrwg di-dda yn datblygu fydd ddim yn tanio cefnogwyr yr achos cenedlaethol, heb son am yr etholwyr yn gyffredinol. Er enghraifft, y pwyslais ar "gyflymu'r" broses o lywodraethu- sy'n rhoi'r argraff mai hwyluso pethau i'r dosbarth gwleidyddol ym Mae Caerdydd yw hyd a lled yr ymgyrch i bob pwrpas!! Pam aflwydd ddylai pobl droi allan i bleidleisio er mwyn "cyflymu'r" broses o lywodraethu?? Mae gwir angen tri neu bedwar o syniadau pendant y gellid eu cyflawni hefo'r pwerau newydd er mwyn tanio dychymyg pawb ohonom . Fel cenedlaetholwr, dwi'n disgwyl i Blaid Cymru wneud mwy i'r cyfeiriad hwn.

    ReplyDelete
  3. Anonymous12:21 pm

    Bagiau plastig, coleri cwn.....:-))

    ReplyDelete