09/01/2011

Mwy am Addysg Gymraeg Gwynedd

Yn dilyn fy mhost diwethaf mae Blog Menai wedi ymateb i fy sylwadau parthed Addysg Gymraeg yng Ngwynedd. Yn anffodus mae ei ymateb yn ymylu ar fod yn annarllenadwy oherwydd ei fod yn llawn o dablau o ystadegau.

Yn ôl y son y tri thwyll a ddefnyddir mwyaf yn y byd gwleidyddol yw celwydd, celwydd mawr ac ystadegau! A thwyll yw ystadegau Blog Menai.

Dadl ystadegol Cai yw bod 26% o blant Gwynedd sydd yn dod o gefndiroedd di-Gymraeg wedi dysgu'r Gymraeg o dan gyfundrefn Gwynedd; ffigwr sy'n well o lawer na'r 6%, dweder, o blant o gefnderoedd di-Gymraeg yng Nghaerdydd sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg. Gwendid y ddadl yw nad ydyw'n cymharu tebyg at debyg.

Yn ôl polisi Gwynedd mae pob ysgol yn y sir yn Ysgol Gymraeg, a gan hynny does dim angen ysgolion Cymraeg penodedig yn y sir. I gymharu llwyddiant agwedd Gwynedd tuag at addysg Gymraeg dylid cymharu canlyniadau Ysgolion "Cymraeg" honedig, Dolgellau neu Dywyn neu Gaernarfon a chanlyniadau Ysgolion Cymraeg yn Llanelwy neu Bontypridd neu Fro Gwaun.

Yn ôl Wikipedia mae 95% o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd sy'n dod o gefndiroedd di-Gymraeg yn dyfod yn rhugl yn y Gymraeg - yn ôl ffigyrau Cai dim ond 26% pitw o'r sawl sy'n mynd i ysgolion "Cymraeg" Gwynedd sydd yn dod yn rhugl - prawf bod polisi Gwynedd yn methu!

Fe mynchodd fy meibion Ysgol Cymraeg Naturiol yr hen Sir Gwynedd yng Ngorllewin Sir Conwy. Nhw oedd yr unig ddau o aelwyd Cymraeg yn yr ysgol. Fe aethant i'r ysgol gynradd yn uniaith Gymraeg a dod allan ohoni, i bob pwrpas, yn uniaith Saesneg.

Gan fod yr ysgol gynradd yn un ffug Gymraeg doedd y dewis i'w danfon i Ysgol Gymraeg go iawn neu ysgol a ffrwd Gymraeg dim ar gael imi - Yr Ysgol Saesneg ymarferol ond Cymraeg ar gyfer ystadegau oedd yr unig ddewis!

Mae'r plant bellach yn mynychu Ysgol y Creuddyn, Ysgol Cymraeg Penodedig yn yr hen Glwyd. Arwahân i wersi Saesneg, y mae pob pwnc yn cael ei ddysgu iddynt trwy'r Gymraeg. Pe byddent wedi mynychu Ysgol Tywyn, Ysgol Ardudwy neu Ysgol y Gader bydda dim modd iddynt ddilyn pob cwrs trwy'r Gymraeg, dydy pob cwrs ddim ar gael trwy'r Gymraeg yn ysgolion De Gwynedd!

Oherwydd polisi iaith Gwynedd mae modd mynd trwy yrfa ysgol yng Ngwynedd heb ddysgu dim trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahân i wersi Cymraeg, mae cogio bod ysgolion sy'n caniatáu hynny yn naturiol Gymraeg yn anfadwaith.

Pa les i'r iaith yw ffug a chelwydd?

Onid gwell byddid i Wynedd (a siroedd eraill) nodi yn glir ac yn groyw lle mae addysg Cymraeg ar gael i rieni plant sydd am i'w plantos derbyn addysg Gymraeg, yn hytrach na'n hamddifadu o addysg Gymraeg i'n plant trwy dwyll ystadegau?

7 comments:

  1. Does yna ddim dwy waith nad yw plant mewn ysgol beneodedig Gymraeg yn fwy rhugl na phlant di Gymraeg mewn ysgolion Gwynedd. Y broblem ydy cael y plant mewn ysgolion penodedig Gymreig i ddal ymlaen i ddefnyddio'r iaith wedyn.

    ReplyDelete
  2. Alwyn - does dim rhaid i ti ddarllen pob un o'r ystadegau os ydi hynny'n amharu ar dy allu di i ddeall gweddill y testun.

    Y pwynt pwysig ydi fy mod yn cymharu tebyg at ei debyg - 'dwi'n edrych ar yr allbwn yn ei gyfanrwydd - hy faint o blant rhugl mae'r gyfundrefn yn ei gynhyrchu. Ti'n edrych grwp penodol o blant (rhai sydd eisiau mynd i ysgolion Cymraeg).

    Yn y pendraw os nad wyt ti'n cynhyrchu siaradwyr Cymraeg y tu allan i'r sector addysg cyfrwng Cymraeg, does yna ddim digon o bobl yn siarad Cymraeg i dy siaradwyr Cymraeg siarad efo nhw pan nad ydynt yn yr ysgol.

    ReplyDelete
  3. Ella bod 'na reswm pam bod Ynys Mon yn engraifft lwyddianus. Os ti'n edrych ar ddwy ysgol Gymraeg - Porthaethwy a Llanfair Pwll, mae 93% o blant Ysgol Porthaethwy yn dod o gartrefi di-Gymraeg (er bod y ganran o siaradwyr Cymraeg yn llawer uwch). Y rheswm, ydi bod rhieni sydd am addysg Gymraeg (naturiol) yn gyru' plant i Lanfair Pwll. Fellu mewn gwirionedd y dewis ydi:
    * addysg Gymraeg iaith gynta (Llanfair Pwll) neu
    * addysg Gymraeg ail iaith (Porthaethwy).
    Dwi'n gwybod bod yr un peth yn digwydd mewn un ardal yng Ngonwy.

    ReplyDelete
  4. Rhyfedd beth wedodd Iona, Fan hyn yng Nghwmaman yn Nyffryn Aman (Sir Gâr) Hwntws diwaledig ydyn.

    Yn fy mhentre i, Glanaman roedd yr ysgol yn gategori A naturiol Gymraeg (ac mi roedd hi yn i bob pwrpas ond saesneg a gwyddoniaeth yn Saesneg ar y pryd).

    Roedd Ysgol y Garnant 2 milltir i ffwrdd yn ysgol naturiol Gymraeg hefyd (ond mewn enw). Plant o gefndiroedd di-gymraeg ar y mwya. E.e Amser oeddwn i yn y dosbarth daeth 58% o gartrefi uniaith Gymraeg, 20% o rhai cymysg â'r gweddill o gartrefi di-gymraeg, yr ateb pawb yn rhugl.

    Garnant ond 30% o gefndir Cymraeg ac felly nid oedd pawb yn rhugl. Ond rhaid peidio cymysgu cefndir iaith a rhuglder. Hefyd, ma angen mwy o asgwrn cefn ar ysgolion i weithredu eu polisiau, yn amlach neu beidio mae gan unigolion gormod o rym (Athrawon, Llywodraethwyr, Rhienni ayyb). Os ydyw'r ysgol wedi cael ei ddynodi'n un Gymraeg dylai'r ffigyrau cyfateb â hynny, os nad ydynt rhaid gosod seilwaith cadarn ar yr ysgol i sicrhau bod pob dim yn cael ei wneud yn Gymraeg, ac os yn methus, newid staff, newid agwedd syml.

    ReplyDelete
  5. Yw pob ysgol yng Ngwynedd yn rai Cymraeg? Beth am Friars ym Mangor? Wedi meddwl erioed ma Ysgol saesneg ei iaith oedd honno?

    A hyd yn oed pan mae ysgol yn "Gymraeg" a phob plentyn yn deasll yr iaith dyw hynny ddim yn arwydd o ddefnydd o'r Gymraeg yn ei dyfodol.
    Cymer esiampl ddwy ysgol uwchradd yng Ngwynedd - Syr Hugh Owen, Caernarfon a Tryfan, Bangor.

    Mae Ysgol SYr Hugh Owen yn un ddwy-ieithog. Hynny yw mae rhai pwnciau yn Saesneg er fod y mwyafrif yng Nghymraeg.

    Mae Ysgol Tryfan yn uniaith Gymraeg - pob gwers heblaw rhai Saesneg yn y Gymraeg.

    Ond er hynny sefyll di yn iard y ddwy ysgol, neu yn mhw bynnag gornel stryd mae'r plant yn ymgynull ar ol ysgol a plant yr ysgol "ddwyieithog" fydd y rhai yn siarad Cymraeg tra i fwyafrif yn Ysgol Tryfan dim ond iaith yr ysgol yw Cymraeg.

    Mae'r un peth yn wir yn nifer o ysgolion y de. Saesneg mae disgyblion y Gwyr yn ei siarad gyda ei gilydd, a mae'r un peth yn wir am ddisgyblion nifer o'r ysgolion cynradd y funud mae nhw y tu allan i giatiau'r ysgol.

    ReplyDelete
  6. Anonymous10:51 pm

    "Yn ôl Wikipedia mae 95% o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd..."

    Ia, ond gofynwch i unrhywun aeth i Ysgol Glan Clwyd am y gwir, neu gofynwch i wr Leah Owen.

    ReplyDelete
  7. Os cofiaf yn iawn Eifion Lloyd Jones yw priod Leah. Rwy'n ansicr be ddylwn ei ofyn ta waeth!

    ReplyDelete