27/01/2011

Dim Sesh £70K!

Yn anffodus mae'r Comisiwn etholiadau wedi gwrthod fy nghais i fod yn arweinydd swyddogol yr Ymgyrch Na yn y refferendwm ar hawliau deddfwriaethol y Cynulliad.

Pe bawn wedi ennill fy mwriad oedd llyncu'r £70K o nawdd gwladol (yn gwbl gyfreithlon) mewn cyfarfodydd meddwol i drefnu'r ymgyrch. Ond oherwydd penderfyniad gwbl afresymol ac ysgeler y Comisiwn bydd dim modd imi drefnu'r fath seshus mwyach. Damnia!

Esgus gwael y Comisiwn dros ymwrthod a fy nghais oedd nad oedd fy nghais yn ddigonol gynrychioli ymgyrchwyr Na. Rwy'n anghytuno'n llwyr!

Rwyf yn hollol ffyddiog y bydd y mwyafrif o'r rhai sydd yn pleidleisio Na a'r mwyafrif o'r sawl sydd yn ymatal eu pleidlais yn gwneud hynny oherwydd iddynt gael eu hysbrydoli gan fy ymgyrch Na! Dim Ddigon da! Wedi'r cwbl, er gwaethaf cael ei wrthod, dyma'r unig ymgyrch digon hyderus ei neges i wneud cais am gydnabyddiaeth swyddogol. A phan fydd y gwrth Gymreig yn cwyno hyd at syrffed am y ddegawd nesaf am faint y mwyafrif a'r niferoedd a bwriodd pleidlais, mi fyddwyf yn manteisio ar bob cyfle i'w hatgoffa o'r ffaith ddiymwad mae Na! Dim digon da oedd yr unig ymgyrch i godi ei ben uwch y pared!

Roeddwn wedi meddwl poeri fy nymi allan o'r pram fel protest at benderfyniad annheg y Comisiwn a chroesi’r llawr at yr ymgyrch Ie. Ond wedi darllen ymateb yr ymgyrch Ie i'r penderfyniad yr wyf yn ystyried newid fy meddwl.

Mae'r ymgyrch Ie am barhau fel ymgyrch swyddogol, sef yr unig ymgyrch sydd yn cyd-gynrychioli’r holl gyrff ac unigolion sydd yn dymuno gweld ymateb cadarnhaol yn y Refferendwm. Penderfyniad call, dilys a digon teg. Ond y rheswm am ail-feddwl a pharhau a'm hymgyrch Na yw awgrym Ie Dros Gymru Cyf ar sut i drin y gwahanol leisiau Na:
Bydd ymgyrchwyr ‘Ie’ yn parhau i weithio gyda’i gilydd trwy Ie dros Gymru i gyflwyno neges gyson ac i weithio gyda’r cyfryngau, ond does dim arweiniad cydnabyddedig gan yr ymgyrch ‘Na’, felly ni ddylid trin yr un grŵp unigol gydag unrhyw fath o flaenoriaeth dros y pleidiau ymylol eraill sy’n ymgyrchu dros bleidlais Na. Mae gan bob grŵp yr hawl i gydraddoldeb, hyd yn oed os nad yw eu gwahanol safbwyntiau yn help i wneud pethau’n eglur.
Hynny yw, cafodd True Wales eu cyfle ar Dragon's Eye yr wythnos diwethaf, tro'r Lwnis yw heno a fy nhro i fydd wythnos i heno!

Syniad gwych, hollol resymol a hollol deg!

Rwy'n amcangyfrif dau ymddangosiad ar Dragon's Eye, Waterfront a Politics Show Wales, o leiaf un ar Question Time, un arall ar Sunday Supplement a chael bod yn un o Bobl Beti (rhaid gwneud gwleidydda'n ysgafn weithiau).

Gan nad oes Cymro Cymraeg rhugl ar gael gan y Lwnis na True Wales rwy'n bagio pob un rhifyn o Hawl i Holi, Dau o'r Bae a Phawb a'i Farn o hyn hyd ddyddiad y refferendwm a thua dwsin o gyfweliadau ar Daro'r Post.

Bydd yr ymddangosiadau yma ddim yn gwneud iawn am y siom o golli'r £70K a'r sesh fawr, ond bydd y ffioedd ymddangos yn caniatáu imi gael meddwad bach personol ar y nosweithiau pan na fyddwyf yn rhy brysur yn gwneud cyfweliadau.

2 comments:

  1. Anonymous10:28 am

    O ddifri, pob cefnogaeth a hwyl i ti yn dy ymgyrch Na! Ffaith dy-ymwad fydd hi am byth o hyn ymlaen, mae'r unig ymgyrch Na! a wnaeth cais yn 2011 oedd un yn galw am annibyniaeth lawn - caiff haneswyr y dyfodol edrych ar hynny a synnu ar y newid ysbryd fu yn y genedl oddi ar 1997!

    ReplyDelete
  2. Os ydyw o unrhyw gysur mi bryna i beint i ti os ydi'n llwybrau byth yn croesi yn y cigfyd - un cofia, ddim gwerth £70,000 o beintiau.

    ReplyDelete