12/01/2011

Cwestiwn dyrys parthed ymgyrch NA

Pe bai dau ymgyrch Na yn codi; y naill am ddweud Na o wrthwynebu hunanlywodraeth i Gymru a’r llall am ddweud Na gan nad yw datganoli yn ddigon da - bod angen annibyniaeth i Gymru - sut mae'r Comisiwn Etholiadol am ddyfarnu pa achos yw'r achos Na go iawn?

A oes gwerth cynnig y Na Cenedlaethol fel yr achos Na swyddogol – er mwyn yr her?

2 comments:

  1. Y cwestiwn ydi hwn:

    A ydych yn dymuno i'r cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?

    Dy ddewis ydi dweud Ia neu Na.

    Sut mae dweud Na i'r hawl i ddeddfu yn gyson efo bod o blid annibyniaeth?

    ReplyDelete
  2. Wrth gwrs fy mod am bleidleisio o blaid rhoi hawliau deddfu i'r Cynulliad, tafod mewn boch oedd yr ymgyrch parthed arwain yr ymgyrch Na, er mwyn tynnu sylw at hurtrwydd deddf etholiadau 2000 sydd yn dweud os nad oes ymgyrch swyddogol i naill ochr mewn refferendwm does dim hawl i ymgyrch swyddogol bodoli ar gyfer yr ochr arall chwaith.

    Mae'r cwestiwn yn y post yma yn un gwbl ddilys; cytuno neu anghytuno mae modd creu dadl yn erbyn datganoli am resymau sy'n gwbl groes i rai True Wales, pe bai dau ymgyrch Na (neu Ie os ddaw i hynny) sydd â negeseuon sy'n groes i'w gilydd yn codi be fyddai'r canlyniad? Mi dybiwn y byddai'n rhaid i'r Comisiwn etholiadol pennu pa ddadl sy'n cael dyfod yn swyddogol - cyfrifoldeb gwleidyddol iawn i gorff sydd i fod yn 100% diduedd!

    ReplyDelete