26/11/2010

Pwy Faga Blant?

Difyr yw gweld bod cefnogwyr pob plaid, gan gynnwys ei blaid ei hun, wedi condemnio'r cyn AS a'r darpar Arglwydd Geidwadol Howard Flight am wneud y sylw bod torri Budd-dal plant i'r cyfoethocaf yn mynd i greu system lle mae'r dosbarth canol yn cael eu hannog i beidio bridio oherwydd ei fod yn rhy ddrud, ond bydd cymhelliad ar gyfer y rhai ar fudd-daliadau i barhau i blanta.

Pwrpas gwreiddiol Budd-dal Plant oedd gwneud yr hyn y mae Mr Flight yn ei grybwyll - i annog pobl i gael rhagor o blant. Fe'i cyflwynwyd yn wreiddiol ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod yna pryderon y byddai merched a oedd wedi cael blas ar waith yn parhau yn y gweithle yn hytrach na dychwelyd i'w rhôl draddodiadol o aros adref i fagu plant. Byddai hynny yn ei thro yn creu problemau diweithdra i filwyr a oedd yn dychwelyd o faes y gad ac yn achosi problemau demograffig gan na fyddai'r gwragedd yn peryglu eu swyddi trwy syrthio'n feichiog. Ar ben hynny roedd angen i ferched cael mwy o blant er mwyn llenwi'r bwlch a chreasid gan golli dwy genhedlaeth yn y ddwy gyflafan.

O gondemnio sylwadau Howard Flight yr hyn mae'r holl sylwebyddion yn gwneud yw cydnabod nad yw'r budd-dal bellach yn cyflawni ei wir bwrpas. Os yw sylwadau Mr Flight yn orffwyll, yn gas ac yn ansensitif, mae'n rhaid bod talu'r budd-dal i famau hefyd yn orffwyll, yn gas ac yn ansensitif.

Os nad yw'r tâl yn gwneud ei briod waith bellach ac os yw crybwyll ei briod waith yn wirion, rhaid gofyn pam ei bod yn dal i gael ei dalu i unrhyw un, boed cyfoethog neu dlawd? Onid yw hi'n hen bryd i gael gwared â'r budd-dal fel un sydd heb bwrpas yn y byd modern?

ON
Cyn i neb ddweud fy mod i mor anystyriol o anghenion y tlawd ac ydy'r bonheddwr Ceidwadol dylid nodi nad yw'r tlawd yn cael unrhyw fendith o'r budd-dal. Mae Budd-dal Plant yn cael ei hystyried fel incwm ar gyfer pethau megis Credyd Treth a Chymorth Incwm, gan hynny mae ei werth yn cael ei ddiddymu o'r taliadau hynny.

Y Blaid yn Archif yr Alban

Mae'r Archif Wleidyddol Gymreig wedi ei hen sefydlu ac yn cynnwys miloedd o ddogfennau, taflenni, posteri a lluniau yn ymwneud ag etholiadau ac ymgyrchoedd gwleidyddol eraill yng Nghymru.

Yn niweddar mae Prifysgol Sterling wedi cychwyn ymgais i greu archif tebyg ar gyfer yr Alban. Mae rhan o'r casgliad yn cynnwys lluniau o aelodau Plaid Cymru yn cyd-ymgyrchu a'u cyfeillion yn yr SNP ac mae rhai ohonynt i'w gweld ar Flickr.

Gwynfor Evans

Mae'n siŵr bod yna enghreifftiau ar gael o wleidyddion o'r Alban o bob plaid yn ymgyrchu yng Nghymru hefyd; os oes genych ddeunydd byddech yn fodlon rhannu ag Archif Wleidyddol yr Alban gellir cysylltu â nhw trwy e-bost ar scottishpoliticalarchive"at"stir.ac.uk neu drwy eu tudalen weplyfr

Elin ym, ym, yr Jones

Mae Elin Jones yn un o wleidyddion gorau'r Bae mae hi hefyd yn weinidog hynod abl. Ar y cyfan mae ei chyfraniadau yn glod i'r wlad, i'w hetholaeth, i'w briff gweinidogol ac i'w phlaid, ond roedd ei chyfraniad i'r Is Bwyllgor Datblygu Economi Cefn Gwlad heddiw yn arteithiol i'w gwylio.


Mae'r pwyllgor yn para am awr, pe bai modd tynnu pob ym ac yrr a y-y allan o'r drafodaeth byddai ar ben mewn hanner yr amser!

Sori Elin, ond berfformiad gwael ar y naw gan un y mae dyn y disgwyl gwell ganddi.

23/11/2010

Blacleg Pêl droed

Mae'n debyg bod dyfarnwyr pêl droed yr Alban am fynd ar streic bwrw'r Sul. Yn ôl adroddiadau yn wasg yr Alban mae Cymdeithas Pêl-droed yr Alban am dorri'r streic trwy gael dyfarnwyr o Gymru i fod yn scabs - mae'n amlwg nad yw'r SFA yn gyfarwydd â'r traddodiad Cymreig o ddilorni scabs, blaclegs a thorwyr streic fel bradwyr. Rwy'n mawr obeithio bod dyfarnwyr Cymru yn cofio eu hetifeddiaeth ac yn dweud wrth y Sgotiaid lle i stwffio eu pêl.

20/11/2010

Ble mae cefnogaeth ASau Cymru i Cyw?

Dydd Mawrth diwethaf fe gyflwynodd Hywel Williams, AS Arfon, y Cynnig Boreol canlynol yn Sansteffan:
EDM 1011
CYW WELSH LANGUAGE CHILDREN'S CHANNEL 16.11.2010
That this House congratulates Cyw, the Welsh language children's channel, which has been nominated for Children's Channel of the Year in the British Academy Children's Awards, and Y Diwrnod Mawr, the first documentary series to be based around young children, which has been nominated in the UK Pre-School Live category; recognises the high quality of children's programming broadcast by Sianel Pedwar Cymru and the importance of educational and entertaining children's television for children's development and for the Welsh language; notes the importance of children's programming for the independent production sector in Wales as a way of developing media skills and maintaining employment throughout the country; expresses deep concern about the likely effect of significant budget cuts to the quality and quantity of programming available for Welsh-speaking and Welsh-learning children which has proven itself to be of such a high standard; and calls on the UK Government to ensure full editorial and commissioning independence and financial backing for Sianel Pedwar Cymru set out in the 1990 Broadcasting Act so that Wales can continue to bea producer of quality children's television, made for a Welsh audience, rather than a purchaser of television series which do not reflect the realities of being a Welsh-speaking child growing up.
Hyd yn hyn dim ond 8 AS sydd wedi ei arwyddo, Hywel ei hun a Martin Caton (Gwyr), Jonathan Edwards (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Paul Flynn (Gorllewin Casnewydd), Andrew George (St Ives and the Isle of Scilly), Elfyn Llwyd (Dwyfor Meirionnydd), Jessica Morden (Gorllewin Casnewydd) a Stephen Williams (Bristol West).

Rwy'n gweld y lefel yma o gefnogaeth gan ASau Cymru yn siomedig o isel. Er bod ASau Rhyddfrydol o Loegr a Chernyw wedi dangos cefnogaeth ble mae'r ASau Rhyddfrydol Gymreig? A be am yr ASau Ceidwadol sydd wedi mynegi eu cefnogaeth i'r sianel - yn arbennig yr un sydd efo llond tŷ o blant sy'n gwylio Cyw yn rheolaidd? A dim ond 3 AS Llafur allan o 26 - cywilyddus!

17/11/2010

Ymgeisydd Plaid Cymru Aberconwy?

Yr wyf wedi clywed gan un neu ddau fod cynhadledd dewis ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Cynulliad Aberconwy wedi ei gynnal neithiwr. Er nad oes cyhoeddiad swyddogol wedi dod gan y Blaid eto rwy'n deall mae Iwan Huws o'r Felinheli sydd wedi ei ddewis. Mae Mr Huws yn un o aelodau Glas Cymru Cyfunedig ac yn ôl eu gwefan:

Bu Mr Huws yn Gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru (2003-2009) ac yn Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (1996-2003). Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cyngor Cynghori ITV Cymru. Mae hefyd yn Aelod o Fforwm yr Ucheldir, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis.

Y llall oedd yn sefyll oedd Paul Rowlinson o Fethesda, y gŵr a safodd fel ymgeisydd San Steffan yn hen etholaeth Conwy yn 2005 a Delyn yn 2001.

Synnu braidd bod y ddau obeithiol yn bobl o du allan i'r etholaeth yn arbennig ar ôl clywed enwau nifer o gynghorwyr sir leol yn cael eu crybwyll fel posibiliadau cryf.

Yn ail i Cai eto byth!

Rwy'n ddiolchgar i Gylchgrawn Golwg am ddyfarnu fy myfyrdodau fel ail flog Cymraeg gorau'r bydysawd.

Fel yr wyf wedi dweud bron pob tro yr wyf wedi derbyn "gwobr" am flogio, rwy'n casáu’r syniad bod mynegi barn yn beth gystadleuol i'w gwneud; mae yna wastad berygl bod dyn yn newid ei farn er mwyn cipio'r wobr - neu yn wir yn newid ei arfer. Rwy'n cynnal dau flog - yr un yma yn iaith y Nefoedd ac yr un acw yn y fain, bai (sef arfer i'w newid) yn ôl beirniaid Golwg:
"un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg"
Am sylw hurt! Mae fy myfyrdodau Cymraeg yn ffaelu oherwydd fy mod hefyd yn myfyrio yn fy iaith gyntaf! Gwir yr?

Pe na bawn yn blogio yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg a fyddwn wedi cael siawns o gipio'r brif wobr?

Oni bai am y llall, ai'r blog hon, yn hytrach na blog dwrdio plant ddrwg Cymru am boeri gwm ar fuarth y Blaid gan yr Hen Sgŵl byddai ar y brig?

I ddweud y gwir rwy'n poeni braidd bod Macsen yn hen snich sydd yn dymuno imi gael y gansen gan y prifathro o herwydd imi gael fy nal ar ddiwedd fy mhost diwethaf gyda'r English Not ar fy mrest.