16/12/2010

Pasbort Cymraeg i Wartheg Cymraeg!

Mi fûm yn gyd ddisgybl ysgol ag Alun Cae Coch (Alun Elidir rhaglen Ffermio S4C) roedd o ymysg fy nghyfeillion Cymraeg iaith gyntaf a rhoddodd cyfle imi ymarfer fy Nghymraeg trwsgl wrth imi geisio troi o fod yn Gymro di Gymraeg i fod yn Gymro Cymraeg hyderus. Ond mi gefais fy siomi yn arw gan Alun echdoe am ei ddiffyg ymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

Bu Ffermio yn dilyn hanes Alun yn gwerthu rhan o'i fuches ym Mart Dolgellau. Wedi'r gwerthu roedd rhaid iddo gofrestru'r gwerthiant ar wefan CTS online Saesneg yn ôl y rhaglen. O weld Alun yn cael ei orfodi i ddanfon y fath wybodaeth trwy'r Saesneg cododd fy ngwrychyn - cywilydd bod diwydiant mor Gymraeg a'r byd amaeth yn gorfodi Cymro mor Gymraeg ag Alun i ddefnyddio gwefan uniaith Saesneg -rhaid cwyno!

Yn rhyfedd iawn, o chwilio am y wefan CTS online cefais fy nanfon yn unionsyth i SOGar-Lein, sef fersiwn Cymraeg y rhaglen yr oedd Alun yn ei ddefnyddio; gwefan a oedd wedi nodi mae'r Gymraeg oedd fy newis o hanes ymweld â safleoedd eraill Llywodraeth y DU ac wedi fy nanfon i'r porth Cymraeg yn awtomatig!

Mater unigol i Alun, am wn i, yw dewis neu beidio a dewis y Gymraeg fel iaith ei fusnes, ond piti bod rhaglen ar S4C heb nodi bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael, yn hytrach na dangos amaethwr Cymraeg yn ddewis yr opsiwn Saesneg yn hytrach na'r gwasanaeth Cymraeg.

Gwaeth peidio a rhoi gormod o bwys ar statws swyddogol a Mesur os nad yw Cymry triw am ddefnyddio'r Gymraeg sydd ar gael iddynt eisoes, ac os nad yw S4C, o bob sianel, am hybu argaeledd gwasanaethau Cymraeg yn ei ragleni!

2 comments:

  1. Mae dad yn ffarmwr, a rhaid deud, mae'r adran sy'n delio gyda symudiadau gwartheg yn yn cymryd y Gymraeg o ddifri gyda'u gwefan a'u llinell gymorth.

    Mae dad yn hyderus iawn yn ei Gymraeg ysgrifenedig, er mai i Ysgol Dimbech aeth o, ac yn troi yn dipyn o nashi ac yn ymgyrchydd iaith yn ei henaint, ond alla i ddim dweud i sicrwydd os ydy o'n defnyddio'r fersiwn Cymraeg pob tro.

    Ia, mater unigol i Alun ydy fel ffarmwr, ond fel darlledydd ar S4C, baswn i'n meddwl bod yna ddisgwyliad bod o'n gwnedu defnydd o'r Gymraeg pob cyfle sydd ar gael ac yn hyrwyddo'r opsiwn Cymraeg.

    ReplyDelete
  2. Dadl mi dybiwn i tros ymestyn briff S4C i hyrwyddo'r Gymraeg yn ogystal a darparu rhaglenni.

    ReplyDelete