10/12/2010

A Oes Angen Galw'r Glas?

Yr wyf wrthi yn gwrando ar ddadl hynod ddiddorol ar gostau plismona ar raglen Y Dydd yn y Cynulliad. Rwy'n ansicr pa bwyllgor sy'n trafod gan nad yw S4C yn rhoi'r wybodaeth yna yn y modd mae BBC Parliament yn gwneud, ysywaeth.

Un o'r cwestiynau sydd ddim yn cael ei drafod, yw un sydd wedi fy mhoeni fi yn gynyddol dros y blynyddoedd, sef pam bod gymdeithas yn mynd yn fwyfwy ddibynnol ar yr heddlu a'r system droseddol i dorri dadl neu i ymdrin ag ymddygiad sy' ddim ond yn ddrwg yn ystyr ehangaf y gair?

Roedd enghraifft yn y Daily Post ddoe, cafodd Keith Edwards, gwirfoddolwr efo Clwb Pêl droed Glan Conwy ei dwyn o flaen Ynadon Llandudno a'i ddirwyo am adael neges ar ffôn Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru yn ei alw, yn ôl y Post, yn “f****** t***” ar ôl anghytundeb parthed dyfodol y Gymdeithas.

Yn ddi-os roedd ymddygiad Mr Edwards yn anghwrtais ac yn annerbyniol, ond oedd o'n droseddol? Oedd angen i'r Heddlu a'r llysoedd ymyrryd? Onid mater i'r deuddyn sortio allan eu hunain ydoedd neu, ar ei waethaf, i glwb y pentref neu'r Gymdeithas Pêl-droed ei sortio?

Faint gostiodd ymyrraeth yr Heddlu a'r llysoedd? Llawer mwy na'r £75 o gostau bydd Mr Edwards yn gorfod eu talu mae'n debyg, ac onid ydy'r ffaith ei fod wedi dwyn yr achos i sylw'r heddlu a'r llysoedd yn profi bod y swyddog yn “f****** t***”?

Os oes angen torri lawr ar gost plismona, onid un o'r ffyrdd gorau i wneud hynny yw trwy beidio a disgwyl i'r heddlu ar system gyfreithiol i fod yn rhan o bob anghydfod a phob achos o ymddygiad "anghymdeithasol"?

3 comments:

  1. Hmm - dydi Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru ddim yn byw ochrau G'narfon felly - neu mi fyddai'n fwy cyfarwydd a chael ei alw'n bethau felly.

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:03 pm

    Yndi mae o. Waunfawr, a'r sefyllfa oedd yn ol son i blentyn y gwr godi'r neges i fyny ar y ffôn.

    ReplyDelete
  3. "a'r sefyllfa oedd yn ol son i blentyn y gwr godi'r neges i fyny ar y ffôn."

    A pha gwahaniaeth mae hynny'n gwneud i'r ddadl mae nid achos i'r heddlu oedd y neges ar y ffôn?

    ReplyDelete