22/12/2010

BBC Alba a S4(BB)C

Mae'n debyg bod y rhesymeg tu cefn i'r penderfyniad i roi S4C yn nwylo'r BBC yw'r diffyg ymwybyddiaeth gan Sansteffan parthed y gwahaniaeth rhwng sefyllfa'r Aeleg yn yr Alban a'r Gymraeg yng Nghymru. Mae'r sianel Gaeleg wedi bod yn weddol lwyddiannus o dan reolaeth y Bîb, waeth i'r Sianel Gymraeg gael ei redeg yr un fath, mae'n debyg yw'r rhesymeg.

Rwy'n wyliwr eitha' cyson o BBC Alba, rwyn gwylio dwy neu dair rhaglen pob wythnos, mae'r sianel yn darlledu nifer o raglenni dogfennol, hanesyddol a cherddorol sydd yn hynod ddiddorol o ran eu cynnwys ond yn gwan o ran eu harddull.

Er enghraifft mi wyliais raglen yr wythnos diwethaf a oedd yn trafod y ffordd yr oedd y tlodion yn yr ucheldiroedd yn cyweirio gwely o rug gan nad oedd deunydd gwely amgenach ar gael iddynt; rhywbeth na wyddwn i amdano gynt. Roedd y rhaglen yn agoriad llygad, yn brawf o ddyfeisgarwch dyn o dan yr amgylchiadau dwysaf, yn gofnod gwych o draddodiad gwerin, yn addysg ac yn hynod ddiddorol; ond o ran ddarllediad yr oedd o'n wan. Dynes yn ymweld â dyn ac yn dweud wrtho rwy'n deall dy fod di yn gwybod sut i wneud gwely o rug. Y fo'n ateb ydw -fel 'ma mae gwneud hi ac yn dangos y grefft - rhaglen dechnegol wael a rhad.

Y fath o ddeunydd rwyf am ei weld ar S4C ond nid y fath o safon yr wyf am weld ar S4C. A'i dyma'r safon bydd ar S4BBC yn y dyfodol?

Lansiwyd BBC Alba dwy flynedd yn ôl fel arbrawf, bu adolygiad o'i ddwy flynedd gyntaf yr wythnos yma. I wylwyr BBC Alba mae'r newyddion yn galonogol, mae'r sianel wedi bod yn llwyddiant ac y mae o am barhau am o leiaf pum mlynedd eto.

Ond mae rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu codi yn yr adolygiad yn peri pryder, er enghraifft a ddylai'r sianel cael ei gyfyngu i'r we yn unig? Dim ar hyn o bryd gan fod argaeledd y we yn wan yn yr ardaloedd lle mae'r Aeleg yn gryfaf - ond posibilrwydd yn y dyfodol! A'i dyna ddarpar ddyfodol S4BBC hefyd?

Mae'r Gorfforaeth yn gyndyn o sicrhau slot i BBC Alba ar Freeview yn yr Alban oni bai bod ambell i sianel radio yn cael ei golli i wneud lle ar ei gyfer, yn ddi-os ni fydd ar gael ar Freeview trwy wledydd Prydain. Yn ôl y son mae hyd at draean o wylwyr S4C yn wylwyr y tu allan i ffiniau Cymru, a fydd S4BBC am eu haberthu hwy er mwyn sicrhau ystod i sianelau eraill, gan wanhau darlledu Cymraeg?

O dderbyn mae dim ond tua 70 mil o siaradwyr Aeleg cynhenid sydd ar ôl, mae'n rhaid llongyfarch y BBC am ei ddarpariaeth wych o dan yr amgylchiadau ieithyddol, ond mae’n rhaid gwylio nad yw'r gorfforaeth yn tybio bod yr un fath o ddarpariaeth yn ddigonol i dri chwarter miliwn o Gymry Cymraeg hefyd!

2 comments:

  1. Yn bersonol, petai'n dod i orfod dewis rhwng steil a a sylwedd, baswn i'n mynd am sylwedd pob tro. Dw i'n meddwl bod rhaglenni S4C yn canolbwyntio gormod ar ffrils a ddim digon ar y cynnwys.

    ReplyDelete
  2. Anonymous11:02 am

    Dwi'n gwylio BBC Alba hefyd - mae'r rhaglen materion cyfoes am Ewrop, Eorpa, yn dda ac mae'n ddifyr gweld stwff o diwylliant arall.

    Ond ti'n iawn ei bod yn gallu edrych yn amatur. Mae hefyd ofn ynof fy 'mod i'n dipyn o anorac diwylliannol ac felly mewn lleiafrif bychan iawn. Ydw i'n gwylio y stwff diwylliannol yma achos ei fod yn ddifyr i fi fel person o'r tu allan, tra fod dy Gael gyffredin yn ys tryd yn ei weld yn adewlyrchiad o ddiwylliant hen ffasiwn ac amherthnasol iddynt? Dwi'n amau fod hynny'n wir.

    Does dim rhaglenni yn ystod y dydd ar BBCAlba, does dim dramau (heblaw am un ddrama wedi ei lleoli mewn ysgol), does dim opera sebon, does dim fideos cerddorol, does dim rhaglen llwyth o raglenni i blant fel Cyw/Stwnsh. Mae'r cyfresi human interest yn dueddol o fod yn un boi yn siarad gydag un hen foi arall. Does dim defnydd dychmygus o waith camera na golygu.

    Nid taflu bai ar BBCALba yw hyn - base nhw'n dweud yr un peth. Y ffaith yw, mae BBCAlba yn gwneud gwaith gwych, yn cynnal sianel ar gyllideb pitw. Dylid codi'r gyllideb honno yn agosach at un S4C nid tynnu un S4C i lawr i gyllideb BBCAlba.


    'Boi o Gaerdydd'

    ReplyDelete