17/11/2010

Yn ail i Cai eto byth!

Rwy'n ddiolchgar i Gylchgrawn Golwg am ddyfarnu fy myfyrdodau fel ail flog Cymraeg gorau'r bydysawd.

Fel yr wyf wedi dweud bron pob tro yr wyf wedi derbyn "gwobr" am flogio, rwy'n casáu’r syniad bod mynegi barn yn beth gystadleuol i'w gwneud; mae yna wastad berygl bod dyn yn newid ei farn er mwyn cipio'r wobr - neu yn wir yn newid ei arfer. Rwy'n cynnal dau flog - yr un yma yn iaith y Nefoedd ac yr un acw yn y fain, bai (sef arfer i'w newid) yn ôl beirniaid Golwg:
"un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg"
Am sylw hurt! Mae fy myfyrdodau Cymraeg yn ffaelu oherwydd fy mod hefyd yn myfyrio yn fy iaith gyntaf! Gwir yr?

Pe na bawn yn blogio yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg a fyddwn wedi cael siawns o gipio'r brif wobr?

Oni bai am y llall, ai'r blog hon, yn hytrach na blog dwrdio plant ddrwg Cymru am boeri gwm ar fuarth y Blaid gan yr Hen Sgŵl byddai ar y brig?

I ddweud y gwir rwy'n poeni braidd bod Macsen yn hen snich sydd yn dymuno imi gael y gansen gan y prifathro o herwydd imi gael fy nal ar ddiwedd fy mhost diwethaf gyda'r English Not ar fy mrest.

3 comments:

  1. Llongyfarchiadau Alwyn.

    Diolch byth mai ail ac nid trydydd oeddet ti!

    ReplyDelete
  2. Ti wedi tynnu blew o drwyn gymint o fobol mae'n syndod dy fod wedi dod yn ail!; ond cadwa fo fyny dwi'n hoffi dy steil di a fod gen ti ddim ofn piso bobol bwysig ffwrdd!

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:14 pm

    Llongyfarchiadau Alwyn, dwi'n darllen dy ddau flog yn ddyddiol - difyrach o lawer na Golwg360 yn ym marn i!

    ReplyDelete