30/10/2010

Ydy Cofiwn yn cofio'n iawn?

Wrth chwilio a chwalu drwy hen bapurau heno cefais hyd i doriad papur newydd. Os cofiaf yn iawn yr Herald Cymraeg oedd y papur, ac mae'n debyg mae cofnodi gwrthwynebiad mudiad Cofiwn i ddathlu saith can mlwyddiant codi cestyll y gormeswyr ym 1982 gan Cadw oedd yr achlysur. Reitiach, wrth gwrs byddid galaru saith can mlwyddiant llofruddio Llywelyn ein Llyw Olaf ar y pryd.



Pan fu farw Llywelyn ein Llyw olaf yr oedd, yn ôl y son, yn gwisgo un o'i dlysau coronog, sef y Groes Naid - rhan o'r Wir Groes wedi ei dlysu a cherrig gwerthfawr. Yn y llun gwelir fi (ar chwith y sgrin) rhyw gôc oen o MI5 (yn amddiffy y castell rhag terfysgwyr) yn y canol a Gethin ab Iestyn ar dde'r llun. Mae Gethyn a fi yn ceisio planu symbol o'r Groes Naid yng Nghanol y Castell.

Rwy'n tristau bod Mudiad Cofiwn wedi diflannu, roedd y gwaith yr oedd y mudiad yn ei wneud yn bwysig. Mi astudiais hanes fel disgybl ysgol hyd at lefel A. Yr unig grybwyll o hanes Cymru a chefais yn yr ysgol oedd bod Harri'r VIII wedi rhoi cynrychiolaeth Seneddol i bobl Cymru, gan ei fod yn Gymro mor dda!

Roedd addysg Mudiad Cofiwn (er mor feias o'r ochor arall) yn addysg go iawn!

OND - mae rhai o brif gymeriad Cofiwn yn blogio bellach, ac yn blogio o'r chwith, ac rwy'n teimlo braidd yn anghysurus. Digon hawdd yw condemnio'r bobl a oedd yn byw yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf am ddewis yr ochor anghywir, ar ôl y digwyddiad, roedd o'n anodd i ambell i Sais hefyd!

Ond a ydy condemnio tri Penyberth fel Ffasgwyr, a honni bod y sawl a bu farw yn Sbaen yn arwyr Cenedlaethol yn gywir?

Do fu farw nifer o Gymru yn Sbaen, heddwch i'w llwch, ond o'r sawl a oroesodd y frwydr sawl un rhoddodd cefnogaeth i achos Cenedlaethol Cymru wedi'r frwydr? Dim un hyd y gwyddwn.

Bu pob un, nid yn unig y tri a chafodd eu carcharu ar ôl protest, a fu'n ymwneud a Phenyberth yn driw iawn i Gymru am weddill eu bywydau a bu eu cyfraniadau i gymdeithas, diwylliant a bywyd cymdeithasol Cymru yn fawr.

Mi ymadawais a Phlaid Cymru o herwydd ei fod wedi ymrwymo i Sosialaeth yn hytrach na Chenedlaetholdeb. Piti bod archif Cofiwn yn anghofio Cenedlaetholdeb er mwyn clodfori Sosialaeth rhyngwladol hefyd.

A ydy clodfori Sosialwyr a gachodd ar eu Cymreictod, er mwyn condemnio cyfraniad pobl fel Ambrose Bebb a Saunders Lewis i'r achos Genedlaethol yn wir gofio?

5 comments:

  1. Anonymous8:32 am

    Rhaid edmygu dyfalbarhad Sian Ifan ond ma ddi bach off ei phen ond yw hi!!

    ReplyDelete
  2. Yydi ma ddi bach off ei phen

    Off ei phen efo ymrwymiad a chariad i'w cenedl - er ein hanghytundebau prin yw'r rhai sydd wedi bod mor driw i'r achos cenedlaethol a fu Siân.

    Mi fyddwn yn falch o honni fy mod i mor off fy mhen a Siân dros y frwydr genedlaethol, ond bychan a rhy "gall" bu fy nghyfraniad i'r achos ysywaeth!

    ReplyDelete
  3. Un o'r rhai aeth i Sbaen oedd Twm Sbaen - Tom Jones o Rhosllannerchrugog. Mi wnaeth o gefnogi ymgyrchoedd blaengar Cymreig, gan gynnwys sefydlu TUC Cymru a Senedd i Gymru.
    Does gen i ddim problem bod yn sosialydd ac yn weriniaethwr Cymreig. Mi wnei di ffeindio mae aelodau chwith y Blaid ydi'r rhai mwya teyrngar at annibyniaeth hefyd.

    ReplyDelete
  4. Efo pob parch, Marc, roeddwn yn adnabod Tom, oedd roedd o'n Gymro triw (er gwaetha'r ffaith ei fod yn ymfalchïo yn y ffaith mae "Sais o Gymro da" ydoedd wedi ei eni yn swydd Caerhirfryn).

    Ond celwydd yw honni bod Tom yn genedlaetholwr.

    Sosialydd ydoedd hyd at fer ei esgyrn, roedd o'n cefnogi'r iaith Gymraeg, yn cefnogi Senedd i Gymru ond, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, yn casáu cenedlaetholdeb mewn unrhyw wlad, gan gynnwys Cymru.

    Roedd Tom yn gymeriad a hanner, yn glod i Gymru, yn un sy'n haeddu ei glodfori fel un o arwyr ein gwlad, ond mae ffug honni ei fod o'n fwy o genedlaetholwr na Saunders, fel mae post Cofiwn yn gwneud, yn sarhad ar goffa'r dyn!

    ReplyDelete
  5. Anonymous3:09 pm

    Mae erthygl am Cofiwn yn rhifyn mis Hydref 2011 o Cambria gan Sion Jobbins

    http://www.cambriamagazine.com/

    ReplyDelete