08/10/2010

Canlyniad od yng Nghaernarfon

Dyma ganlyniad is etholiad ward Seiont Cyngor sir Gwynedd:

Llais Gwynedd 399
Plaid Cymru 279
Y Blaid Lafur 184
Annibynnol 91
Plaid Geidwadol Cymru 23

Fel mae BlogMenai yn nodi bydd o ddim yn andros o siom i Blaid Cymru, sedd annibynnol ydoedd Seiont cyn marwolaeth y deiliad, ac mae'n ward lle mae'r Blaid Lafur wedi bod yn weddol gryf a Phlaid Cymru wedi bod yn siomedig yn y gorffennol. Mae gan y Blaid a'i hymgeisydd lle i ddathlu am ddod yn ail dechau mewn talcen caled ac am gynyddu ei phleidlais o fymryn.

Ond mae'n ganlyniad diddorol parthed ffrae'r Blaid a Llais. O edrych yn ôl i 2008 roedd nifer o enillion Llais yn rhai lle nad oedd dim ond dau ymgeisydd yn sefyll un o'r Blaid a'r llall o Lais, neu dau go iawn a nytar o annibyn. Yr hyn a oedd yn ffafriol i Lais oedd bod cyn cefnogwyr y Blaid a oedd wedi pwdu yn cael eu cefnogi gan bobl byddid yn fwrw pleidlais i Satan yn hytrach na chefnogi Plaid Cymru; roedd Llafurwyr a Cheidwadwyr a Rhyddfrydwyr a chasbleidwyr eraill yn bwrw pleidlais dros Lais jest er mwyn rhoi swaden i'r Blaid.

Roedd gan etholwyr Seiont y dewis i bleidleisio dros ymgeisydd Lafur neu Geidwadol neu annibynnol, doedd dim rhaid iddynt bleidleisio Llais i gadw'r Blaid allan (os mae cadw'r Blaid allan oedd eu bwriad - sy'n anhebygol yma), nid oedd y canlyniad yma yn un anti-Plaid!

Mae ward Seiont yn ward trefol bydd ar ei hennill o bolisi Gwynedd o gau ysgolion bach cefn gwlad gan fod ysgolion bach cefn gwlad yn tynnu cyllid allan o ysgolion trefol. Dydy rheswm bod Llais ddim yn un bydda ddyn yn disgwyl i daro nodyn yma!

Os oedd Seiont yn dalcen caled i'r Blaid, byddwn yn disgwyl iddi bod yn dir diffrwyth i Lais Gwynedd!

Pam bod Llais wedi ennill?

Y rheswm symlaf, wrth gwrs, yw bod pobl yn dueddol i bleidleisio i'r unigolyn yn hytrach na'r blaid mewn etholiad lleol. Hwyrach mae James Endaf Cooke oedd yr unigolyn mwyaf hawddgar yn y ras.

Os oeddynt yn pleidleisio yn negyddol, hwyrach bob pobl Seiont yn pleidleisio yn erbyn Tecwyn Thomas yr ymgeisydd Llafur. Mae rhai yn credu bod Tecwyn wedi defnyddio Caernarfon er mwyn hybu uchelgais personol aflwyddiannus.

Y drydydd posibilrwydd yw bod pobl trwy Wynedd gyfan wedi penderfynu mae Llais yw'r wrthblaid swyddogol go iawn i Blaid Cymru yng Ngwynedd. Yn 2008 roedd pobl yn pleidleisio i Llais pan nad oedd ymgeisydd arall, mae pobl Seiont wedi cefnogi Llais er gwaetha'r ffaith bod dewis helaeth o ymgeiswyr eraill - a fydd etholwyr Gwynedd oll yn gwneud yr un fath y tro nesaf? Os ydynt bydd y Blaid yn y cac.

Ta waeth, llongyfarchiadau i'r Cyng James Endaf Cooke ar ei fuddigoliaeth.

4 comments:

  1. Mi soniaf ychydig mwy am y canlyniad ar fy mlog - ond un pwynt bach technegol hoffwn dynnu sylw ato. Mae Seiont yn ward dau aelod, felly roedd dwy bleidlais gan bawb y tro o'r blaen, tra nad oedd ond un pleidlais y tro hwn. Felly mae'r cynnydd ym mhleidlais y Blaid yn fwy arwyddocaol na mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.

    ReplyDelete
  2. Anonymous9:13 am

    Pam bod Llais wedi ennill?

    Mewn gwirionedd yr ymgeisydd a enillodd, nid Llais Gwynedd. Mae'n rhedeg y siop jips yng nghanol y dre ac felly yn wyneb cyfarwydd i bawb. Mae o wedi ennill sedd oedd gynt yn nwylo ymgeisydd annibynnol oedd hefyd yn rhedeg siop yng nghanol y dre.

    ReplyDelete
  3. Efallai bod canlyniad Cadnant ychydig yn fwy o destun pryder. Daeth Plaid Cymru ymhell y tu ôl i'r blaid Lafur, ond hefyd y Ceidwadwyr!

    ReplyDelete
  4. Peth od am ganlyniadau'r isetholiadau Cyngor Tref yw bod Glyn Thomas wedi ennill yn Seiont dros Blaid Cymru dra bod Glyn Thomas hefyd wedi ennill Cadnant dros Lafur - mae angen i rywun i gael gair yng Nghlust Glyn Thomas parthed teyrngarwch pleidiol!

    ReplyDelete