13/09/2010

Plaid 31?

Yn ystod areithiau Ieuan Wyn a Ron Davies i Gynhadledd y Blaid bu cyfeiriad at fynd cam ymhellach - i gael arweinydd y Blaid yn Brif weinidog y Cynulliad yn 2011 yn hytrach nag yn ddirprwy. Iawn, uchelgais digon clodwiw - ond roedd yr opsiwn yna ar gael ar ôl etholiadau 2007 jest bod chwith y Blaid wedi llyncu mul ac wedi gwneud yn glir nad oedd cael Prif Weinidog o'r Blaid yn ddigon o wobr am glymbleidio efo'r Torïaid. Mi fydd o'n bosib i Ieuan dyfod yn Brif Weinidog yn 2011 os yw'r Blaid yn cytuno i ffurfio clymblaid Enfys (rhywbeth mae Ieuan Wyn wedi cydnabod sy'n annhebygol o ddigwydd).

Os yw'r Blaid am gael Brif Weinidog yn y Cynulliad heb Enfys yr unig obaith arall yw i'r Blaid cael fwy o aelodau na Llafur - os mae dyna'r uchelgais pam na ddywedwyd yn glir mae gobaith y Blaid yn 2011 yw bod y blaid fwyaf un yn y Cynulliad? O bosib oherwydd y byddai datganiad o'r fath mor chwerthinllyd ag ymgais 31 Kirsty Williams ar gyfer y Rhyddfrydwyr!

Byddwn wrth fy modd pe bai'r Blaid yn cael mwy o seddi na'r Blaid Lafur - ond pe bai'r annhebygol yn digwydd mi fyddai'n digwydd ar draul Llafur yn colli nifer o seddi i'r Blaid. O dan y fath amgylchiadau mae'n annhebygol y bydd gweddol Llafur yn hapus i barhau i glymbleidio a Phlaid Cymru fel y blaid iau!

Rwy'n deall problem y Blaid efo'r Enfys hefyd; bydd y problemau y mae'r Glymblaid yn San Steffan am eu gosod ar Gymru yn annioddefol o boenus ac yn annerbyniol i'r rhan fwyaf o Bleidwyr. Bydd Enfys o dan y fath amgylchiadau yn amhosibl.

Hyd y gwelaf i mae gan y Blaid 3 opsiwn ymgyrchu:


  1. Derbyn mae'r Blaid bydd aelod iau clymblaid Cymru'n Un #2, a cheisio ennill un neu ddau o seddau ychwanegol i gryfhau ei chyfraniad i Lywodraeth o dan Brif Weinidog Llafur 
  2. Ceisio cynyddu nifer ei haelodau yn y Cynulliad ar draul Llafur a bod yn wrthblaid yn y Cynulliad ac i'r Llywodraeth yn San Steffan.
  3. Anghofio am seddi targed, a mynd am ymgyrch cenedlaethol i geisio ennill pob un bleidlais o Fôn i Fynwy a chymaint o seddi etholaeth a rhanbarthol ac sydd modd, - trin Wrecsam, Brycheiniog Maesyfed a Mynwy fel seddi targed yn ogystal â Chaerffili, Nedd ac ati.
Bydda ymgais 31 yn llawer llai chwerthinllyd o enau Ieuan nag ydyw o enau Kirsty! Ewch am dani Plaid Cymru!!

1 comment:

  1. Doeddwn i ddim cweit yn deall datganiad y Blaid. Mae'r glymblaid yn San Steffan yn debygol o fod yn amhoblogaidd erbyn etholiad y Cynulliad oherwydd y toriadau llym, felly ni fyddai'n gwneud synnwyr ffurfio clymblaid enfys. Ac allai'm gweld beth fyddai'n achosi i holl gefnogwyr craidd Llafur droi at y Blaid dros y misoedd nesaf... os rywbeth cryfhau wneith cefnogaeth Llafur wrth i'r toriadau ddechrau brathu dwi'n meddwl.

    Pe bai Ieuan Wyn Jones wedi dweud mai ei nod yw bod yn Brif Weinidog ryw ddydd efallai y byddai'n gredadwy - ond allai'm ei weld o'n digwydd yn 2011 rhaid dweud.

    Gyda llaw Alwyn, dwi'n gweld dy fod ti'n cynnwys Blog Golwg 360 ar dy 'restr blogiau' ar dy flog Saesneg. Diolch yn fawr! A fyddet ti'n fodlon ei gynnwys ar dy flog Cymraeg hefyd? Gan bod yr rheini sy'n dilyn dy flog Cymraeg yn fwy tebygol o fod â diddordeb mewn blog Cymraeg arall.

    ReplyDelete