22/09/2010

Y Cynulliad yn bradychu gofalwyr ifanc?

Yr wyf yn dioddef o glyw’r digwydd ac yr wyf yn hynod drwm fy nghlyw. Mae fy ngwraig yn dioddef o'r clwyf melys ac yn cael problemau symudedd, mae'r ddau ohonom o'r herwydd yn anabl, ac mae ein plant yn ofalwyr i ni.

Mae'r meibion yn gwthio cadair olwyn eu Mam, maent yn ateb y ffôn ar fy rhan i. Pan fyddwyf yn mynd ar daith ar y bws neu'r trên mae'n rhaid imi gael ofalydd cyfrifol efo fi rhag ofn fy mod yn cael ffit. Un o'r hogiau bydd yn dod efo fi, fel arfer.

I'r hogiau braint yw gwthio Mam yn y gadair olwyn, mae'n achos dadl yn aml rhyngddynt parthed tro pwy yw gwthio'r gadair. Hwyl yw mynd efo Dad ar y bws neu'r trên. Pan fo rhywun yn ffonio i werthu rwtsh ar y ffôn mêl i'r hogs yw mynegi rhegfeydd eu Tad i werthwyr ffenestri dwbl a chacalwyr eraill.

Nid ydynt yn eu hystyried eu hunain yn ofalwyr ifanc. A phan wnaed arolwg yn yr ysgol o ofalwyr ifanc ymysg y disgyblion ni wnaethent gynnig eu hunain fel enghreifftiau o'r rhai sydd yn ddioddef trwy ofalu am eu rhieni.

Fe fu drafodaeth yn y Senedd ddoe am Strategaeth Ofalwyr. Gwrthwynebwyd a phleidleisiwyd yn erbyn pob un gwelliant am rôl yr ofalydd ifanc a gynigwyd gan y gwrthbleidiau gan aelodau'r Blaid Lafur ac aelodau Plaid Cymru. Rhag cywilydd iddynt!

Cyfrannu eu gofal trwy natur yn hytrach na dyletswydd mae fy meibion, heb sylwi eu bod yn ofalwyr. Yr wyf yn hynod flin bod corff sydd yn gallu edrych uwchlaw profiad dau fachgen ysgol diniwed, wedi ymwrthod a sylwi ar, a chydnabod, gwirionedd eu gwir gyfraniad i ofal eu rhieni!

1 comment:

  1. Anonymous1:52 pm

    Tydw i ddim yn deall beth oedd y gwelliannau a chynigwyd?

    Medraf ddeall bod angen sylweddoli fod rhai plant yn treulio cymaint o amser yn gofalu am aelodau teulu fel nad oes amser iddyn nhw eu hunain.

    ReplyDelete