27/09/2010

Wesleaid, Annibynwyr a Llafurwyr!

Yr wyf yn Wesla hyd at fer fy esgyrn. Pe bawn am roi proc i fy "ngelynion" enwadol, yr Annibynwyr, trwy nodi bod aelodaeth eu henwad wedi mynd i lawr yn ofnadwy yn ystod y gan mlynedd diwethaf, bydda bawb yn gweld gwendid fy nadl. Mae'n wir bod llai o Annibyns rŵan nag oedd cynt OND roedd llawer llai o Wesleaid nag Annibynwyr can mlynedd yn ôl ac mae yna lawer, llawer llai ohonynt rŵan hefyd.

Mae nifer o byst ar y blogiau gwleidyddol yn ymarfer yr un fath o broc yn erbyn y Blaid Lafur heddiw, maent yn edrych ar sawl papur pleidlais a danfonwyd i bob etholaeth ac yn dwt twtian am gyn lleied a danfonwyd i ambell le. Gweler enghreifftiau o'r fath bost gan Better Nation am faint Llafur yn yr Alban a physt gan Syniadau, BlogMenai a Phlaid Wrecsam am gyn lleied o bobl sydd yn aelodau o'r Blaid Lafur yng Nghymru.

O ran fy mharth i o'r byd rwy'n gweld mae dim ond 168 o aelodau sydd gan Lafur yn Aberconwy. O gofio bod yr ardal yn cael ei gynrychioli gan AS Llafur dim ond 4 mis yn ôl mae hynny'n edrych yn andros o isel. Ond heb wybod sawl aelod sydd o'r pleidiau eraill mae'r wybodaeth yn ddiwerth. A lwyddodd y Ceidwadwyr i gipio'r sedd trwy ddenu mwy o aelodau newydd? Be di'r neges os oes gan Plaid Cymru deng waith mwy o aelodau yn Aberconwy, ond eto wedi ei drechu gan Lafur?

Yn y bôn mae'r pyst am faint aelodaeth y Blaid Lafur yn ddiwerth, oni bai bod rhifau aelodaeth y pleidiau eraill hefyd ar gael er mwyn cymharu cryfder aelodaeth ac er mwyn cymharu effaith cryfder aelodaeth ar y canlyniad terfynol.

Nid bod rhifau'n bwysig. Mae un Wesla yn werth mwy na chan Annibyn, wedi'r cwbl!

6 comments:

  1. Mae yna tros i ddau gant o aelodau gan Blaid Cymru yn nhref Caernarfon - er mai honno ydi'r gangen unigol fwyaf yng Nghymru.

    ReplyDelete
  2. Its not as meaningless as you think - it simply shows what a dramatic decline there has been in Labour membership.

    Nevertheless, if you want a comparison:
    2000 Scottish Labour = 25,000
    2010 (JAN) Scottish Labour = 18,500
    2010 (OCT) Scottish Labour = 13,100

    2003 SNP = 5,250
    2010 (JAN) SNP = 15,100

    Links for the numbers on Better Nation.

    ReplyDelete
  3. O be dwi'n ddallt, mae gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr rhywbeth fel 8,000 o aelodau yr un yng Nghymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn lleied â 2,000 ... ond o dop fy mhen mae hynny. Dwi'n siwr bod ffigurau ar gael ar gyfer Plaid Cymru yn rhywle.

    ReplyDelete
  4. Anonymous6:06 pm

    Pa fod un Wesla yn well na chant o Annibynwyr?

    ReplyDelete
  5. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.

    Mae Annibyns fel ffrwythau gwael hanner pris Lidl, Mae ffrwythau Wesleaidd megis Tesco Finest

    ReplyDelete
  6. Sorry Malc but unless we have similar numbers for the increase / decrease in other party's membership then there is no context in which to put your figures.

    If all parties have had their membership decline by X%, then it is a matter of concern for all of us.

    If Labour Party membership has declined by X% but another party's membership has increased by Y%, then that is a whoo-hoo moment for the other party!

    Without comparative details I don't know whether to break out the champagne to toast the decline of Labour, or to don the sackcloth and ashes to mourn the decline of participative democracy in its entirety!

    ReplyDelete