01/09/2010

Oscars y blogiau

Mae fy mlog Saesneg Miserable Old Fart wedi syrthio o'r ail safle yn rhestr blogiau gorau Cymru Total Politics i'r chweched safle, siom! Ond mae fy mlog Cymraeg wedi esgyn o'r bedwerydd safle ar ddeg i'r bedwerydd safle - y tro cyntaf ers i fy mlogiau cael eu crybwyll yn y dyfarniadau i fy myfyrdodau Cymraeg curo fy myfyrdodau Saesneg. Fel un sydd yn llawer mwy hyderus yn ysgrifennu yn y Saesneg na'r Gymraeg mae hyn yn achos o beth balchder imi.

Llongyfarchiadau mawr i Flog Menai am lwyddo, am yr ail dro yn olynol, i fod y Blog Cymraeg fwyaf llwyddiannus ac ar ben hynny i gipio'r wobr aur am y blog Cymreig gorau eleni hefyd. Nid bod y diawl yn haeddu’r wobr wrth gwrs - rwy'n benderfynol o guro'r bastard y flwyddyn nesaf!

Difyr oedd gweld bod fy hen gyfaill Gwilym Euros Roberts yn parhau i fod yn y 50 uchaf er gwaetha'r ffaith bod diweddaru ei flog braidd yn anodd o dan ei amgylchiadau presennol.

Ond y peth wnath rhoi'r pleser mwyaf imi o ran y gwobrau oedd bod fy nau flog wedi curo'r diawliaid trahaus sydd yn honni mai nhw yw cartref gwleidyddiaeth Gymreig. Os nad ydych yn gwybod pwy ydynt, mae'n ddrwg gennyf ond yr wyf wedi cael fy ngwahardd rhag rhoi dolen i'r safle gan fydda hynny, yn ôl un o'r gweinyddwyr, yn gam ddefnyddio eu safle hwy i ennyn trafnidiaeth i fy mlogiau (llawer mwy poblogaidd) i- so twll dy din di Duncan Higget!

Dyma'r canlyniadau:
1 Blog Menai
2 Plaid Wrecsam
3 Syniadau
4 Hen Rech Flin
5 Vaughan Roderick
6 Miserable Old Fart
7 Cardiff Blogger
8 Betsan Powys
9 Peter Black AM
10 Everyone's Favourite Comrade
11 Blog Guto Dafyyd (anhaeddianol mae blog Guto DAFYDD yn llawer gwell)
12 Pendroni
13
14 Welsh Ramblings
15 Freedom Central
16 Bethan Jenkins AM
17 Ffranc Sais
18 Dib Lemming
19 The Druid of Anglesey
20 Valleys Mam
21 Blog yr Hogyn o Rachub
22 Glyn Davies MP
23 Plaid Panteg
24 Polemical Report
25 A Change of Personnel
26 Leanne Wood AM
27 Politics Cymru
28 Blog Answyddogol
29 Liberal Smithy
30 Inside Out - A Jaxxland Perspective
31 Alun Williams
32 Gwilym Euros Roberts
33 Institute of Welsh Affairs
34 Dylan Jones-Evans
35 Borthlas
36 Paul Flynn MP
37 David Cornock
38 Morfablog
39 Red Anorak
40 Mike Priestley
41 07.25 to Paddington
42 Blog Golwg
43 Plaid Cymru Llundain
44 Rene Kinzett
45 This is My Truth
46 Denverstrope
47 Independence Cymru
48 Grangetown Jack
49 Blog Rhys Llwyd
50 Cambria Politico

3 comments:

  1. A, diolch Alwyn.

    Y gyfrinach ydi bod yn ffeind efo pawb, peidio a beirniadu na chodi gwrychyn neb, bod yn deg, bod yn gymodlon, bod yn gwrtais - yn union fel fi.

    Fel ti'n awgrymu, diolch byth nad ydi Gwilym wedi bod mewn sefyllfa i flogio ers misoedd neu mae yna berygl y byddai wedi stwffio'r ddau ohonom!

    ReplyDelete
  2. Da iawn chi, Alwyn! Efallai byddwch chi'n teimlo'n fwy hyderus erbyn hyn. Rwy'n wir yn mwynhau darllen eich dau flog chi ta beth.

    A gobeithio caiff Gwilym ddiweddaru ei flog cyn bo hir. Gwastraff arian yw ei sefyllfa bresennol, er gwaethaf popeth.

    ReplyDelete
  3. Mae 'na lyfr, yn ôl pob son, syn egluro sut I Ennill Gyfeillion a Dylanwadu ar Bobl. Mae'n amlwg bod BlogMenai wedi bwyta copi cyn cychwyn ar flogio, bydd rhaid imi gael copi o'r llyfr cyn ddaw'r gwobrau nesaf!
    Ie James! Trist yw meddwl am Euros yn y Jêl. A pha werth cymunedol sydd i garcharu dyn sydd wedi rhoi gymaint i'w gymuned dros y blynyddoedd a thrwy ei garcharu yn amddifadu'r gymuned o'r cyfle iddo roi llawer mwy?

    ReplyDelete