04/08/2010

Prin sydd am ddim ar Freeview!

Ym mhob siop lle mae modd prynu set teledu gyda Freeview yng nghynwysedig neu i brynu bocs pen set Freeview ceir honiad bod modd cael hyd at 50 sianel yn rhad ac am ddim o brynu'r nwydd.

Ond dim ond 13 sianel rwy'n gallu eu derbyn yn Llansanffraid Glan Conwy! Rwy'n methu derbyn ambell i sianel bydda ddyn yn disgwyl i fod yn sylfaenol i ddarpariaeth ddi-dâl megis ITV3 a S4C2.

Mae'n debyg y byddai'n costio gormod i ddarparu signal digon cryf i fy mro er mwyn cael y gwasanaeth llawn!

Rwy'n gweld y diffyg darpariaeth yma'n warthus. Rwy'n talu'r un pris trwydded teledu a phawb arall ac yn talu'r un pris am nwyddau a hysbysebir ar y teledu a phawb arall - pam felly nad ydwyf yn cael yr un gwasanaeth am fy ngheiniogau prin a phawb arall?

O ran diddordeb a'i Dyffryn Conwy yn unig sy'n cael y fath wasanaeth gwachul yng Nghymru? Neu â ydyw yn gyffredin trwy barthau mawr o'r wlad?

3 comments:

  1. Mae hyn yn wir am rannau helaeth iawn o'r wlad gan gynnwys Emlyn Uwch Cych. Mae pawb sy'n derbyn signal o drosglwyddydd eilradd yn cael ystod gyfyng o sianeli, dim hyd yn oed S4/C 2.

    Dim darllediad di-dor o bafiliwn yr Eisteddfod i ni, felly; dim ond y parablu hyd syrffed o setî y Bîb.

    ReplyDelete
  2. Anonymous9:09 am

    Os wyt ti'n medru rhad wylio 13 sianel ar dy deledu, bodlona ar hynny! Dim ond un ohonynt y medri di wylio ar y tro!!

    ReplyDelete
  3. Anonymous3:35 pm

    Lleisia dy gwyn wrth OfCom.

    ReplyDelete