28/08/2010

Be di'r gwahaniaeth rhwng Sais a Whilber Lawn Cachu?

Be di'r gwahaniaeth rhwng Sais a whilber lawn cachu?

Y whilber!

Dyfyniad teg mewn cyd-destun o Twyll Dyn gan Eirwyn Pontshan (Cyhoeddiadau'r Lolfa Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol - 0 86243 040 2)

Pe na bai'n dyfyniad teg o gorpws llenyddol dyn sydd, ysywaeth, wedi marw; mi fyddwn mewn dŵr poeth iawn parthed y gyfraith, yn arbennig pe bawn mor anffodus ag i ymddangos o flaen ynadon Pwllheli

Cafodd Gwion Jones dirwy am ddweud Os di ff***ing Saeson isio dod i’r wlad yma, rhaid iddyn nhw ddangos dipyn bach o barch i bobol Cymru.

Rwy'n cytuno cant y cant a Gwion, ac os ydy Heddlu Goledd Cymru neu ynadon Pwllheli am fy erlyn am ddweud y fath beth y mae croeso iddynt drio!

Os caf fy erlyn byddwyf yn galw ar bobl megis Tony Blair, Anne Robinson, Janet Street Porter, Jim Davidson ac eraill i roi tystiolaeth i'r llys ar paham ei fod yn gywirach i ladd ar Gymro nag ydyw ar Sais!

Ystydegau Gwgl:
Fucking Welsh - 938,000
Welsh Wankers - 95,000
Welsh Cunts -69,300

People prosecuted for being anti Welsh - No results found!

5 comments:

  1. Fawr o ffrind ar Facebook! Mae gwneud issue allan o'r peth yn bathetig, dwi'n meddwl, mynd ag argraffu'r peth a mynd at yr heddlu, tyfwch fyny yn de. O ystyried y cyd-destun mae'r bobl yn swnio'n bobl annifyr tu hwnt.

    A'r peth gwaethaf tasa hyn wedi digwydd y ffordd arall rownd yn Lloegr fyddai'r gair 'hiliaeth' neu 'offensive' ddim hyd yn oed yn cael eu hystyried.

    A ph'un bynnag dwi 'di clwad lot o bobl yn deud pethau LOT gwaeth am Saeson!

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:10 am

    Boicotio y fucking pub sydd angen, cic i'r bitsh allan o Gymru.

    ReplyDelete
  3. Cwbl gwbl wallgof ac anfaddeuol a chwerthinllyd. Does gan sylwadau ar Facebook ddiawl o ddim byd i'w wneud efo'r wladwriaeth, ac eithrio efallai bygythiadau uniongyrchol. Mae malu cachu fel hyn yn gwneud y system gyfreithiol gyfan yn destun sbort. Dylai fod gan Diane Williams gywilydd.

    ReplyDelete
  4. Aled G J8:19 pm

    Cytuno'n llwyr a'r sylwadau uchod.Mae'r ffaith bod yr heddlu yn gallu erlyn unigolyn am fynegi barn fel hyn yn wirioneddol ddychrynllyd. Dyma farn sy'n cael ei rannu gan filoedd ar filoedd o Gymry: ydi'r heddlu am erlyn pawb sy'n meiddio datgan y farn honno?!
    Wedi dweud hynny: mae o jest o dangos unwaith eto pa mor ddinistriol y gall safleoedd rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook fod i'r unigolyn.Pam ar wyneb y ddaear y mae pobl isio peryglu eu preifatrwydd eu hunain yn y ffasiwn fodd?!

    ReplyDelete
  5. Ydy yr Heddlu yn mynd i erlyn aelodau o'r EDL hefo tudalennau Facebook hefo sylwadau hiliol?

    ReplyDelete