01/07/2010

Ysgol 3/19 cyntaf Cymru

Siom oedd darllen ar flog y Cyng. Alun Williams bod Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu bwrw ymlaen a phenderfyniad i greu un ysgol i holl blant a phobl ifanc ardal Llandysul. Bydd yr ysgol yn darparu ysgol i "blant" rhwng tair oed a phedwar ar bymtheg oed.

Rwy'n teimlo bod yna rhywbeth cynhenid ych a fi am y fath sefydliad!

Fel rhiant byddwn i ddim yn dymuno i'm plant, pan oeddynt yn fychan, i gael eu haddysgu yn y fath sefydliad. Mae'r syniad o ddanfon plentyn bach tair oed i ysgol lle mae disgyblion yn rhegi pob yn ail air, yn trafod eu ffug bywydau a'u dymuniadau rhywiol, yn cnoi gwm ac yn ysmygu yn wrthyn.

Gan fod fy epil bellach ymysg y rhai sydd yn rhegi pob yn ail air yn trafod eu ffug bywydau a'u dymuniadau rhywiol ac yn cnoi gwm (ond, ddim, hyd y gwyddwn, yn ysmygu!) yr wyf am iddynt deimlo eu bod ar ffin dyfod yn oedolion, eu bod yn laslanciau yn hytrach na phlantos bychan yn yr un ysgol a babanod teirblwydd.

Pan symudais i, a phan symudodd fy meibion o'r Ysgol Fach i'r Ysgol Fawr roedd o'n garreg filltir ar y ffordd i brifiant. Roedd yn gam fawr mewn bywyd, yn cam lawer pwysicach na dim ond symud o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 neu symud o'r campws iau i'r campws hŷn, roedd yn Right of Passage. Rwy'n wir boeni y bydd amddifadu plant cefn gwlad Cymru o'r fath garreg filltir ar ffordd prifiant yn creu niwed cymdeithasol difrifol. Bydd perygl gwirioneddol na fydd plant yn tyfu fyny a dysgu derbyn cyfrifoldebau a dyletswyddau newydd yn yr ymarfer o ddyfod yn oedolyn.

Rwy'n falch bod Grŵp Plaid Cymru Ceredigion wedi gwrthwynebu'r fath erchyllbeth o adrefnant addysgol yn ardal Llandysul. Rwy'n mawr obeithio y byddant yn danfon y dystiolaeth a fu'n sail i'w gwrthwynebiad i'w cyfeillion yng Ngwynedd, lle mae Plaid Cymru yn cynnig creu ysgolion erchyll o debyg yn Nolgellau a Harlech.

2 comments:

  1. Be dw i ddim yn ei ddeall yw pam mai dim ond tua 30 o bobl aeth i gyfarfod y Cyngor ddoe i wrthwynebu'r cynllun.
    Oes 'na gefnogaeh gyffredinol iddo?
    Mae'n swnio'n afresymol iawn i mi.

    ReplyDelete
  2. Praint o bres fydd hwn yn ei arbed yn y pendraw? Ai athrawon neu brifathrawon sy'n cael eu talu gormod? Petai prif weithredwr y cyngor yn derbyn gostyngiad o ryw 20% a wedyn yn dal i gael dros £80,000 y flwyddyn, byddai'r £20,000 ychwanegol yma'n ddigon i ddiogelu ysgolion?

    ReplyDelete