12/07/2010

GT a rhagrith Maes-e!

Nos Sadwrn am 9 o'r gloch yr hwyr fe bostiodd Blog Menai post yn annog pobl i ail afael ar ddefnydd o fwrdd trafod Maes-e

Mae'r ffaith bod maes e wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar yn golled i'r graddau bod yna gymuned fach Gymraeg wedi peidio a bodoli i bob pwrpas. Yn wir mi fyddwn yn meddwl bod y maes yn gyfle prin i bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai Cymreig i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael bod yn rhan o gymuned Gymreig. Felly beth am fynd ati i gofrestru? - byddai'n braf adfywio'r fro fach Gymraeg yma.

Rwy'n cytuno 100%.

Mae Blog Menai yn awgrymu mae un o'r rhesymau am ddistawrwydd y parth o'r maes yr oedd ef a fi a Guto Bebb AS yn mynychu mwyaf yw efallai bod yr arfer o flogio yn un o'r rhesymau hynny.

Rwy'n anghytuno. Pan ddechreuais i flogio rhyw dair blynedd yn ôl roedd negeseuon ar barth Materion Cyfoes y Maes yn sbardun i nifer o bostiadau ar fy mlogiau. Diffyg ysbrydoliaeth o'r Maes yw rhan o'r rheswm paham bod cyn lleied o byst yn cael eu postio yma ac acw bellach.

GT yw ffug enw Blog Menai ar Maes-e. Er iddo ofyn i ddarllenwyr ei flog i ail afael ar ddefnydd o'r Maes 36 awr yn ôl, nid ydyw wedi defnyddio'r Maes ei hun ers yr wythfed o Ragfyr llynedd!

Rhagrithiwr!

Lle mae barn GT ar ymgeisyddiaeth Ron Davies ar ran y Blaid yng Nghaerffili?

Lle mae'r cwestiwn Cwis Bach Hanesyddol nesaf ar y parth y mae o'n ei gymedroli?

Be di pwynt o greu post blog yn gofyn i eraill i ail afael a'u defnydd o'r Maes heb wneud esiampl cyn postio?!

ON Rwy’n Mawr obeithio nad yw'r Gath yn teimlo ei fod ef yn oruwch trafodaethau'r Maes yn ei uchel arswydus swydd newydd!

5 comments:

  1. Twt, twt Alwyn dydi 0.74 post y diwrnod ddim llawer i frolio amdano - mae fwy o bostiadau gan GT na HRF.

    Os 'dwi'n cofio'n iawn mi roeddwn i'n postio rhywbeth fel 4 y diwrnod ar un amser. Diffyg ymateb ac arafwch ymateb a arweiniodd at y ffaith i mi bostio'n llai a llai mynych - a'r ffaith bod fy amser prin yn cael ei gymryd yn blogio.

    Efallai bod rhaid wrth dderyn glan i ganu.

    Ta waeth - efallai y gwneith dy flogiad i a fy un i helpu ychydig.

    ReplyDelete
  2. mae fwy o bostiadau gan GT na HRF Ers i ti postio dy anogaeth i bobl i ail afael ar ddefnydd o'r Maes y sgôr yw HRF 3 GT 0 - HRF yn gweithredu ar anogaeth BlogMenai a GT yn dewis ei anwybyddu!

    ReplyDelete
  3. Blogio? Meh.2:07 pm

    Lle mae Alwyn ap Huw ar Twitter? Dim trydar ers Ebrill 9fed a dim ond lincio i'r blog yma sydd yno beth bynnag? Syf methu pwynt trydaru.

    Yn y cyfamser mae yna gynulleidfa gref o beth bynnag 700 o siardwyr Cymraeg y trydar yn rheolaidd gyda'i gilydd tra fod 2 flogiwr yn methu deall lle aeth ei cynulleidfa nhw.

    Amser i ddal i fyny hogia...

    ReplyDelete
  4. Er bod gennyf gyfrif trydar prin fy mod yn ymweld ar safle, rwyf yn rhy hirwyntog i allu crynhoi syniadau i ddim ond 140 o lythrenau1 Mae'r amser byddwyf yn defnyddio'r cyfrifiadur, sef yn hwyr iawn y nos neu'n gynar iawn y bore yn gwneud o'n anodd i mi bod yn rhan o'r sgyrsiau byw sydd ar y safle hefyd. Ar wahan i hynny dwi jest ddim yn hoffi'r safle.

    ReplyDelete
  5. Ahem - mae cynulleidfa blogmenai yn uwch nag y bu erioed.

    Dydi postio yng nghanol y nos fel tylluan ddim yn ddefnyddiol iawn o ran maes e chwaith Alqwyn erbyn meddwl - un o'r pethau mwy defnyddiol am maes e ydi bod rhywun (neu o leiaf roedd rhywun) yn cael ymateb gweddol brydlon.

    ReplyDelete