31/07/2010

Es-Pedwar-Ec-Giât

Sori am y pennawd - ond mae'n rhaid wrth bob scandal gwerth ei halen ei Iât! Er gwaetha'r ffaith mae wal o ddistawrwydd yw prif nodwedd helynt S4C.

Fel pawb arall sydd wedi gwneud sylw am hynt a helynt S4C yn ystod y dyddiau diwethaf, nid oes gennyf clem be ddiawl sy'n digwydd yn y gorfforaeth.

Ond dyma ychydig o bethau yr wyf yn gwybod:

1) Sefydlwyd S4C oherwydd cefnogaeth y Cymry Cymraeg i'r cysyniad o Sianel Teledu Cymraeg. Heb ein deisebu, ein protestio, ein carcharu, bygythiad ein harwr i lwgu hyd at farw ac ati - byddai'r Sianel ddim yn bodoli. Yn fwy nag unrhyw sianel teledu arall yn y byd, crëwyd S4C gan ddyhead ei ddarpar wylwyr.

2) Bydd colli chwarter cyllid y Sianel yn ergyd drom iawn i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen deisebu ac ymgyrchu, protestio ac, o bosib, carcharu eto gan garedigion yr iaith, er mwyn sicrhau nad yw S4C yn cael ei ddienyddio o dan bolisiau mil-dorriadau'r ConDems.

3) Os ydym ni - garedigion y Sianel, y darpar ddeisebwyr, protestwyr a charcharorion yn cael ei'n trin fel madarch - yn cael ein cau yn y twyllwch a'n bwydo ar gachu - gan awdurdodau S4C bydd ein protestiadau yn ofer.

Tra fo Walter yn gwneud dim sylw, y mae o'n gadael cefnogwyr y Sianel heb Gaer i'w hamddiffyn!

Nid oes modd i'r Sianel barhau heb gefnogaeth brwd y Cymry Cymraeg - does dim modd cadw ac ysgogi ein cefnogaeth heb wybodaeth glir parthed be yn union sy'n digwydd - go iawn!

Os yw S4C am oresgyn rhaid i'r dirgelwch dod i derfyn RŴAN!

3 comments:

  1. Anonymous10:00 am

    Cytuno 100% - dylsai Ellis Roberts wedi gofyn a gofyn i John Walter beth ddiawl oedd yn digwydd. Gall cadeirydd cwmni sy'n cael 100% o'i arian gan drethdalwyr ddim 'dweud dim'. Dydy hynny ddim yn opsiwn.

    Dylse Ellis Roberts wedi sefyll ei dir a gadael i JW golli ei dymer. Gadawodd i JW ei fwlio.

    Gohebwyr BBC byth yn sefyll lan i'r Sefydliad Gymreig - mae'r un peth yn digwydd pan mae nhw'n cyfweld â Rhodri Morgan.

    ReplyDelete
  2. Anonymous4:13 pm

    Os ydi'r sibrydion yn wir, mae hi'n sgandal sy'n haeddu hanner awr o deledu prime time.

    ReplyDelete
  3. Fel dysgwraig sy'n defnyddio S4C fel 'ystafell ddosbarth' rwyf i, a llawer o ffrindiau' yn poeni am y sefyllfa ynglŷn â'r holl adnoddau Cymraeg. Mae'r papurau newyddion yn tynnu ein sylw at broblemau S4C heb ddweud y gwirionedd, ond beth sy'n digwydd yn y cefndir. Beth am gyrsiau sy'n methu cael eu trefnu, oherwydd diffyg arian, efallai dim ond un neu ddau mewn pob ardal, ond dros Gymru i gyd, bydd 'na lawer o adnoddau yn diflannu heb i ni sylweddoli.

    ReplyDelete