31/07/2010

Es-Pedwar-Ec-Giât

Sori am y pennawd - ond mae'n rhaid wrth bob scandal gwerth ei halen ei Iât! Er gwaetha'r ffaith mae wal o ddistawrwydd yw prif nodwedd helynt S4C.

Fel pawb arall sydd wedi gwneud sylw am hynt a helynt S4C yn ystod y dyddiau diwethaf, nid oes gennyf clem be ddiawl sy'n digwydd yn y gorfforaeth.

Ond dyma ychydig o bethau yr wyf yn gwybod:

1) Sefydlwyd S4C oherwydd cefnogaeth y Cymry Cymraeg i'r cysyniad o Sianel Teledu Cymraeg. Heb ein deisebu, ein protestio, ein carcharu, bygythiad ein harwr i lwgu hyd at farw ac ati - byddai'r Sianel ddim yn bodoli. Yn fwy nag unrhyw sianel teledu arall yn y byd, crëwyd S4C gan ddyhead ei ddarpar wylwyr.

2) Bydd colli chwarter cyllid y Sianel yn ergyd drom iawn i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen deisebu ac ymgyrchu, protestio ac, o bosib, carcharu eto gan garedigion yr iaith, er mwyn sicrhau nad yw S4C yn cael ei ddienyddio o dan bolisiau mil-dorriadau'r ConDems.

3) Os ydym ni - garedigion y Sianel, y darpar ddeisebwyr, protestwyr a charcharorion yn cael ei'n trin fel madarch - yn cael ein cau yn y twyllwch a'n bwydo ar gachu - gan awdurdodau S4C bydd ein protestiadau yn ofer.

Tra fo Walter yn gwneud dim sylw, y mae o'n gadael cefnogwyr y Sianel heb Gaer i'w hamddiffyn!

Nid oes modd i'r Sianel barhau heb gefnogaeth brwd y Cymry Cymraeg - does dim modd cadw ac ysgogi ein cefnogaeth heb wybodaeth glir parthed be yn union sy'n digwydd - go iawn!

Os yw S4C am oresgyn rhaid i'r dirgelwch dod i derfyn RŴAN!

26/07/2010

Be am ohirio'r refferendwm presennol er mwyn cael refferendwm sylweddol yn 2012?

Yr wythnos diwethaf, cefais wahoddiad i fod yn rhan o grŵp ffocws a gomisiynwyd gan y Comisiwn Etholiadol er mwyn casglu barn am eiriad y cwestiwn ar gyfer y darpar refferendwm ar Bwerau'r Cynulliad.

Roedd tua 20 o bobl yn y grŵp - pobl o gefndiroedd a barn wahanol. Roedd rhai ohonom yn gefnogwyr brwd i'r Cynulliad ac eraill am weld diddymu'r sefydliad. Ond roedd y cyfan o'r grŵp, ar wahân i fi, o dan yr argraff bod y refferendwm yn ymwneud â rhoi i'r Cynulliad yr un pwerau ac sydd gan Senedd yr Alban yn awr. O egluro eu bod yn anghywir, mae'r cyfan oedd y refferendwm yn trafod yw'r dull y mae'r Cynulliad yn caffael ar bwerau deddfu, a bod modd i'r Cynulliad, dros gyfnod, ennill yr holl hawliau - hyd yn oed pe bai 100% yn pleidleisio NA - roedd y grŵp cyfan yn credu bod y refferendwm yn wastraff llwyr o amser ac arian.

Roedd aelodau'r grŵp i gyd yn ddig eu bod wedi dod i'r cyfarfod gyda barn gref ar wrthwynebu neu gefnogi datganoli, dim ond i ganfod bod y drafodaeth parthed chwarae o gwmpas yn weinyddol yn hytrach na dim byd o sylwedd.

Oherwydd bod y llywodraeth bresennol yn awyddus i gysoni faint etholaethau San Steffan fydd rhaid diwygio Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan fod y ddeddf honno yn mynnu bod yn rhaid i etholaethau'r Bae a rhai San Steffan cael yr union un ffiniau.

Gan fydd rhaid gwella deddf 2006 yn fuan, beth am ychwanegu gwelliant i roi pwerau atodlen 7 i'r Cynulliad rŵan - heb yr angen am refferendwm, a chael refferendwm sylweddol mewn blwyddyn neu ddwy o amser i roi Pwerau'r Alban go iawn i'r Cynulliad, sef yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl, o ddwy ochr y ddadl, yn meddwl yw bwriad y refferendwm arfaethedig beth bynnag?

23/07/2010

Ble yn y byd mae Pooeley?

Newydd glywed hysbyseb mwyaf uffernol gan Rheilffordd y Cambrian yn cynnig teithiau golygfaol o Makinlic i Pooeley. Dydy rheolwyr y cwmni ddim yn gwirio'r fath hysbysebion cyn gadael iddynt gael eu darlledu, onid ydynt hwy yn deall bod caniatáu'r fath gam ynganu ar eu hysbysebion yn gwneud eu cwmni yn gyff gwawd? Cwbl hurt a gwarthus.

21/07/2010

MPinions – pwy yw'r hogiau newydd?

Mae Catch 21 yn sianel deledu ar y we sydd yn ceisio cyflwyno gwleidyddiaeth mewn ffordd sydd yn berthnasol i bobl ifanc. Prosiect newydd gan y sianel yw gofyn i bob un o'r 227 AS newydd i wneud fideo byr i gyflwyno eu hunain a'u syniadau i'w hetholwyr. Mae chwech o ASau eisoes wedi gwneud fideo MPinions, ond dim un o'r ASau Gymreig newydd eto, ysywaeth. Rwy’n edrych ymlaen at weld cyfraniadau tebyg gan Jonathan Edwards, Guto Bebb, Glyn Davies, Nick Smith ac ati, gobeithio y byddant oll yn fodlon cefnogi'r prosiect gwerth chweil 'ma.


Rwy'n ddiolchgar i flog the Vibe am dynnu fy sylw at waith Catch 21.

12/07/2010

GT a rhagrith Maes-e!

Nos Sadwrn am 9 o'r gloch yr hwyr fe bostiodd Blog Menai post yn annog pobl i ail afael ar ddefnydd o fwrdd trafod Maes-e

Mae'r ffaith bod maes e wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar yn golled i'r graddau bod yna gymuned fach Gymraeg wedi peidio a bodoli i bob pwrpas. Yn wir mi fyddwn yn meddwl bod y maes yn gyfle prin i bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai Cymreig i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael bod yn rhan o gymuned Gymreig. Felly beth am fynd ati i gofrestru? - byddai'n braf adfywio'r fro fach Gymraeg yma.

Rwy'n cytuno 100%.

Mae Blog Menai yn awgrymu mae un o'r rhesymau am ddistawrwydd y parth o'r maes yr oedd ef a fi a Guto Bebb AS yn mynychu mwyaf yw efallai bod yr arfer o flogio yn un o'r rhesymau hynny.

Rwy'n anghytuno. Pan ddechreuais i flogio rhyw dair blynedd yn ôl roedd negeseuon ar barth Materion Cyfoes y Maes yn sbardun i nifer o bostiadau ar fy mlogiau. Diffyg ysbrydoliaeth o'r Maes yw rhan o'r rheswm paham bod cyn lleied o byst yn cael eu postio yma ac acw bellach.

GT yw ffug enw Blog Menai ar Maes-e. Er iddo ofyn i ddarllenwyr ei flog i ail afael ar ddefnydd o'r Maes 36 awr yn ôl, nid ydyw wedi defnyddio'r Maes ei hun ers yr wythfed o Ragfyr llynedd!

Rhagrithiwr!

Lle mae barn GT ar ymgeisyddiaeth Ron Davies ar ran y Blaid yng Nghaerffili?

Lle mae'r cwestiwn Cwis Bach Hanesyddol nesaf ar y parth y mae o'n ei gymedroli?

Be di pwynt o greu post blog yn gofyn i eraill i ail afael a'u defnydd o'r Maes heb wneud esiampl cyn postio?!

ON Rwy’n Mawr obeithio nad yw'r Gath yn teimlo ei fod ef yn oruwch trafodaethau'r Maes yn ei uchel arswydus swydd newydd!

01/07/2010

Ysgol 3/19 cyntaf Cymru

Siom oedd darllen ar flog y Cyng. Alun Williams bod Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu bwrw ymlaen a phenderfyniad i greu un ysgol i holl blant a phobl ifanc ardal Llandysul. Bydd yr ysgol yn darparu ysgol i "blant" rhwng tair oed a phedwar ar bymtheg oed.

Rwy'n teimlo bod yna rhywbeth cynhenid ych a fi am y fath sefydliad!

Fel rhiant byddwn i ddim yn dymuno i'm plant, pan oeddynt yn fychan, i gael eu haddysgu yn y fath sefydliad. Mae'r syniad o ddanfon plentyn bach tair oed i ysgol lle mae disgyblion yn rhegi pob yn ail air, yn trafod eu ffug bywydau a'u dymuniadau rhywiol, yn cnoi gwm ac yn ysmygu yn wrthyn.

Gan fod fy epil bellach ymysg y rhai sydd yn rhegi pob yn ail air yn trafod eu ffug bywydau a'u dymuniadau rhywiol ac yn cnoi gwm (ond, ddim, hyd y gwyddwn, yn ysmygu!) yr wyf am iddynt deimlo eu bod ar ffin dyfod yn oedolion, eu bod yn laslanciau yn hytrach na phlantos bychan yn yr un ysgol a babanod teirblwydd.

Pan symudais i, a phan symudodd fy meibion o'r Ysgol Fach i'r Ysgol Fawr roedd o'n garreg filltir ar y ffordd i brifiant. Roedd yn gam fawr mewn bywyd, yn cam lawer pwysicach na dim ond symud o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 neu symud o'r campws iau i'r campws hŷn, roedd yn Right of Passage. Rwy'n wir boeni y bydd amddifadu plant cefn gwlad Cymru o'r fath garreg filltir ar ffordd prifiant yn creu niwed cymdeithasol difrifol. Bydd perygl gwirioneddol na fydd plant yn tyfu fyny a dysgu derbyn cyfrifoldebau a dyletswyddau newydd yn yr ymarfer o ddyfod yn oedolyn.

Rwy'n falch bod Grŵp Plaid Cymru Ceredigion wedi gwrthwynebu'r fath erchyllbeth o adrefnant addysgol yn ardal Llandysul. Rwy'n mawr obeithio y byddant yn danfon y dystiolaeth a fu'n sail i'w gwrthwynebiad i'w cyfeillion yng Ngwynedd, lle mae Plaid Cymru yn cynnig creu ysgolion erchyll o debyg yn Nolgellau a Harlech.