21/06/2010

Sut mae TAW yn dreth adweithiol?

Yr wyf yn cyfaddef nad wyf yn dda iawn efo symiau a fy mod yn drysu yn hawdd gan ddadleuon economaidd. Felly, yr wyf yn gobeithio y bydd rhywun yn gallu esbonio sylw a wnaed gan Roger Williams ar ddydd Sul ar y Politics Show a gan David Milliband heddiw ar The Daily Politics - bod codi cyfradd TAW yn godiad dreth adweithiol oherwydd bod ei heffaith yn cael ei deimlo fwyaf gan y tlotaf.

Os bydd person tlawd yn gwario £20,000 y flwyddyn a pherson cyfoethog yn gwario £200,000 byddwn yn tybio y byddai'r person cyfoethocach yn talu o leiaf 10 gwaith yn fwy mewn trethi pwrcas na'r person tlotach. Oherwydd bod TAW yn dreth bwrcas a godir ar nwyddau moethus yn unig, gyda nwyddau hanfodol yn cael ei heithrio, byddwn hefyd yn meddwl ei fod yn rhesymol i dybio y byddai'r person cyfoethocach yn gwario canran fwyaf o'i arian ar y pethau moethus tra bod y person tlotach gwario cyfran fawr o'i arian ar yr hanfodion sy'n cael eu heithrio o'r dreth. Os yw hyn yn wir, bydd y person cyfoethocach yn talu hyd yn oed mwy o ganran o'i arian ar dreth. Nid yw hyn yn ymddangos adweithiol nac yn anghymesur i mi; mae'n ymddangos yn deg ac yn gymesur. Felly sut mae Mr Williams a Mr Milliband dod i'w casgliadau bod TAW yn annheg i'r tlawd?

7 comments:

  1. Anonymous4:40 pm

    Yn ol ffugurau 2007/2008:
    "The effects of taxes and benefits on household income, 2007/08" http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_social/Taxes-Benefits-2007-2008/Taxes_benefits_0708.pdf (tudalen 13)
    Mae'r 10% cyfoethocaf yn talu £1 mewn bob £25 o'u hincwm ar TAW; mae'r 10% tlotaf yn talu £1 obob £7 o'u hincwm ar TAW.

    ReplyDelete
  2. Ia - mae TAW yn gyfartel i bawb o ran ei gyfradd - tra bod y cyfoethog yn talu cyfradd uwch ar dreth incwm.

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:29 pm

    Yn fy marn i mae "Menaiblog" yn cymylu deall dyn pan ddywaid uchod bod: " TAW yn gyfartal i bawb o ran ei gyfradd - tra bod y cyfoethog yn talu cyfradd uwch ar dreth incwm". Y gwir amdani yw bod TAW yn cael ei deimlo fwyaf gan y tlotaf yn ein cymdeithas yn hytrach na gan y cyfoethogion ynddi. Sut mae deall y paradocs ymddangosiadol hwnnw? Dyma fy eglurhad: Os yw dyn tlawd sydd yn ennill £100 bob wythnos yn talu TAW o £10 bob wythnos ar ei anghenion yna mae'n talu TAW o 10% o'i incwm bob wythnos. Ar y llaw arall, os yw dyn cyfoethog sydd yn ennill £1,000 yr wythnos yn talu TAW o £10 ar yr un anghenion yn union yna dim ond TAW o 1% mae ef yn ei dalu o'i incwm bob wythnos. Yn yr esiampl a gynigiais onid afraid yw gofyn ar bwy mae baich TAW drymaf ?

    Dafydd Llewelun Jones

    ReplyDelete
  4. Os rwy'n deall yr ymateb gan Dienw 4:40 a Dafydd porthor yn iawn y "gwyn" yn erbyn TAW fel treth deg yw bod y tlotyn yn debygol o wario ei holl incwm, ac felly yn talu'r dreth ar y cyfan o'i enillion, ond bydd yr un well ei fyd yn cynilo rhywfaint o'i incwm a gan hynny bydd o ddim yn talu treth pwrcas ar y canran yno o'i enillion sy'n cael eu cadw?

    Ond onid oes gwendid yn y ddadl yma?

    Os yw dyn yn rhoi hanner ei enillion ar adnau yn y banc i'w cadw at ei benwynni oni fyddai'n talu treth bwrcas o'r arian yna pan ddaw'r dydd i'w dynnu o'r banc a'i wario?

    ReplyDelete
  5. Anonymous9:51 pm

    Na, dydi o ddim byd i wneud efo cynilon, ond yn hytrach i'w wneud efo canrhan y 'disposable income' sydd yn mynd ar dreth.

    Er gwaethaf y ffaith nad oes TAW ar rhai nwyddau hanfodol (diodydd a bwyd, bwyd anifeiliaid, hadau, planhigion, ymarfer corff, antiques (!), gofal iechyd, yswiriant, tir, ac eraill); mae yna raddfa llai o 5% ar rai pethau hanfodol megis ynni, nwyddau gofal plant ac eraill.

    Y pwynt yw fod yna lwyth o bethau eraill y mae pobl yn eu defnyddio yn eu bywydau beunyddiol - ffon, tanwydd (petrol), ceir, celfi, dillad, ayb sydd gyda'r gyfradd uchaf o DAW.

    Mae'r canrhan o'r 'disposable income' y mae person cyfoethog yn ei wario felly ar DAW yn llai na'r canrhan o'r disposable income y mae person mwy tlawd yn ei wario.

    Mae hefyd yn dreth sydd yn taro cymunedau gwledig yn fwy na chymunedau trefol am fod rhai nwyddau a gwasanaethau sydd yn hanfodol ar gyfer bywyd gwledig ddim yn 'exempt' ond nad ydynt mor hanfodol i fywyd trefol - yr amlycaf yw'r dreth ar y gwahanol fathau o ynni a thanwydd.

    Mae hefyd yn werth nodi fod pobl sydd yn rhedeg eu busnesau eu hun gyda'r gallu i hawlio TAW yn ol trwy eu busnes ar nifer o nwyddau - boed hynny'n gyfreithlon neu'n anghyfreithlon (yr amlycaf oedd cyfaddefiad Frank Skinner yr wythnos diwethaf ei fod wedi talu £11,000 am un o grysau Elvis ac wedi ei wisgo ar y teledu unwaith, gan eu alluogi i hawlio y TAW yn ol arno am ei fod yn rhan o ddeunydd ei waith!).

    Nid TAW yw math mwyaf 'regressive' o drethi mae hynny'n wir. Hefyd, os ydy'r tlotaf am warafun eu hunain o ambell i bleser yn eu bywydau, a gwnio eu dillad yn amlach yn hytrach na phrynu dillad newydd, a chyfyngu eu deunydd o wres a dwr berw, a pheidio a theithio gormod a thyfu eu bwyd; a phostio yn lle ffonio, gellir gadael i'r cyfoethog i yfed ei champaign, i brynu tir (heb dalu treth), i brynu eu celfi dridfawr hynafol (eto, heb dalu treth), a mwynhau y 'finer things in life' (does dim TAW ar Opera, gyda llaw) heb orfod cael y peski tlodion yma yn amharu ar eu mwynhad am eu bod nhw yn mynd i fod yn rhy brysur yn tyfu ceirch er mwyn berwi llymri (heb dalu treth...heblaw am y'r nni i ferwi'r llymri!)

    ReplyDelete
  6. Anonymous12:02 am

    Ti'n camddallt natur TAW - sef ei fod yn "flat tax".

    Be sy isio ydi "Luxury VAT" ar bethau fel ceir sy'n costio dros 15k, motorboats a stwff drud.

    ReplyDelete
  7. Anhysbys 12:02, rwyt ti wedi cynyddu fy nryswch. Os yw treth pwrcas, lle mae unigolyn yn talu'r un gyfradd o dreth ond cyfanswm gwahanol, sy'n ddibynnol ar faint mae o'n pwrcasu yn dreth fflat, beth yw treth megis y drwydded teledu neu'r hen dreth gymunedol (y poll tax) lle'r oedd pawb yn talu'r un swm o arian ta waeth beth oedd ei incwm?

    Mae TAW i fod i gael elfen o dreth moethusrwydd yn perthyn iddi, ond fel mae Anhysbys 9:15 yn nodi mae'r diffyniad o foeth yn ddryslyd iawn. Mae cacen yn anghenraid sydd yn rhydd o DAW, tra bod bisged yn foethusrwydd sydd yn denu'r dreth! Os na allent fforddio cacen gad iddynt fwyta 'sgeden fel bu frenhines enwog bron a dweud rhywle rhywbryd!

    Fel mae 9:15 yn nodi mae dodrefn rhad, megis y pethau rydych yn prynu mewn pecynnau am £100 ac yn gorfod eu gosod eich hunain o fanylion anghywir a sgriw syn brin yn denu TAW, tra fo dodrefn cadarn o gyfnod y Frenhines Anne sy'n costio £100,000 yn cael eu hystyried fel hen rwtsh ail law, a gan hynny, yn rhydd o dreth.

    Mae dillad i blant yn angenrheidiol ac yn di DAW, mae dillad i oedolion yn cael eu cyfrif fel moethau trethadwy - er gwaetha'r ffaith y byddai ymwrthod a'r fath moethau yn eich glanio yn y cwrt am ymddygiad anweddus! Sefyllfa sy'n cael ei drysu braidd gan fod y fath beth a dillad moethus ar gael a bod ambell i oedolyn yn ddigon bach i wisgo dillad plant ac ambell i blentyn yn rhy fawr o lawer i wisgo dillad plant!

    Un o'r pethau mwyaf od, i'm tyb i, yw'r faith bod cadachau misglwyf yn cael eu trethu fel nwyddau moethus. Yr wyf yn hynod falch fy mod i yn gallu byw heb yr angen am y fath moethusrwydd!

    Yn sicr mae'r ffordd mae'r penderfynu rhwng anghenraid a moeth bresenol yn chwerthinllyd o sâl, ac mae angen ei sortio, ond o'i sortio a fydda TAW ar wir foethau bywyd yn parhau i fod yn annheg i'r tlawd?

    ReplyDelete