05/06/2010

Polisi Cyfartaledd Iaith y GIG?

Dyma sgan o fersiwn Ochor Cymraeg llythyr a danfonwyd i gyfaill imi yn niweddar:



Be 'di pwynt polisi ddwyieithog lle mae'r blychau sydd yn cynnwys y wybodaeth sy'n unigryw i'r derbynnydd yn y Saesneg ar ochor Gymraeg y ffurflen?

Reitiach byddid i'r wybodaeth cael ei ddanfon yn uniaith Saesneg na gorfod dioddef y fath doconistiaeth sarhaus o ddwyieithrwydd!

3 comments:

  1. Wi'n anghytuno a ti fyn'na Alwyn - ma'n rhwyddach o lawar sorto rwpath fel 'ny mas na mynd nol at ffurflenni uniaith Saesneg.

    Ti'n ymatab fel rwyn sy'n pwdu pwdin reis ac yng ngeiriau'r Sais - you're just cutting off your nose to spite your face - ne' fel ma nhw'n gweud yng Nghwm Rhondda - ti jyst yn tshopan off trwyn ti i weud bw! wrth y gwynab salw 'ny sy da ti -:)

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:50 am

    Byddai modd deall y ffurflen a'r wybodaeth pwysig petai ti'n uniaith Gymraeg? Na. Felly mae'r ffurflen yn fethiant.

    ReplyDelete
  3. Ddim yn berffaith, ond gwell na 20 blynedd yn ol.

    ReplyDelete