23/06/2010

Gwarth y Gymraeg Mewn Addysg yn Sir Conwy!

Yn ystod y gaeaf llynedd bu panic ffliw'r moch. Yn ystod yr un cyfnod dechreuodd fy mab ieuengaf dangos symptomau asthma - salwch cynhenid yn ach ei famau. Gofynnwyd am gymorth meddygol i'r hogyn ar sawl achlysur - ond fe'i gwrthodwyd - rhag ofn mae'r ffliw moch oedd achos ei beswch yn hytrach na'r hyn yr oeddem yn gwybod, yn gywir, oedd y gwir achos.

Cawsom ein siarsio gan yr awdurdodau iechyd i gadw'r hogyn o'r ysgol rhag ofn, yn wir cawsom ein siarsio i beidio a gadael i'w frawd mynychu'r ysgol chwaith rhag ofn.

Fe drodd y ffỳs am ffliw'r moch yn ddim o beth ac yn gôr ymateb dibwys ym mhen y rhawg, wrth gwrs.

Syfrdan i mi oedd cael llythyr gan Cyngor Sir Conwy yn mynnu fy mod yn ymateb i gŵyn o ddiffyg presenoldeb fy mhlant yn yr ysgol dros gyfnod panic ffliw'r moch - er gwaetha'r ffaith fy mod wedi dweud wrth yr ysgol mae asthma oedd achos peswch y mab ac mae ôr ymateb oedd y panic ffliw'r moch!

Oherwydd bod gorfodaeth y gwasanaeth iechyd i gadw'r plant o'r ysgol yn cyd daro ar orfodaeth yr ysgol i sicrhau lefel uchel o bresenoldeb cefais wŷs i drafod lefel absenoldeb y plant efo Swyddog Llesiant Plant yr Ysgol - digon teg - yr oeddwn yn fwy na bodlon trafod y trafferthion efo'r ysgol.

O gyrraedd y cyfarfod - mewn Ysgol Cymraeg, cefais wybod nad oedd y Swyddog Lles yn gallu defnyddio'r Gymraeg! Wrth gwrs bu cwyn gennyf am y fath wasanaeth gwachul i riant Cymraeg, i blant Cymraeg mewn ysgol Cymraeg!

Yr ymateb cefais oedd fy mod yn very angry parent who puts his own perceived rights above the educational needs of his children! Myn diagni!

Mae'n wir fy mod wedi mynnu fy hawl am wasanaeth Cymraeg yn di flewyn ar dafod, mae'n wir fy mod wedi bod yn very angry. Ond wedi ymladd ac wedi ennill yr un frwydr yn ol yn y 1970au, credaf fod gennyf hawl i fod yn hynod flin am orfod ail ymladd yr un hen gach o fewn sefydliad, megis Ysgol y Creuddyn, sy'n honni ei fod yn hyrwyddo defnyddioi'r Gymraeg, deugain mlynedd yn diweddarach!

4 comments:

  1. Mae hynny'n warthus ac ond yn dyst i ba mor anodd y mai hi i fyw bywyd yn hollol drwy y Gymraeg, rydym yn dod ar draws rwystrau o hyd ac o hyd ac maent wedyn yn straffaglu a phendroni dros bam does neb yn defnyddio'r Gwasanaethau (tocenistig sydd ddim yn bodoli) yma. Y drafferth yw nid yw pawb yr un mor benderfynol a thithau a minnau ac wedyn maent yn dod i'r arfer a defnyddio'r Saesneg, Mae'n warthus!. Da iawn chi am wneud cwyn a herio'r drefn, beryg mae cyngor rhannol llafur yw Conwy? Base hynny'n egluro lot!

    ReplyDelete
  2. Anonymous1:11 pm

    gobeithio bo ti'n mynd i fynd a hwn yn bellach. Mae agwedd 'arrogant' felly yn sarhaus ac yn 'out of order'

    ReplyDelete
  3. "Perceived rights!" Ai "perceived rights" y bwli ieithyddol o whipper-in oedd yn ei arwain i ddelio â rhiant yn y dull haerllug hwnnw.

    Gwarthus. Angen rhywfaint o "sensitivity training" arno mae'n debyg.

    ReplyDelete
  4. Anonymous8:51 pm

    Beth mae Ysgol y Creuddyn efo i'w ddweud? Fel cyn-ddisgybl mae hwn yn fy mhryderu. A yw llywodraethwyr yr ysgol yn gwybod am eich trafferthion a sarhâd?

    ReplyDelete