30/06/2010

Problemau Brifysgol

Rwyf wedi fy nrysu'n llwyr gan ddatganiad Leighton Andrews parthed Addysg Uwch heddiw. Am yr ychydig ddyddiau y bûm yn efrydydd mewn prifysgol dim ond un brifysgol oedd yng Nghymru - sef Prifysgol Cymru.

Dim ond tair blynedd yn ôl, yn 2007, penderfynwyd bod angen i Golegau Prifysgol Bangor, Aber ac ati i ddyfod yn Brifysgolion annibynnol er mwyn iddynt ennill mwy o arian ymchwil, myfyrwyr tramor ac adnoddau allanol ac ati.

Heddiw mae Leighton Andrews yn dweud bod angen i Brifysgolion uno er mwyn denu'r un dibenion.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch dros annibyniaeth y colegau fel Prifysgolion ar wahân. Yr Athro Merfyn Jones oedd arweinydd ymgyrch annibyniaeth Coleg Bangor.

HEFCW, yn ôl Mr Andrews, sydd yn gyfrifol am yr ymgyrch newydd i uno'r prifysgolion ac mae Merfyn wedi ei benodi fel ymgynghorydd ar uno!

Hwyrach fy mod yn rhy dwp i ddeall problemau brifysgol gan nad ydwyf wedi fy mendithio ag addysg o'r fath. Ond os nad oedd Prifysgol Unedig yn gallu denu cyllid ymchwil digonol, ac os nad yw nifer o fan brifysgolion yn denu digon o gyllid ymchwil, onid oes angen ymateb gwell i'r broblem denu cyllid nag ail adrefnu prifysgolion o fewn tair blynedd i'r adrefnu diwethaf?

Hyd y gwelaf i, y broblem fwyaf sydd gan Prifysgolion Cymru yw methiant Glyndŵr i sefydlu Prifysgol Hynafol yn y 15fed ganrif, a bod yr ymgyrch i greu prifysgolion ers y 19ed ganrif wedi bod yn un rhyddfrydol o gyfartaledd pob coleg.

Yr hyn sydd gyda ni yng Nghymru o'r herwydd yw 14 o Brifysgolion canolig-cyffredin.

Yn hytrach nag uno a chynghreirio, onid yr ateb yw dethol dau neu dri o'r Colegau - Aber, Caerdydd a'r Ffederal, dywedir a cheisio eu codi i lefel prif gynghrair yn hytrach na cheisio ail strwythuro, eto, i geisio cael gwell addysg brifysgolion cyfartal cyffredin ym mhobman?

25/06/2010

Cyfrifiad Cymru 1911 ar gael ar lein yn ddi-dâl?

Wrth edrych yn blygeiniol ar fy nghopi cyfredol o Golwg sylwais ar erthygl fer iawn ar dop dde tudalen 9:

Golwg ar Fywyd Can Mlynedd yn Ôl
O yfory (dydd Gwener) mae manylion Cyfrifiad 1911 ar gael am ddim ar lein. Fe fydd yn wybodaeth hanfodol wrth ymchwilio i hanes teuluol ar wefan Archifau Cymru
www.archifaucymru.org.uk
Yr wyf wedi rhoi clec ar y ddolen, ond nid oes son am y cyfrifiad yno eto, ond mae'n parhau i fod yn gynnar y bore'! Os yw'r erthygl yn gywir mi fydd yn newyddion da iawn i achyddion Cymru.

Diweddariad
Mae'n debyg bod Golwg wedi cam ddeall y sefyllfa. Ers dydd Gwener mae mynediad i'r cyfrifiad ar lein wedi bod ar gael yn di dal yn archifdai Cymru. I gael mynediad o gyfrifiad personol mae'n rhaid talu o hyd! Siom!

23/06/2010

Gwarth y Gymraeg Mewn Addysg yn Sir Conwy!

Yn ystod y gaeaf llynedd bu panic ffliw'r moch. Yn ystod yr un cyfnod dechreuodd fy mab ieuengaf dangos symptomau asthma - salwch cynhenid yn ach ei famau. Gofynnwyd am gymorth meddygol i'r hogyn ar sawl achlysur - ond fe'i gwrthodwyd - rhag ofn mae'r ffliw moch oedd achos ei beswch yn hytrach na'r hyn yr oeddem yn gwybod, yn gywir, oedd y gwir achos.

Cawsom ein siarsio gan yr awdurdodau iechyd i gadw'r hogyn o'r ysgol rhag ofn, yn wir cawsom ein siarsio i beidio a gadael i'w frawd mynychu'r ysgol chwaith rhag ofn.

Fe drodd y ffỳs am ffliw'r moch yn ddim o beth ac yn gôr ymateb dibwys ym mhen y rhawg, wrth gwrs.

Syfrdan i mi oedd cael llythyr gan Cyngor Sir Conwy yn mynnu fy mod yn ymateb i gŵyn o ddiffyg presenoldeb fy mhlant yn yr ysgol dros gyfnod panic ffliw'r moch - er gwaetha'r ffaith fy mod wedi dweud wrth yr ysgol mae asthma oedd achos peswch y mab ac mae ôr ymateb oedd y panic ffliw'r moch!

Oherwydd bod gorfodaeth y gwasanaeth iechyd i gadw'r plant o'r ysgol yn cyd daro ar orfodaeth yr ysgol i sicrhau lefel uchel o bresenoldeb cefais wŷs i drafod lefel absenoldeb y plant efo Swyddog Llesiant Plant yr Ysgol - digon teg - yr oeddwn yn fwy na bodlon trafod y trafferthion efo'r ysgol.

O gyrraedd y cyfarfod - mewn Ysgol Cymraeg, cefais wybod nad oedd y Swyddog Lles yn gallu defnyddio'r Gymraeg! Wrth gwrs bu cwyn gennyf am y fath wasanaeth gwachul i riant Cymraeg, i blant Cymraeg mewn ysgol Cymraeg!

Yr ymateb cefais oedd fy mod yn very angry parent who puts his own perceived rights above the educational needs of his children! Myn diagni!

Mae'n wir fy mod wedi mynnu fy hawl am wasanaeth Cymraeg yn di flewyn ar dafod, mae'n wir fy mod wedi bod yn very angry. Ond wedi ymladd ac wedi ennill yr un frwydr yn ol yn y 1970au, credaf fod gennyf hawl i fod yn hynod flin am orfod ail ymladd yr un hen gach o fewn sefydliad, megis Ysgol y Creuddyn, sy'n honni ei fod yn hyrwyddo defnyddioi'r Gymraeg, deugain mlynedd yn diweddarach!

Cwestiwn Dyrys am Iechyd

Gan fod y salwch Parkinson's Disease wedi ei enwi ar ôl yr un a darganfuwyd y clefyd sef Dr James Parkinson a'r salwch Crohn's Disease wei ei enwi ar ôl yr un a darganfuwyd y salwch sef Dr Burrill Bernard Crohn a'i Cymro o'r enw Dr Dai ab Utys oedd darganfyddydd y clwyf melys?

21/06/2010

Sut mae TAW yn dreth adweithiol?

Yr wyf yn cyfaddef nad wyf yn dda iawn efo symiau a fy mod yn drysu yn hawdd gan ddadleuon economaidd. Felly, yr wyf yn gobeithio y bydd rhywun yn gallu esbonio sylw a wnaed gan Roger Williams ar ddydd Sul ar y Politics Show a gan David Milliband heddiw ar The Daily Politics - bod codi cyfradd TAW yn godiad dreth adweithiol oherwydd bod ei heffaith yn cael ei deimlo fwyaf gan y tlotaf.

Os bydd person tlawd yn gwario £20,000 y flwyddyn a pherson cyfoethog yn gwario £200,000 byddwn yn tybio y byddai'r person cyfoethocach yn talu o leiaf 10 gwaith yn fwy mewn trethi pwrcas na'r person tlotach. Oherwydd bod TAW yn dreth bwrcas a godir ar nwyddau moethus yn unig, gyda nwyddau hanfodol yn cael ei heithrio, byddwn hefyd yn meddwl ei fod yn rhesymol i dybio y byddai'r person cyfoethocach yn gwario canran fwyaf o'i arian ar y pethau moethus tra bod y person tlotach gwario cyfran fawr o'i arian ar yr hanfodion sy'n cael eu heithrio o'r dreth. Os yw hyn yn wir, bydd y person cyfoethocach yn talu hyd yn oed mwy o ganran o'i arian ar dreth. Nid yw hyn yn ymddangos adweithiol nac yn anghymesur i mi; mae'n ymddangos yn deg ac yn gymesur. Felly sut mae Mr Williams a Mr Milliband dod i'w casgliadau bod TAW yn annheg i'r tlawd?

17/06/2010

Y Blaid yn ennill gwarant o gwestiwn i'r Prif Weinidog

Dydd Iau diwethaf mi nodais fy nryswch parthed y ffaith bod ail blaid y wrthblaid, pan oedd y Rhyddfrydwyr a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd, yn y safle yna yn cael gofyn dau gwestiwn i'r prif weinidog pob wythnos a bod yr hawl yna heb ei roi i'r ail blaid neu'r ail grŵp mwyaf ers i'r Rhydd Dems ymuno a'r glymblaid lywodraethol.

Mi nodais:

Os oedd gan y Rhyddfrydwyr hawl i ofyn cwestiwn dwywaith yr wythnos, hyd yn oed pan nad oedd ganddynt ddim ond 6 aelod, yn sicr dylid sicrhau bod gan arweinydd y DUP hawl i ofyn un cwestiwn pob wythnos ac arweinwyr Plaid a'r SNP yr un hawl pob yn ail wythnos!

Yn ei hanerchiad i'r Cynulliad ddoe fe nododd Cheryl Gillian y bydd Plaid Cymru, yr SNP a'r DUP yn cael gwarant o un cwestiwn ar rota o dair wythnos. Dim cweit be oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol cynt, ond yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir ac yn rhywbeth i'w croesawu.

12/06/2010

RIP Maes-E?

Ers bron i wythnos bellach mae bathodyn Maes-E ar ochor uchaf fy mlog wedi diflannu, ac o geisio cysylltu â Maes-E rwy'n cael neges i ddweud nad yw'r safle ar gael bellach!

A'i blip dros dro ydyw, neu a ydy Maes-E wedi marw ac wedi diflannu o dir y rhithfro am Fyth Bythoedd Amen?

11/06/2010

Difa Moch Daear

Mae'r diciâu yn afiechyd ffiaidd, mae'n achosi poeri gwaed, gôr boethder, gôr flinder, a cholli pwysau difrifol. Mae'r bacteriwm sydd yn achosi'r ddarfodedigaeth yn un sydd yn magu'n araf o'i gymharu â bacteria afiechydon eraill, sydd yn golygu bod yr afiechyd yn un sy'n lladd yn araf ac yn boenus dros gyfnod hir.

Fel un sydd yn hoff iawn o foch daear byddwn i ddim yn dymuno i'r un broc dioddef y fath marwolaeth hir a phoenus, dyna paham nad ydwyf yn ddeall y gwrthwynebiad gan rai sydd yn honni eu bod yn gefnogwyr i foch daear i'r polisi difa moch daear a gwartheg sydd yn dioddef o'r haint.

Bydd y difa yn sicrhau buches iach sy'n rhydd o'r haint erchyll ac yn sicrhau poblogaeth o foch daear sy'n iach o'r haint.

Dydy gwrthwynebu'r difa ddim yn mynd i achub y fuches na'r set, mae'n mynd i arwain at fwyfwy o wartheg a moch daear yn farw o afiechyd hir a phoenus, ac o bosib i'r afiechyd dieflig ehangu ymysg y boblogaeth ddynol.

Mae gwrthwynebu pob ymdrech i gael gwared â'r haint y tu hwnt i'm ddirnad i, ac rwy'n methu'n glir a deall sut mae’r fath wrthwynebiad yn cael ei werthu fel cefnogi lles anifeiliaid!

10/06/2010

Sesiwn Fach Dolgellau - 17+18/7/10

Neges gan pwyllgor Apel y Sesiwn Fawr:

Ar benwythnos y 17 a 18 o Orffennaf bydd y Sesiwn Fach yn cael ei gynnal yn Nolgellau.

Cymysgedd o gigiau a sesiynnau jamio o amgylch tafarndai y dref - beth gwell?!

Bwriad yr wyl fydd ceisio codi'r Sesiwn Fawr yn ol i'w thraed er mwyn denu cerddoriaeth y byd unwaith eto i Ddolgellau yn 2011!

Mae'r lein-yp wrthi'n cael ei drefnu a gobeithio bydd y trefniadau terfynol yn cael ei gyhoeddi ymhen wythnos.

Gofynnwn i chi basio'r neges ymlaen i'ch ffrindiau a denu hwyl a bwrlwm y Sesiwn yn ol i Ddolgellau a Meirionnydd unwaith eto.

Diolch,

Pwyllgor Apel SFD

Dryswch Cyfansoddiadol

Yn y dyddiau pan oedd Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cael eu gofyn dwywaith yr wythnos roedd gan arweinydd y Blaid Ryddfrydol yr hawl i ofyn un cwestiwn mewn pob sesiwn, fel yr ail wrthblaid. Hyd yn oed yn nyddiau Joe Grimond pan nad oedd gan y Rhyddfrydwyr dim ond 6 aelod dyna oedd y drefn.

Pan benderfynwyd cael un sesiwn hanner awr yn hytrach na ddau sesiwn chwarter awr i'r PMQ's cafodd arweinydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd hawl i ofyn dau gwestiwn ym mhob sesiwn, gan ei fod yn arweinydd ail blaid yr wrthblaid.

Y DUP, bellach, yw ail blaid fwyaf yr wrthblaid, ond grŵp Plaid/SNP yw ail grŵp mwyaf yr wrthblaid. Gan hynny mi fydda ddyn yn disgwyl i'r drefn caniatáu naill ai'r DUP neu Plaid/SNP yr hawl i ofyn dau gwestiwn, gan fod y Rhyddfrydwyr bellach yn rhan o'r llywodraeth.

Er hynny ni chafodd arweinwyr yr un o'r tair plaid eu galw i ofyn un cwestiwn i'r Prif Weinidog ar Fehefin 2il, heb son am ddau. Cafwyd un cwestiwn gan Nigle Dodds dirprwy arweinydd y DUP, ni chafwyd cyfraniad gan aelod o'r SNP na Phlaid.

Ar Fehefin 9fed nis cafwyd cwestiwn gan unrhyw aelod o'r DUP yr SNP na Phlaid. Rhaid gofyn pam?

Os oedd gan y Rhyddfrydwyr hawl i ofyn cwestiwn dwywaith yr wythnos, hyd yn oed pan nad oedd ganddynt ddim ond 6 aelod, yn sicr dylid sicrhau bod gan arweinydd y DUP hawl i ofyn un cwestiwn pob wythnos ac arweinwyr Plaid a'r SNP yr un hawl pob yn ail wythnos!

09/06/2010

Y Gath yn Bwrw ei Swildod

Llongyfarchiadau i Guto Bebb AS ar gyflwyno ei araith forwynol i Dŷ'r Cyffredin ddoe. Yn unol â thraddodiad y sefydliad doedd yr araith ddim yn un controfersial, ond da oedd clywed Guto yn talu teyrnged i'r Iaith ac yn nodi pwysigrwydd dysgu hanes lleol a Chymreig yn yr ysgolion (er gwaetha'r ffaith bod addysg wedi ei ddatganoli).

Mae trawsgrifiad o'r araith i'w gweld yma:
http://www.theyworkforyou.com/debate/?id=2010-06-08a.227.0

07/06/2010

Gwynt y Môr – Dim Diolch!

Wedi dychwelyd o fy nhaith i wlad bell mi glywaf fod prosiect Gwynt y Môr i osod 160 o drybini gwynt ar arfordir Llandudno wedi ei basio a bydd y gwaith yn cychwyn cyn pen y flwyddyn nesaf.

Croesawyd y newyddion gan Ieuan Wyn Jones a Cheryl Gillan, a gan nifer o flogwyr Cymreig. Mae'n ddrwg gennyf dorri'r consensws o groeso, rwy'n credu bod y newyddion yn newyddion ddrwg i Gymru.

Nid ydwyf yn gyffredinol wrthwynebus i brosiectau fferm gwynt, rwy'n derbyn bod modd i brosiectau o'r fath dod a bendithion mawr i'r amgylchedd, ond yr wyf hefyd yn deall y gwrthwynebiad i'r prosiect. Gall y sŵn a'r effaith ar drem y môr bod yn niweidiol i bobl leol ac i dwristiaeth, sef asgwrn cefn yr economi lleol. Ni wnaed unrhyw ymchwil i effaith tynnu egni allan o'r gwynt cyn iddi gyrraedd y tir ar yr hinsawdd leol.

Wrth gwrs mae'r ddadl bod holl fanteision y prosiect yn curo ei hanfanteision, o gael eu mesur yn y glorian, yn un dechau, ac un rwy'n dueddol o gytuno a hi. Ond megis yn achos dŵr ac achos glo bydd Cymru yn goddef yr holl anfanteision tra bo eraill yn derbyn y bendithion. Bydd Cymru yn derbyn 1% pitw o werth economaidd Gwynt y Môr tra'n ddioddef 100% o agweddau negyddol y prosiect.

Yn hytrach na chroesawu prosiect o'r fath byddwn yn disgwyl i blaid genedlaethol, megis Plaid Cymru, i fod ar dân yn protestio yn erbyn enghraifft arall o adnoddau naturiol ein gwlad yn cael eu hecsploetio er bydd eraill!

05/06/2010

Polisi Cyfartaledd Iaith y GIG?

Dyma sgan o fersiwn Ochor Cymraeg llythyr a danfonwyd i gyfaill imi yn niweddar:



Be 'di pwynt polisi ddwyieithog lle mae'r blychau sydd yn cynnwys y wybodaeth sy'n unigryw i'r derbynnydd yn y Saesneg ar ochor Gymraeg y ffurflen?

Reitiach byddid i'r wybodaeth cael ei ddanfon yn uniaith Saesneg na gorfod dioddef y fath doconistiaeth sarhaus o ddwyieithrwydd!