03/05/2010

Yr Arweinwyr Cymreig ar y BBC

Mae'n rhaid dweud fy mod i wedi fy siomi ar yr ochr orau efo dadl yr Arweinwyr Cymreig ar y BBC heno. Yn wahanol i'r rhai Prydeinig roedd y drafodaeth yn ddiddorol ac roedd gan bob un o'r cynrychiolwyr rhywbeth werth ei gyfrannu i'r drafodaeth.

Yn hytrach na theimlo bod un cynrychiolydd o un o'r pleidiau wedi ennill, fy nheimlad i oedd un o falchder bod pobl Cymru yn cael eu sbwylio o ran ddewis mor wych o ran pob un o'r pedwar prif blaid ac ambell un o'r pleidiau llai.

Pan fo'r cyfryngau Llundeinig yn llawn o hanesion o golli ffydd mewn gwleidyddiaeth, a chynrychiolwyr yno i gael eu cael yn hytrach na chynrychioli'r bobl, roedd gweld y prif arweinwyr Cymreig yn dadlau am yr hyn sydd orau i Gymru ac yn gwneud hynny o'r galon, fel chwa o awyr iach trwy'r ymgyrch etholiadol cyfredol.

Roedd gan Peter Hain mynydd i ddringo, mae'n anodd i gynrychiolydd plaid sydd wrth y llyw i ofyn am ragor o amser i wneud yr hyn nad ydoedd wedi ei wneud yn y gorffennol, yn arbennig o anodd pan fo'r etholiad yn cael ei gynnal mewn amgylchiadau pan fo llawer yn credu bod y wladwriaeth yn y cac. Fe lwyddodd Peter yn anhygoel i amddiffyn Llafur, o dan y fath amgylchiadau.

Os mae anawsterau teithio neu beidio oedd yn gyfrifol am Nick Bourn yn cael gwahoddiad i gynrychioli'r Ceidwadwyr, neu'r ffaith bod Cheryl Gillian wedi bomio yn y ddwy ddadl flaenorol, rwy'n sicr bydd y Torïaid yn falch bod Nick wedi cymryd ei lle. Fe lwyddodd i gyflwyno safbwynt y Ceidwadwyr mewn modd Unoliaethol, Cymreig a lleol yn benigamp.

Yn y ddwy ddadl Gymreig flaenorol yr oeddwn yn teimlo bod Kirsty Williams wedi or ecseitio weithiau, yn gwillyd ac yn cael anhawster i gyflwyno pwyntiau digon sylfaenol mewn modd didwyll a rhesymegol. Roedd ei chyfraniadau yn brennaidd ac wedi eu hymarfer o flaen llaw. Ond heno roedd hi ar ben ei gêm, wedi taflu'r sgript ac yn dweud ei ddweud gydag argyhoeddiad.

Ac Ieuan Wyn! Wow! Er nad ydyw ddim ond yn Ddirprwy Brif Weinidog roedd o'n ymateb fel Arlywydd! Roedd ei wybodaeth o'r ffeithiau, ei gallu i gyfaddawdu lle'r oedd cyfaddawd yn ddoeth ac i sefyll ar wahân i'r tri arall lle'r oedd angen barn annibynnol yn wefreiddiol wych.

Os oes angen rhoi marciau byddwn yn dweud mai Ieuan wnaeth ennill, Nick yn ail, Kirsty yn drydedd, a Peter yn olaf, ond mae dim ond trwch blewyn gwybedyn oedd y gwahaniaeth rhwng Ieuan a Peter.

Rhaglen arbennig - y gwir enillwyr oedd BBC Cymru a Betsan Powys - am greu raglen werth ei wylio - Llongyfarchiadau i'r ddau.

2 comments:

  1. Anonymous9:09 pm

    Gwell na'r ddadl gyntaf yn y Fflint. Roedd honno yn horlics. Dwi hefyd wedi synnu o'r ochr orau gyda Ieuan. Mae wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol ond yn ystod yr etholiad mae wedi perfformio yn gyson dda yn wahanol efallai i Elfyn sydd heb fod ar ei orau.

    ReplyDelete
  2. Newydd weld y drafodaeth ac yn cytuno i bob pwrpas. Roedd Ieuan Wyn Jones yn dda iawn. Peter Hain wedi gwneud yn dda o ystyried y her a oedd yn ei wynebu, er mai fo oedd testun llid y gynulleidfa yn fwy na neb arall. Kirsty oedd Kirsty - mi gafodd dderbyniad digon da ond dwi dal methu ei licio hi iot!

    Dwi'm yn siwr am Nick Bourne fodd bynnag - ro'n i'n ei weld o'n ymylol iawn yn y dadlau ac ni grëodd argraff arna i.

    ReplyDelete