12/05/2010

Rhybudd Tywydd!

Peidiwch a mynd yn agos i Gefnddwysarn, Ponterwyd, na'r llechwedd goediog uwchlaw afon Dwyfor yn ystod y dyddiau nesaf, bydd yr hinsawdd yn droellog braidd wrth i gyrff Geraint Howells, Lloyd George a Tom Ellis troi yn eu beddau!

Pwy fyddai'n gallu dychmygu mae'r Blaid Ryddfrydol, anghydffurfiol Gymreig, o bob Blaid, byddai'n troi i fod yn blaid y Sais, yn Blaid y Mewnfudwr, y blaid sy'n gwneud elw gwleidyddol o ladd ar ddiwylliant ac iaith Cymru?

Mae'n debyg mae Wrth-Gymreictod bu apêl fwyaf y Rhyddfrydwyr yn ymgyrchoedd Arfon, Aberconwy a Cheredigion yn ystod etholiad eleni!

Anhygoel!

I ba le aeth Cymru Fydd?

2 comments:

  1. Digon gwir, cwestiwn da am lle mae Cymru Fydd, oes yna ffasiwn beth ag anghydffurfiaeth radical Gymreig yn dal i fod yn unryw blaid wleidyddol yn g Nghymru?

    ReplyDelete
  2. Anonymous3:13 pm

    Hen, hen hanes yw mudiad Cymru Fydd. Yn fy marn i nid oes elw yn ei drafod erbyn hyn, Alwyn. Onid yr hyn y dylem ymboeni amdano'r dwthwn hwn yw am ba hyd fydd priodas y Ceidwadwyr dan David Cameron ddoeth gyda'r Democtratiaid Rhyddfrydol fradwrus dan Nick Clegg yn parhau o ystyried mai dim ond cytundeb ar bapur yn hytrach na daliadau cydymffurfiol yw'r unig gymrwd sy'n eu smentio wrth ei gilydd? A fydd y pleidiau crybwylliedig wedi ysgaru cyn yr etholiad nesaf a fwriedir ei chynnal yn ystod mis Mai 2015, tybed?

    ReplyDelete